Cyhoeddi yn gyntaf: 15/03/2024 -
Wedi diweddaru: 22/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Prosiect croesawu bywyd gwyllt yn Aberdâr yn dod â’r gymuned ynghyd
Mae prosiect Gardd Wenyn Gyfeillgar yn Aberdâr (Cwmdare4Cwmdare Bee Friendly Garden) wedi trawsnewid darn o dir, a fu unwaith yn wag, yn ofod lle gall bywyd gwyllt ffynnu, ac yn fan lle gall y gymuned ddod at ei gilydd.
Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl gydag arian o gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd, ynghyd â chefnogaeth gan gynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a reolir gan Cadwch Gymru’n Daclus. Darparwyd deunyddiau, adnoddau ac offer gan y cynllun hwn er mwyn rhoi hwb cychwynnol i’r fenter, gan helpu’r gymuned i ddod ynghyd i adfer y tir a chreu gofod amlbwrpas ar gyfer unrhyw beth, o gynnal digwyddiadau i ddianc i ganol byd natur o ddydd i ddydd.
Sut mae cynlluniau ailwylltio fel y rhain yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd?
Mae prosiectau fel Cwmdare4Cwmdare yn enghraifft wych o sut y gall syniadau bychain flodeuo yn fentrau cymunedol sydd o fudd i bawb sy’n cymryd rhan – gan gynnwys ein bywyd gwyllt.
Gyda chymorth cynlluniau arbenigol fel Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol i Natur, maen nhw’n hawdd eu gosod ar waith.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru’n Daclus, “Mae’r pecyn cychwyn bywyd gwyllt, sy’n rhan o gynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, wedi’i gynllunio i roi’r offer, y cyfarpar a’r adnoddau sydd eu hangen ar gymunedau i roi hwb cychwynnol i’r gwaith a rheoli eu prosiectau yn annibynnol. Mae ein llawlyfr yn cynnig syniadau i gymunedau, ac mae ein hymgynghorwyr yn rhannu cefnogaeth yn ôl yr angen.”
Dywedodd ysgrifennydd y grŵp, Ann Crimmings, sydd wedi bod yn ymwneud â datblygu’r gofod, “Mae’r arian o gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd, ynghyd â’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan Cadwch Gymru’n Daclus drwy’r pecyn cychwyn gardd bywyd gwyllt wedi bod yn wych.”
Derbyniodd Ann a’r tîm o wirfoddolwyr becyn yn cynnwys bylbiau, blychau cynefin, llwyni a phlanhigion dringo, compost ar gyfer gwely wedi’i godi a delltwaith, offer, cyfarpar fel menig a chan dyfrio, a llawlyfr. Roedd hyn yn galluogi’r tîm bach i glirio’r llain oedd wedi gordyfu a’i drawsnewid i’r gofod cymunedol a welir heddiw.
Bellach mae gan ardd Cwmdâr declynnau porthi adar, tŷ adar, tŷ draenogod, a chynlluniau ar gyfer nifer o westai chwilod. Mae yno hefyd ardal blodau gwyllt er mwyn annog gwenyn, gloÿnnod byw, a bywyd gwyllt lleol arall. Maen nhw wedi codi a gosod gwelyau uchel er mwyn tyfu ffrwythau a llysiau tymhorol, yn ogystal â gosod meinciau i bobl eistedd a mwynhau’r olygfa dros Fannau Brycheiniog, a sied ar gyfer cadw offer a chyfarpar.
Yn 2022, dyfarnwyd statws ‘caru gwenyn’ i’r ardd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r grŵp hefyd wedi plannu nifer o goed ffrwythau mewn ‘perllan’ fach y tu ôl i’r prosiect ac maent bellach yn dechrau gweithio ar gynlluniau ar gyfer y cam nesaf - yr ardal flaen fydd yn cynnwys seddau ac yn hygyrch i bawb.
Pam gweithredu?
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, “Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth ein planhigion a’n bywyd gwyllt. Mae angen inni eu hamddiffyn gymaint ag y gallwn.
“Mae’n wych gweld pobl fel Ann yn mynd ati’n rhagweithiol i wneud newidiadau pwysig i’w cymunedau a gweld y gwahaniaeth cadarnhaol y mae hyn wedi’i wneud i’r rhai o’u cwmpas. Mae’n dangos sut, trwy wneud newidiadau gyda’n gilydd, y gallwn gael mwy o effaith ar fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
Mae Ann yn cytuno, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cael y gymuned i gymryd rhan. “O blant ysgol a blannodd flodau’r haul, i aelodau hŷn y pentref – mae ailddatblygu ac adfywio’r ardal wedi dod yn brosiect ar gyfer y gymuned gyfan. Mae pawb wedi dod ynghyd i helpu, ac yn ogystal â helpu’r amgylchedd naturiol, rydym wedi creu gofod i bawb ei ddefnyddio a’i fwynhau.”
Beth mae Cymru yn ei wneud?
Mae cynllun Pecynnau Cymunedol Lleoedd Lleol i Natur gan Cadwch Gymru'n Daclus yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cymryd camau er mwyn addasu i effaith newid hinsawdd. Y nod yw lleihau’r bygythiad y mae’n ei achosi – yn enwedig i’n cymunedau mwy bregus – yn ogystal â helpu’r cymunedau hyn i ddod yn fwy gwydn yn wyneb y risgiau. Mae’r gweithredoedd yn cynnwys:
Annog mwy o goetiroedd a chynefinoedd eraill i helpu natur ac ansawdd aer, diogelu priddoedd a lleihau perygl llifogydd
Creu mwy o fannau agored mewn trefi a dinasoedd fel parciau, rhandiroedd, pyllau a choetiroedd, gan greu amgylchedd sy’n dda i les pobl yn ogystal â’r hinsawdd
Rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol