Cyhoeddi yn gyntaf: 30/08/2024 -

Wedi diweddaru: 25/09/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Medi Ail-Law: ffordd eco-gyfeillgar i siopa!

Croeso i fis Medi ail-law! Os nad ydych erioed wedi clywed amdano o'r blaen, peidiwch â phoeni - rydych ar fin darganfod ffordd wych effeithiol o helpu ein planed gan ddarganfod pethau gwych ar yr un pryd.

Felly, beth yw mis Medi ail-law, a sut allwch chi gymryd rhan? Beth am egluro!

two ladies sorting through a box of clothes

Beth yw mis Medi ail-law?

Mae Medi Ail-Law yn ymgyrch sy'n annog pawb i brynu eitemau ail-law yn unig am y mis cyfan. Mae'n ffordd wych o hyrwyddo siopa cynaliadwy, lleihau gwastraff, a rhoi bywyd newydd i eitemau ail-law. Hefyd, mae'n her a all arwain at ddarganfyddiadau ffasiwn ac addurno'r cartref unigryw!

Pam ddylech chi gymryd rhan?

Currency_icon

Arbed Arian

Trwy ddewis eitemau ail-law, byddwch yn arbed ceiniog neu ddwy. P'un a ydych yn chwilio am ffasiwn o safon uchel, dodrefn ffasiynol, neu declynnau, mae prynu eitemau ail-law yn aml yn rhatach. Mae mwy o gynilion yn golygu mwy o arian ar gyfer profiadau sy'n rhoi mwynhad parhaol, fel cyngherddau, sioeau, neu penwythnos o wyliau!

Arrow circle right

Lleihau Gwastraff ac Ôl-Troed Carbon

Oeddech chi'n gwybod bod gor-ddefnyddio adnoddau yn sbardun mawr i newid hinsawdd? Mae cynhyrchu eitemau bob dydd, o geir i ddillad, yn cyfrif am 45% o allyriadau carbon byd-eang.  Trwy brynu llai a dewis ail-law, rydych yn lleihau'r galw am gynhyrchion newydd, gan ddefnyddio llai o ynni ac achosi llai o lygredd. Mae'n fuddugoliaeth i chi a'r blaned!

Arrow pointing right

Cael Pleser o Brofiadau Unigryw

Mae prynu yn newydd yn rhoi hapusrwydd, ond yn aml mae'n fyrhoedlog. Gall chwilio am drysorau ail-law fod yn antur, gan roi boddhad hirdymor a straeon y tu ôl i bob eitem. Hefyd, mae gwybod eich bod yn helpu'r amgylchedd yn teimlo'n eithaf gwych hefyd.

lady standing in a shop

Sut i Gymryd Rhan

Meddyliwch Cyn Prynu

Un o'r ffyrdd gorau o ddechrau yw oedi cyn unrhyw bryniant. Gofynnwch i chi'ch hun, 'Oes gwir angen hwn arnai?' Yn aml, efallai mai'r ateb yw na, sy'n golygu eich bod yn arbed arian ac adnoddau.

Rhannu, Benthyca, Rhentu, neu Brynu Ail Law

Chwiliwch mewn siopau elusen, siopau bach hen bethau o safon, a marchnadoedd ar-lein fel eBay neu Vinted. Mae apiau fel Olio a gwefannau fel Freecycle yn drysorfeydd i ddod o hyd i eitemau nad oes eu hangen ar eraill mwyach. Ar gyfer anghenion tymor byr, ystyriwch fenthyca, rhentu neu gyfnewid gyda ffrindiau neu deulu.

Buddsoddi Mewn Safon

Pan fydd angen i chi brynu, dewiswch eitemau sydd wedi'u creu i bara. Mae ansawdd dros faint yn sicrhau nad ydych yn prynu rhywbeth a fydd yn mynd i'r bin yn gyflym. Hefyd, mae trwsio eitemau yn hytrach na'u newid yn ffordd wych o ymestyn eu bywyd ac arbed arian.

Defnyddio eich Pŵer Prynu yn Ddoeth

Cefnogi busnesau sy'n mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo arferion moesegol. Cynnal gwaith ymchwil cyn prynu i sicrhau eu bod yn blaenoriaethu cynaliadwyedd, cyflogau teg, a gweithrediadau ecogyfeillgar. Mae'r cyfeiriadur Good On You yn adnodd gwych ar gyfer gwirio moeseg brandiau ffasiwn.

Dewis Deunyddiau Naturiol

Dewiswch ddillad wedi'u gwneud o ddeunyddiau naturiol, bioddiraddadwy fel cotwm organig, lliain a bambŵ. Dylech osgoi ffabrigau synthetig sy'n gadael ffibrau niweidiol ar eu hôl a chwilio am opsiynau wedi'u hailgylchu pan fyddant ar gael.

Siopa'n Lleol

Mae cefnogi busnesau bach yn eich ardal yn lleihau'r angen am deithio mewn car a phecynnu gormodol. Mae siopau lleol yn aml yn cynnig cynhyrchion unigryw, cynaliadwy na fyddwch yn dod o hyd iddynt rhywle arall.

Gwirio Labeli

Chwiliwch am ddeunyddiau eco-gyfeillgar a llai o gemegau gwenwynig. Po fwyaf syml a naturiol yw'r cynhwysion neu'r deunyddiau, y gorau ydynt i’r blaned.

Osgoi Plastig a Gormod o Ddeunydd Pacio

Dewiswch gynhyrchion gyda llai o becynnu neu becynnu ailgylchadwy. Mae siopau diwastraff yn wych ar gyfer prynu hanfodion cartref y gellir eu hail-lenwi heb blastig di-angen.

Dewiswch Masnach Deg

Mae prynu cynhyrchion masnach deg yn sicrhau parch at yr amgylchedd a thriniaeth deg i weithwyr. Chwiliwch am y nod Masnach Deg neu warant Sefydliad Masnach Deg y Byd.

Prynu Ar-lein yn Ddoeth

Wrth siopa ar-lein, bwndelu eich pryniannau i leihau deunydd pacio a danfoniadau. Dewiswch opsiynau cyflenwi arafach i leihau allyriadau carbon o ddanfoniadau sengl.

Clothes on a rail

Pam ddylwn i brynu'n ail law? Pa wahaniaeth fydd yn ei wneud?

Diogelu Coedwigoedd Glaw a Bioamrywiaeth

Mae prynu ail-law yn lleihau'r angen am fewnforion sy'n arwain at ddatgoedwigo a dinistrio cynefinoedd. Mae hyn yn helpu i warchod coedwigoedd glaw a'r rhywogaethau amrywiol sy'n byw yno.

Diogelu Ansawdd Dŵr

Gall gweithgynhyrchu cynhyrchion newydd lygru ffynonellau dŵr. Mae dewis eitemau a gynhyrchir yn gynaliadwy yn helpu i gadw ein dŵr yn lân ac yn amddiffyn ecosystemau dyfrol.

Cefnogi Arferion Moesegol

Mae siopa cynaliadwy yn cefnogi cwmnïau sy'n sicrhau cyflogau teg ac amodau gwaith diogel. Mae eich dewisiadau yn hyrwyddo arferion busnes mwy cyfrifol.

 Ymunwch â'r Mudiad!

Mae Medi Ail-Law yn fwy na her siopa yn unig; mae'n fudiad tuag at ffordd fwy cynaliadwy a meddylgar o fyw. Felly, ewch i'ch siopau ail-law lleol, chwilio marchnadoedd ar-lein, a rhannwch eich darganfyddiadau ail-law gyda balchder. Gadewch i ni wneud gwahaniaeth, un trysor ail-law ar y tro!

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol