Cyhoeddi yn gyntaf: 06/12/2024 -

Wedi diweddaru: 06/12/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Tymor y robin goch

Drwy fis Rhagfyr, bydd llawer ohonom yn falch o gael croesawu'r robin goch i'n gerddi a'n parciau a’i weld yn addurno cardiau, siwmperi, papur lapio a thuniau bisgedi'r ŵyl. Mae'n aderyn bach amlwg iawn gyda'i blu coch llachar a'i gân hardd, pruddglwyfus.

Ond beth yw cysylltiad y robin goch â'r Nadolig? Wel, un rheswm yw bod postmyn ym Mhrydain yn oes Victoria wedi cael y llysenw 'robins' am eu bod yn gwisgo lifrau coch llachar. Daeth y robin yn raddol i fod yn symbol ar y cardiau yr oedd y postmyn yn eu cario i’n tai.

Yr adeg hon o'r flwyddyn mae'r robin goch yn brysur yn chwilio am gymar. Pan fydd yr iâr wedi cael hyd i gymar, bydd y pâr yn rhannu tiriogaeth ac yn ei amddiffyn yn frwd gan fflachio’r frest goch i rybuddio unrhyw robin arall sy'n dod yn rhy agos.

Wrth i ni dacluso ein gerddi, bydd y robin yn aml yn dod yn agos gan wneud i ni deimlo ein bod wedi gwneud ffrind arbennig. Ond y gwir yw mater o fwyd a goroesi yw hyn. Nhw yn aml yw'r cyntaf i gyrraedd wrth i ni wasgaru cnau a hadau ar y bwrdd adar a byddant yn aros yn eiddgar wrth i ni balu neu droi'r pridd am fwydyn neu bry genwair blasus.

Er bod poblogaeth dda o'r robin ym Mhrydain, mae gaeafau oer yn eu taro'n galed a gall robin golli hyd at 10% o'i bwysau mewn cyfnod byr iawn. Os medrwch, rhowch ddigonedd o fwyd iddo ar eich bwrdd adar. Mae'r robin yn tueddu i chwilota’r llawr am ei fwyd, felly bwrdd adar gwastad sy fwyaf addas iddo. Mae cynrhon y blawd (mealworms) yn llawn protein ac yn bendant yn un o'i hoff fwydydd. Maen nhw'n rhoi’r bloneg a’r egni sydd eu hangen ar y robin i gadw’n gynnes ac i oroesi misoedd y gaeaf. Peidiwch ag anghofio chwaith y bydd angen dŵr arno hefyd.

Ym mis Ionawr bydd llawer o robinod yn dechrau chwilio am le i nythu.

Un prosiect cymunedol y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol iddo i helpu byd natur lleol yw prosiect 'Forage, Nest and Rest' Fferm Holistig Cae Rhug ger yr Wyddgrug.

Mae'r prosiect, gydag arian Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS), am greu llwybr cerdded 1km o hyd fydd yn darparu lloches, bwyd a chynefin bridio i adar, gyda seddau a chuddfan gwylio adar i ymwelwyr â'r fferm. Bydd cyfleoedd i ymwelwyr adeiladu blychau nythu, plannu coed a chreu pyllau iddyn nhw allu bod yn rhan o natur a gweithio dros natur.

Os hoffech chi helpu robinod ac adar eraill yn eich ardal, beth am godi blychau nythu. Yn teimlo'n greadigol? Gwnewch eich blwch nythu eich hun o bren cynaliadwy. Cadwch y blew o'ch brwsh gwallt, neu frwsh eich anifail anwes, a'u gadael yn yr ardd fel deunydd nythu.

I robinod mae lleoliad y blwch nythu yn hollbwysig. Mae angen ei amddiffyn rhag gwynt, glaw a heulwen a rhaid iddo beidio â bod yn rhy uchel oddi ar y ddaear. Bydd perth (gwrych) neu blanhigyn dringo trwchus yn ddelfrydol, gan guddio'r nyth rhag ysglyfaethwyr a bydd y tyfiant trwchus yn helpu’r cywion wrth iddynt adael y nyth.

Nid oes ofn y 'gwahanol' ar robinod wrth ddewis nyth ac maent yn barod i nythu mewn lleoedd eithaf rhyfedd. Yn hytrach na’u taflu, beth am osod hen debot neu degell (heb y clawr) neu hyd yn oed hen esgid yng nghanol y tyfiant ac efallai yn y Gwanwyn, y gwelwch fod pâr o robinod wedi’u troi’n gartref.

Byddai'n dda cael gweld lluniau o'ch blychau nythu cartref neu 'wahanol'. Rhannwch lun a’n tagio ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r hashnod #GweithreduArHinsawdd

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol