Cyhoeddi yn gyntaf: 15/03/2024 -
Wedi diweddaru: 01/04/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae bywyd yn fêl i gyd i drigolion a’u gardd wyllt gymunedol
Mae prosiect Gardd Wenyn Cwmdare4Cwmdare wedi trawsnewid darn o dir diffaith i fod yn hafan nid yn unig i fywyd gwyllt, ond hefyd i’r trigolion lleol.
:fill(fff))
Mae darn o dir a aeth yn angof o dan sbwriel ger Aberdâr wedi dod yn lloches i fyd natur lle mae gwenyn a chreaduriaid eraill yn ffynnu – diolch i ymdrechion gwirfoddolwyr lleol. Ar ben hynny, mae’r ardd nawr yn gwch gwenyn prysur o gymdeithasu i aelodau’r gymuned.
Mae Cwmdare4Cwmdare wedi gweddnewid y gofod yn gartref gwerthfawr i natur, gyda byrddau bwydo a thŷ adar, a thŷ draenogod er mwyn denu ac amddiffyn rhywogaethau cynhenid. Mae yna ardal blodau gwyllt i ddenu gwenyn, gloÿnnod byw a pheillwyr eraill, ac arweiniodd hyn at dderbyn statws Caru Gwenyn gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn 2022.
Hyd fideo:
47 seconds
Fe ddechreuodd y grŵp y prosiect drwy gymorth ariannol gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Derbyniodd y gwirfoddolwyr hefyd becyn creu gardd wyllt gan gynllun Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur, a reolir gan Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys bylbiau, blychau cynefin, llwyni, planhigion dringo, compost a dellt, yn ogystal â llawlyfr ac offer garddio megis menig a chan dyfrio.
Dywed Owen Derbyshire, Prifweithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Diben y pecyn hwn ydy darparu’r offer ac adnoddau angenrheidiol i gymunedau fel y gallan nhw reoli eu prosiectau mewn modd annibynnol. Mae ein llawlyfr yn llawn syniadau a gall ein hymgynghorwyr fod o gymorth pan fo angen.”
“Roedd gyda ni weledigaeth, ac mae wedi bod yn anhygoel ei weld yn dwyn ffrwyth. Mae’r arian gan gynllun Pen y Cymoedd, ynghyd â chefnogaeth gan Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn ffantastig.”
Ann Crimmings, ysgrifennydd Cwmdare4Cwmdare
Mae prosiectau ail-wylltio fel Gardd Wenyn Cwmdare4Cwmdare yn ffyrdd hanfodol i amddiffyn ac adfer ein hamgylchfyd naturiol. Mae colli cynefinoedd yn fygythiad gwirioneddol i fioamrywiaeth, gydag amifeiliaid yn diflannu wrth i’r llefydd yr arferent eu galw yn gartref yn cael ei ddinistrio. Mae’n fater brys: yng Nghymru, mae un o bob chwech rhywogaeth yn wynebu difodiant.
Lle i bawb
Yn ogystal â rhoi hwb i fioamrywiaeth, mae’r gwirfoddolwyr wedi creu gofod I’r gymuned gyfan. Mae Cwmdare4Cwmdare wedi gosod gwelyau uchel lle gall pobol dyfu ffrwythau a llysiau tymhorol, ac wedi gosod meinciau lle gall ymwelwyr gwrdd, cymdeithasu a gwerthfawrogi’r golygfeydd hardd o Fannau Brycheiniog.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ardal hygyrch i eistedd, gan sicrhau bod mwy fyth o bobol yn gallu cael budd o dreulio amser yn yr ardd.
Mae’r prosiect wedi helpu i ddod â phobol Cwmdâr at ei gilydd. Meddai Ann Crimmings: “O’r plant ysgol a blannodd flodau’r haul i drigolion hŷn y pentre, mae adnewyddu’r ardal hon wedi troi’n brosiect i’r gymuned gyfan. Mae pawb wedi dod ynghyd i helpu – ac rydyn ni wedi creu gofod y gall pawb ei ddefnyddio a’i fwynhau.
Sut allwch chi helpu
Mae prosiectau fel yr ardd wenyn yn enghraifft wych o sut y gall egin syniadau flodeuo mewn i fentrau cymunedol, gan arwain at fudd i’n hamgylchfyd naturiol a chan gyfoethogi ein bywydau. Mae’n syndod o rwydd i chi hau hadau eich prosiect eich hun, diolch i gynlluniau fel Lleoedd Lleol Ar Gyfer Natur.
Mae nifer y ffyrdd eraill i hybu byd natur yng Nghymru. Dysgwch am brosiectau cadwraeth lleol, neu ewch yn wirfoddolwr gyda Bioamrywiaeth Cymru. Gallwch hefyd helpu gwyddonwyr drwy ymuno â’r gymuned fyd-eang iNaturalist, a lawrlwytho ap i wneud cofnodion pan welwch blanhigion a chreaduriaid yn eich ardal.
Mae cynhesu byd-eang yn fygythiad uniongyrchol i’n planhigion ac i’n bywyd gwyllt – ond gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.