Cyhoeddi yn gyntaf: 23/04/2025 -
Wedi diweddaru: 23/04/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Newid arferion torri glaswellt i achub bywyd gwyllt
Mae torri eich glaswellt yn llai aml yn un o’r ffyrdd hawsaf i ganiatáu i flodau dyfu a darparu bwyd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall.
:fill(fff))
Ar draws mannau cyhoeddus fel parciau ac ymylon ffyrdd, efallai y byddwch yn sylwi ar ardaloedd yn cael eu rheoli'n wahanol, gyda glaswellt hirach yn creu ardaloedd tebyg i ddôl neu neithdar. Mae'r rhain yn darparu cynefinoedd i fywyd gwyllt. Hyd yn oed os yw rhai o'r clytiau hyn yn fach, byddant i gyd gyda'i gilydd yn ardal fawr. Bydd bywyd gwyllt yn gallu symud rhwng cynefinoedd wrth iddynt gysylltu â'i gilydd.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw menter Llywodraeth Cymru i greu natur ar garreg eich drws. Mae'n darparu cymorth a chyllid i reolwyr tir nid-er-elw fel awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref i hyfforddi staff a phrynu offer fel peiriannau torri a chasglu. Mae hyn yn helpu sefydliadau'r sector cyhoeddus i newid eu harferion torri glaswellt mewn ffordd a reolir yn gynaliadwy ac ehangu'r ardaloedd lle gallant wella bioamrywiaeth.
Mae Ymgyrch 'Iddyn Nhw' Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at sut mae torri glaswellt yn llai aml a chasglu toriadau glaswellt yn creu cynefinoedd i infertebratau, adar, mamaliaid bach, amffibiaid ac ymlusgiaid. Gall ysgolion a grwpiau ieuenctid gael mynediad at adnoddau addysgol i ddysgu pwysigrwydd arferion sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt.
O tua mis Ebrill ymlaen, mae blodau gwyllt yn tyfu mewn glaswellt sydd ychydig yn hirach. Bydd torri a chasglu gwahanol ardaloedd mewn cylchdro o 4-8 wythnos gyda'r llafn wedi'i osod ar 2.5-5cm (1-2 fodfedd) yn rhoi'r cyfle iddynt flodeuo.
:fill(fff))
Camau ar gyfer newid sut rydych chi'n torri glaswellt:
Gohirio torri glaswellt tan ddiwedd y gwanwyn.
Creu clytiau sy'n llawn neithdar trwy dorri glaswellt mewn cylchdro.
Trawsnewid rhan o'ch lawnt yn hafan tebyg i ddôl.
Am fanylion ar sut y gallwch wneud hyn, gweler tudalennau 21-23 yn y llyfryn Plannu Cyfeillgar i Beillio.
Bob tro rydych chi'n torri neu’n strimio, mae'n bwysig casglu toriadau glaswellt. Mae hyn yn atal glaswellt marw rhag cronni, a all dagu planhigion bregus. Mae angen tir agored ar blanhigion i hadau dyfu. Mae casglu'r glaswellt marw hefyd yn lleihau ffrwythlondeb y pridd, sy'n cyfyngu ar dwf glaswelltau sy'n tyfu'n gyflym sy'n gallu tagu blodau gwyllt.
Cyn strimio neu dorri, gwnewch yn siŵr nad oes draenogod yno. Pan fyddant dan fygythiad, mae draenogod yn cyrlio i fyny mewn pêl dynn ac nid ydynt yn symud, sy'n eu gwneud yn agored i niwed. Os ydych yn dod o hyd i ddraenog, gadewch lonydd iddo, a pheidiwch â thorri'r glaswellt yn yr ardal honno. Mae ysbytai draenogod a chanolfannau achub yn derbyn llawer o ddraenogod sydd ag anafiadau gwael gan strimwyr, a all fod yn angheuol.
:fill(fff))
Planhigion 'Mai Di Dor' Bellach yn ei seithfed blwyddyn, mae yn ysbrydoli garddwyr ym mhob man i roi hwb i fioamrywiaeth trwy ganiatáu i flodau gwyllt y gwanwyn ffynnu. Y mis Mai hwn rhowch y gorau i ddefnyddio y peiriant torri gwair a rhowch gyfle i fywyd gwyllt! Mae cofrestru ar gyfer yr ymgyrch bobogaidd hon yn agor ym mis Ebrill. Cofrestrwch a chymerwch ran yn y newid.
Wrth i'ch gardd ddod yn fyw, treuliwch ychydig funudau yn gwylio pryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw yn ymweld â'ch blodau a chymerwch ran yn Y Cyfrif FIT (Cyfrif y Pryfed sy'n Ymweld â'ch Blodau). Mae'r arolwg 10 munud syml hwn yn casglu data gwerthfawr ar nifer y pryfed sy'n ymweld â blodau penodol ac mae pob cyfrif yn ein helpu i fesur tueddiadau mewn poblogaethau pryfed peillio. Gellir gwneud Cyfrifoedd FIT mewn tywydd cynnes, sych o fis Ebrill i fis Medi.
Os nad oes gennych fan gwyrdd eich hun, gallech ymweld â'ch parc lleol neu ardd gymunedol. Gallwch ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch a hyd yn oed ap i gymryd rhan ar wefan Cynllun Monitro Pryfed Peillio y DU.
:fill(fff))
Byddem wrth ein boddau yn gweld sut rydych yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu. P'un a ydych yn newid eich arferion torri glaswellt, yn plannu blodau sy'n gyfeillgar i bryfed peillio, neu yn arsylwi pryfed yn eich hoff fan gwyrdd, rhannwch eich lluniau gyda ni a gadewch i ni ddathlu harddwch natur gyda'n gilydd.