Cyhoeddi yn gyntaf: 14/11/2024 -
Wedi diweddaru: 14/11/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Natur yn y gaeaf
Mae 1 Tachwedd yn nodi diwrnod cyntaf y Gaeaf yng Nghymru, Calan Gaeaf, ac er bod y nosweithiau'n tynnu i mewn ymhellach a’r tymheredd yn gostwng mae digon o resymau o hyd i archwilio a chysylltu â natur.
Os ydych chi am weld un o olygfeydd mwyaf godidog y byd natur ewch i Warchodfa Natur Corsydd Teifi lle mae drudwennod yn creu sioe hudol wrth furmur, gan chwyrlio a throi a dychwelyd i'w man clwydo dros y gaeaf ar ôl bwydo.
Bydd gwiwerod coch yn brysur yn chwilio am fwyd ar gyfer y gaeaf. Un o'r llefydd gorau i weld y mamaliaid hyfryd hyn yw Plas Newydd ar Ynys Môn neu Barc Mawr ym mhen gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri.
Ym mis Tachwedd nid yn unig mae'r coed yn ffurfio tapestri gogoneddus o liwiau coch tanllyd, oren disglair, copr a melyn euraidd ond mae llwyth o aeron fel tlysau bach yn ein parciau a'n gerddi yn ffynhonnell hanfodol o fwyd ac yn denu adar o bob cwr o'r byd i Gymru.
O Sgandinafia, mae Esgyll Cochion yn heidio i wledda ar yr aeron a gynhyrchir gan lwyni fel y ddraenen wen a'r ysgawen.
Mewn perllannau, efallai y gwelwch Gesig y Ddrycin yn gwledda ar ffrwythau sydd wedi disgyn er mwyn ailgyflenwi'r egni y maent wedi'i ddefnyddio ar eu taith o'u tiroedd bridio yng Ngwlad yr Iâ a Gogledd Ewrop.
Ar eich llyn neu bwll lleol, cadwch lygad am Chwiwell neu Orhwyaden yn bwydo ar blanhigion dyfrol ac infertebratau bach, ar ôl teithio o mor bell i ffwrdd â Rwsia i ddianc rhag tymheredd rhewllyd y gaeaf.
Wrth gerdded mewn coetiroedd, chwiliwch am liwiau hardd cennau, cymysgedd o ffyngau ac algâu, sydd fel arfer wedi'u cuddio gan redyn ond sy'n ymddangos yn hudol wrth i'r rhedyn farw'n ôl gyda'r tywydd oerach.
Mae'r Coedwigoedd Glaw Celtaidd, a geir mewn ardaloedd sy'n agos at y môr, yn gartref i blanhigion prin, ffyngau'r goedwig a llawer o gennau hardd. Yma gallwch chwilio am rywogaethau fel labed yr ysgyfaint, cen gwyrdd llachar sy'n debyg i ysgyfaint!