Cyhoeddi yn gyntaf: 11/02/2025 -
Wedi diweddaru: 11/02/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Darganfod rhyfeddodau gwlyptiroedd Cymru
O gorsydd a ffeniau i forfeydd a siglenni, mae'r gwlyptiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi bioamrywiaeth, lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd dŵr a darparu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd.
:fill(fff))
Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru, yn gyfnod hudolus o drawsnewid cynnil, lle mae oerni'r gaeaf yn dechrau ildio i sibrydion cyntaf y gwanwyn. Mae gwlyptiroedd Cymru, gyda'u hecosystemau unigryw, yn cynnig cipolwg hudolus ar y byd naturiol yn ystod y cyfnod trosiannol hwn.
Y gwlyptiroedd yn deffro
Wrth i'r dyddiau ymestyn yn raddol, mae bywyd ar y gwlyptiroedd yn dechrau deffro. Un o'r golygfeydd mwyaf hudolus yw dawns garu y Gwyachod Mawr Copog. Mae'r adar hardd hyn yn perfformio bale cydamserol ar y dŵr, arddangosfa gyfareddol o serch a phartneriaeth. Mae eu symudiadau cymhleth a'u plu trawiadol yn eu gwneud yn uchafbwynt i unrhyw un sy'n frwd dros natur.
:fill(fff))
Paradwys i wylwyr adar
Nawr hefyd yw'r amser gorau i wylio adar ar wlyptiroedd Cymru. Mae crehyrod glas, gyda'u pigau hir a'u presenoldeb urddasol, yn dechrau ymgynnull mewn safleoedd nythu cymunedol o'r enw crëyrfeydd. Mae'r adar mawreddog hyn, a welir yn aml ar eu pennau eu hunain, yn dod at ei gilydd i baratoi ar gyfer y tymor bridio. Mae gweld yr adar mawr hyn yn hedfan i mewn ac allan o'r gwlyptiroedd yn olygfa fythgofiadwy.
:fill(fff))
Hyfrydwch arall yw sŵn curo'r Gnocell Fraith Fwyaf. Wrth iddynt sefydlu eu tiriogaethau, mae'r cnocellau coed yn creu sain curo rhythmig sy'n adleisio trwy'r gwlyptiroedd. Mae eu plu du a gwyn llachar, gyda fflachiadau o goch, yn ychwanegu sblash o liw i dirwedd y gaeaf.
Fflora a ffawna
Nid adar yn unig sy'n byw ar y gwlyptiroedd. Bydd planhigion hefyd yn dechrau dangos arwyddion o fywyd newydd, gyda chynffonnau wyn bach yn ymddangos ar goed, gan ychwanegu ychydig o feddalwch at olygfeydd llwm y gaeaf. Mae'r arwyddion cynnar hyn o'r gwanwyn yn ein hatgoffa o wytnwch a natur gylchol yr ecosystem.
Gweithio gyda'n gilydd dros natur
Mae Cymru'n llawn prosiectau cyffrous sydd â'r nod o adfywio ei gwlyptiroedd a hybu bioamrywiaeth, ac mae cymunedau lleol yn chwarae rhan hanfodol yn y prosiectau hynny. Cefnogir nifer o'r prosiectau hyn gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect "Mae Natur yn Cyfri!” o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn enghraifft wych. Gall cymunedau lleol gymryd rhan drwy gynnal arolygon a helpu i nodi ardaloedd cadwraeth allweddol mewn gwlyptiroedd a chynefinoedd eraill, gan helpu rhywogaethau brodorol i ffynnu.
Yng Nghwm Elan hardd, mae'r prosiect "Cyfoethogi Rhywogaethau a Chynefinoedd" yn adfer cynefinoedd ar gyfer adar prin fel y barcud coch. Mae gwirfoddolwyr lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli cynefinoedd a chymryd rhan mewn rhaglenni addysgol am fioamrywiaeth.
:fill(fff))
Fel gwirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, gallwch helpu i adfer un o famaliaid mwyaf cyfareddol y DU, sydd hefyd mewn perygl, llygoden y dŵr. Gall gwirfoddolwyr helpu i olrhain niferoedd a symudiadau llygod y dŵr ar draws Gwastadeddau Gwynllŵg a helpu i asesu a gwella'r cynefin gwlyptir sydd ei angen ar lygod y dŵr i ffynnu.
Ffyrdd o gael effaith gadarnhaol ar gadwraeth gwlyptiroedd
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch ysbrydoli i gefnogi gwaith cadwraeth gwlyptiroedd, dyma rai syniadau ar sut i gymryd rhan:
Gwirfoddoli eich amser: Un o'r ffyrdd mwyaf uniongyrchol o gyfrannu yw drwy wirfoddoli. Ymunwch â grwpiau cadwraeth lleol, neu cymerwch ran mewn rhaglenni gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar adfer a chynnal a chadw gwlyptiroedd.
Addysgu a gwella ymwybyddiaeth: Mae dealltwriaeth yn bwerus. Dysgwch am bwysigrwydd gwlyptiroedd a rhannwch y wybodaeth hon gyda'ch cymuned. Gall rhannu manteision gwlyptiroedd ysgogi eraill i gefnogi a chymryd rhan mewn ymdrechion cadwraeth.
Mabwysiadu arferion cynaliadwy: Gall gweithredoedd bob dydd gael effaith sylweddol. Ceisiwch fabwysiadu arferion cynaliadwy yn eich bywyd bob dydd, fel lleihau faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio ac osgoi defnyddio cemegau sy'n niweidio ecosystemau'r gwlyptiroedd. Gyda'i gilydd, gall newidiadau syml wneud gwahaniaeth mawr o ran cadw'r cynefinoedd hyn.
Cymryd rhan mewn gwyddoniaeth i ddinasyddion: Cymerwch ran mewn prosiectau gwyddoniaeth i ddinasyddion, sy'n monitro iechyd a bioamrywiaeth gwlyptiroedd. Drwy gasglu data ac adrodd ar eich canfyddiadau, gallwch gyfrannu at ymchwil wyddonol a helpu i olrhain iechyd gwlyptiroedd dros amser.
Drwy gymryd y camau hyn, gallwch helpu gwlyptiroedd i gadw'n iach a bywiog, cefnogi bywyd gwyllt a darparu buddion hanfodol i'n hamgylchedd.
P'un a ydych chi'n wyliwr adar brwd, yn ffotograffydd natur, neu'n rhywun sy'n gwerthfawrogi harddwch y byd naturiol, mae gwlyptiroedd Cymru yn cynnig profiadau cyfoethog a gwerth chweil. Felly, gwisgwch eich dillad cynnes, cydiwch yn eich ysbienddrych, ac ewch allan i archwilio rhyfeddodau gwlyptiroedd Cymru. Cewch weld byd sy'n deffro o'i aeaf gwsg, yn llawn bywyd ac addewid.
Ydych chi eisoes wedi cymryd unrhyw gamau i gefnogi gwaith cadwraeth gwlyptiroedd? Rhannwch eich profiadau ac ysbrydolwch eraill i ymuno â'r achos.