Cyhoeddi yn gyntaf: 06/12/2024 -

Wedi diweddaru: 06/12/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Beth ydy bioamrywiaeth a sut allwn ni wneud ein rhan i’w amddiffyn?

Awn ar yr antur hon gyda’n gilydd i ddarganfod rhyfeddodau bioamrywiaeth, pam ei fod yn hanfodol a beth allwn ni ei wneud i’w ddiogelu – yn enwedig wrth i newid hinsawdd droi’r drol!

gardening with grandparent

Beth ydy bioamrywiaeth?

Mae bioamrywiaeth fel trysorfa byd natur, yn llawn o filiynau o wahanol rywogaethau o blanhigion, anifeiliaid, ffwng a meicro-organau. Dyma amrywiaeth anhygoel o fywyd sy’n gwneud ein planed mor lliwgar a gwydn. Dychmyga jig-sô anferth lle mae darn yn cynrychioli rhywogaeth – mae pob darn yn hanfodol er mwyn gallu cwblhau’r jig-sô!

Pam bod bioamrywiaeth mor bwysig?

Bioamrywiaeth yw asgwrn cefn ecosystemau iach. Mae’n darparu aer glân, dŵr croyw, pridd ffrwythlon a bwyd ar ein cyfer. Meddylia amdano fel gwe enfawr sy’n cysylltu pob dim lle mae pob rhywogaeth yn chwarae rôl unigryw. Os ydy un edefyn yn torri, gall achosi effaith domino sy’n dymchwel popeth sy’n gysylltiedig ag e.

Mae tua thraean o'n bwyd ni

yn cael ei beillio gan wenyn

33%

Mae rhywogaethau tir a dŵr croyw

Cymru wedi lleihau

20%

Mae 1 o bob 6 o'n rhywogaethau

mewn peryg o ddiflannu

18%

Effaith newid hinsawdd ar fioamrywiaeth

Nawr, dyma dro yn y gynffon – mae newid hinsawdd fel dihiryn sy’n trio gwneud llanast o’n jig-sô prydferth ni. Mae cynydd mewn tymheredd, newid ym mhatrymau’r tywydd a digwyddiadau eithafol fel tanau gwyllt a chorwyntoedd yn peryglu sawl rhywogaeth. Mae rhai’n ei chael hi’n anodd i addasu, ac eraill yn colli eu cartrefi a’u ffynonellau bwyd.

Sut allwn ni gadw bioamrywiaeth i ffynnu?

  • Plannu gerddi cynhenid: Galli di drawsnewid dy ardd gerdd mewn i hafan fach ar gyfer bywyd gwyllt drwy ychwanegu planhigion sy’n frodorol i’r lle rwyt ti’n byw. Maen nhw’n cynnig bwyd a chysgod i fywyd gwyllt lleol ac yn helpu i gynnal y cydbwysedd naturiol.

  • Lleiau dy ôl-troed carbon: Gall pethau fel lleihau dy wastraff, ailgylchu, bwyta llai o gig a chynnyrch llaeth ac arbed ynni yn y cartref helpu i leihau llygredd, sydd, yn ei dro yn helpu i amddiffyn cynefinoedd.

  • Cefnogi dulliau cynaliadwy: Dewisa gynnyrch sydd wedi ei gynhyrchu’n gynaliadwy. Boed yn goffi, siocled neu fwyd y môr, chwilia am arwyddion fel Masnach Deg.

  • Arbed dŵr: Mae defnyddio dŵr yn fwy gofalus yn cadw mwy o ddŵr yn ein hecosystemau i greaduriaid a phlanhigion gael ei ddefnyddio.

  • Addysgu a hyrwyddo: Lleda’r gair! Siarada ag aelodau o dy deulu a ffrindiau am bwysigrwydd bioamrywiaeth. Galli di hefyd gefnogi polisïau a mentrau sy’n amddiffyn cynefinoedd naturiol.

Mae amddiffyn bioamrywiaeth yn waith tîm, ac mae pob gweithred yn cyfri, boed yn fawr neu’n fach. Drwy ddeall pwysigrwydd bioamrywiaeth a gwneud dewisiadau cynaliadwy sy’n garedig i’r amgylchedd, gallwn ni gyd fod yn arwyr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Felly paratown, gweithredwn, a chadwn fioamrywiaeth anhygoel ein planed yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Ymuna i wneud dy ran

Wedi dy ysbrydoli i weithredu? Ffeindia allan sut medri di ddod yn wirfoddolwr gyda Bioamrywiaeth Cymru?

Galli di hefyd ymuno â phrosiectau cadwraeth leol neu apiau fel iNaturalist a chyfrannu ymchwil gwyddonol drwy gadw cofnod o blanhigion ac anifeiliaid rwyt ti’n eu gweld yn y dy ardal!

Cofia, mae natur yn dibynnu arnon ni, a gyda’n gilydd, gallwn ni wneud byd o wahaniaeth.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol