Cyhoeddi yn gyntaf: 22/08/2024 -

Wedi diweddaru: 25/09/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Cadw anifeiliaid yn ddiogel ac yn hapus mewn tywydd cynnes

Awgrymiadau hanfodol i ffermwyr, perchnogion ceffylau, cludwyr a pherchnogion anifeiliaid anwes

Wrth i'r tymheredd godi, mae'n hanfodol gofalu am ein ffrindiau blewog a phluog. P'un a ydych yn ffermwr, yn berchennog ceffyl, yn gludwr, yn berchennog anifeiliaid anwes, neu'n rhywun sy'n caru anifeiliaid, dyma rai awgrymiadau diddorol a hawdd eu dilyn i sicrhau eu lles yn ystod tywydd eithafol.

dog jumping in the grass

Tywydd poeth: curo'r gwres

Gall tywydd poeth fod yn anodd i anifeiliaid. Gall tymheredd uchel, lleithder a newidiadau sydyn yn y tywydd achosi bygythiadau mawr. Mae gwahanol anifeiliaid yn delio â gwres mewn gwahanol ffyrdd, felly dyma beth sydd angen i chi ei wybod:

Anifeiliaid anwes: cadwch eich ffrindiau blewog yn oer ac yn gyfforddus

Mae angen sylw arbennig ar eich anifeiliaid anwes yn ystod tywydd poeth hefyd. Dyma sut i'w cadw'n ddiogel:

Hydradu.

  • Gwnewch yn siŵr fod gan eich anifeiliaid anwes ddŵr ffres bob amser. Rhowch nifer o bowlenni o amgylch y tŷ a'r iard.

  • Pan fyddwch allan, dewch â photel ddŵr gludadwy a bowlen i'ch ci.

Cysgod ac Ardaloedd Oer

  • Gwnewch yn siwr fod gan anifeiliaid anwes ardaloedd cysgodol, yn enwedig os ydynt yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored. Gall coed, canopïau, neu gytiau cŵn wedi'u hawyru'n dda roi cysgod angenrheidiol o'r haul.

  • oOs yw'ch anifeiliaid anwes y tu mewn, cadwch yr amgylchedd yn oer gyda gwyntyllwyr neu dymherwyr. Gall lloriau teils hefyd fod yn lle gwych iddynt orwedd ac oeri.

Cyfyngu ar Ymarfer Corff

  • Cerddwch eich anifeiliaid anwes yn gynnar yn y bore neu'n hwyr gyda'r nos pan fydd y tymheredd yn oerach. Osgoi gweithgareddau egnïol yn ystod rhannau poethaf y dydd.

  • Cadwch lygad ar eich anifeiliaid anwes yn ystod teithiau cerdded ac amser chwarae. Os ydyn nhw'n ymddangos yn flinedig, cymerwch egwyl, a chynnig dŵr.

Peidiwch byth â gadael anifeiliaid anwes mewn car

  • dPeidiwch byth â gadael eich ci mewn car wedi'i barcio, hyd yn oed am ychydig funudau. Gall tymheredd y tu mewn i geir godi'n gyflym, gan arwain at strôc gwres neu hyd yn oed farwolaeth.

Mwynhau bod yn oer a chwarae dŵr

  • Cynigiwch giwbiau iâ i'ch anifeiliaid anwes neu ddanteithion diogel i anifeiliaid anwes wedi'u rhewi i'w helpu i oeri.

  • Gadewch i'ch anifeiliaid anwes sblasio o gwmpas mewn pwll plant bas neu osod chwistrellwr iddynt chwarae ynddo. Goruchwyliwch chwarae dŵr bob amser er mwyn sicrhau diogelwch.

Brwsio

  • Brwsiwch eich anifeiliaid anwes yn rheolaidd i gael gwared â ffwr rhydd, a all eu helpu i gadw'n oer. Fodd bynnag, peidiwch a'u heillio i lawr i'r croen gan fod eu cot yn rhoi amddiffyniad rhag yr haul.

  • Os oes gan eich anifeiliaid anwes ffwr hir, ystyriwch ei dorri ychydig i'w helpu i gadw'n oer, ond ymgynghorwch â thriniwr proffesiynol i sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn ddiogel.

Gwyliwch am arwyddion o straen gwres

  • Byddwch yn ofalus o anadlu gormodol, glafoerio, syrthni, curiad calon cyflym, neu chwydu. Gall y rhain fod yn arwyddion o straen gwres neu drawiad gwres.

  • Os sylwch ar y symptomau hyn, symudwch eich anifail anwes i ardal oerach ar unwaith, cynigiwch ddŵr ac ymgynghorwch â'ch milfeddyg os yw'r symptomau'n parhau.

Creu amgylchedd oer

  • Buddsoddi mewn matiau neu badiau oeri wedi'u cynllunio ar gyfer anifeiliaid anwes. Gall rhain ddarparu arwyneb oer iddynt orwedd arno.

  • Rhowch dyweli gwlyb ar y llawr i'ch anifeiliaid anwes orwedd arnynt, neu eu sychu i lawr gyda lliain llaith i helpu i ostwng tymheredd eu corff.

pigs in a barn

Gofal cyffredinol anifeiliaid fferm

  • Rhowch gysgod a digon o ddŵr ffres bob amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig i anifeiliaid cnoi cil fel gwartheg a defaid, sy'n cynhyrchu gwres mewnol o dreulio ac sy'n methu dibynnu ar chwysu i oeri. Mae moch hefyd yn ei chael hi'n anodd oeri, gan na allant chwysu'n effeithiol.

  • Archwiliwch eich anifeiliaid yn aml, gan ganolbwyntio ar y rhai ifanc iawn neu hen.

  • Dysgwch arwyddion straen gwres, sy'n amrywio rhwng rhywogaethau, a gweithredu'n gyflym trwy ddarparu cysgod a dŵr.

  • Ceisiwch osgoi symud anifeiliaid yn ystod cyfnodau poethaf y dydd. Dylid godro gwartheg llaeth yn agos at eu hardaloedd gorffwys.

  • Gweithio gyda chymdogion os yw cyflenwadau dŵr a bwyd anifeiliaid yn mynd yn brin neu fod mynediad yn anodd.

 Cludo anifeiliaid mewn tywydd poeth

Mae cludo anifeiliaid mewn tywydd poeth yn gofyn am ofal ychwanegol i atal anaf neu ddioddefaint:

  • Bod yr anifeiliaid yn ffit i deithio.

  • Ceisiwch osgoi cludo anifeiliaid mewn tymheredd dros 30°C oni bai bod gennych gerbyd a'r tymheredd wedi'i reoli. Gwiriwch y tymheredd 'teimlo fel' ar gyfer y daith.

  • Sicrhau bod yr holl systemau dyfrio ac awyru yn y cerbyd yn gweithio'n iawn.

  • Rhowch ddigon o ddŵr i ddiwallu anghenion yr anifeiliaid.

  • Cadwch deithiau mor fyr â phosibl a chael cynllun wrth gefn ar gyfer oedi.

  • Cludwch anifeiliaid yn ystod y nos, gyda'r nos neu'n gynnar yn y bore er mwyn osgoi gwres oriau brig.

  • Lleihau dwysedd llwytho i wella llif aer ac atal gorboethi.

 Sychder: Parhau i Hydradu

Yn ystod sychder, mae dŵr yn hanfodol:

  • Sicrhau bod gan anifeiliaid fynediad at gyflenwad dŵr addas a darparu dŵr yfed ffres bob dydd. Mae anifeiliaid ifanc, dan do ac sy'n llaethu mewn mwy o berygl o ddadhydradu.

  • Cael cynllun os oes tarfu ar gyflenwadau dŵr a nodi ffynonellau amgen. Symudwch anifeiliaid i'r man lle mae dŵr ar gael os oes angen.

  • Gweithio gyda chymdogion i sicrhau cyflenwad dŵr cyson.

  • Os oes amheuaeth, gofynnwch am gyngor ar unwaith gan eich milfeddyg. Ystyriwch symud neu werthu anifeiliaid i leihau dwysedd stocio os oes angen.

Dogni dŵr

Os oes angen dogni dŵr, bodloni'r isafswm dyddiol hyn:

  • Gwartheg godro: 38 i 52 litr

  • Gwartheg eraill: 38 litr

  • Ceffylau: 20 i 45 litr

  • Moch: 4 i 11.5 litr

  • Defaid: 6 litr

  • Dofednod (dwys): 0.5 litr

Trafodwch gyda'ch milfeddyg sut i leihau anghenion dŵr, fel rhoi llai o fwyd neu roi diwedd ar gynhyrchu wyau. Byddwch yn ofalus i osgoi gwenwyn halen mewn moch.

cow in a field

Gall tywydd eithafol fod yn heriol, ond gyda'r paratoa'r gofal cywir, gallwch sicrhau bod eich anifeiliaid yn aros yn ddiogel ac yn iach. Byddwch yn wyliadwrus, gweithiwch gyda'ch cymuned, a cheisiwch gyngor milfeddygol bob amser pan fo angen.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu eich anifeiliaid ac i wirio eich perygl o lifogydd, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru a chofrestrwch am rybuddion llifogydd

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol