Cyhoeddi yn gyntaf: 26/06/2023 -
Wedi diweddaru: 22/08/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Yr argyfwng natur
Yn 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng natur. Beth mae hyn yn ei olygu yw bod 17% o’r 3,902 o rywogaethau a astudiwyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, gyda llawer o rai eraill yn prinhau.
Mae cysylltiad agos rhwng yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd ac fe’i hachoswyd gan y pethau rydym ni fel bodau dynol yn eu gwneud, fel rhyddhau allyriadau carbon niweidiol, dinistrio cynefinoedd naturiol a defnyddio gormod o adnoddau naturiol.
Mae newidiadau mewn tywydd a thymheredd yn ei gwneud hi'n anoddach i lawer o anifeiliaid a phlanhigion oroesi. Pan fydd rhywogaethau’n diflannu, bydd yn effeithio ar ein hiechyd a’n lles, gan ein bod yn dibynnu ar ecosystemau am adnoddau fel yr aer rydym yn ei anadlu, bwyd a dŵr glân.
Mae gweithredu nawr yn golygu y gallwn ofalu am ein planed yn well a gwneud yn siŵr ei bod yn lle iach i ni ac i genedlaethau’r dyfodol. Ond i wneud newid, mae angen i ni warchod cynefinoedd, lleihau llygredd, atal newid hinsawdd a defnyddio ein hadnoddau'n ddoeth. Mae angen i ni ofalu am ein hecosystemau – cymunedau o blanhigion, anifeiliaid, organebau a natur yn byw ac yn rhyngweithio â’i gilydd.
Beth allwn ei wneud?
Mae angen i ni fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd gyda’i gilydd. Dyma ambell i gam y gallwn eu cymryd i helpu adferiad byd natur:
Plannu a diogelu coed a choedwigoedd yn strategol
Mae coed a choedwigoedd yn amsugno carbon deuocsid ac yn rhyddhau ocsigen, gan wneud yr aer yn lanach a chreu rhwystr rhwng pobl ac allyriadau niweidiol. Hefyd, maen nhw'n cynnig cysgod, gan weithredu fel 'cyflyrwyr aer naturiol', sy'n lleihau tymheredd uchel a llygredd. Dysgwch fwy am fynd i'r afael â llygredd aer gyda choed a chael awgrymiadau i atal tanau coedwig.
Darparu cysgod a gwarchod cynefinoedd ar gyfer anifeiliaid, adar a phryfed
Os oes gennych ardd neu fan gwyrdd, gallwch blannu coed a blodau, a gadael danadl poethion a chwyn i gynnal bioamrywiaeth, wrth greu cynefinoedd i anifeiliaid sy'n dibynnu arnyn nhw am fwyd a lloches ar yr un pryd. Ystyriwch gartrefi draenogod, blychau adar a gwestai gwenyn, neu beth am greu pentyrrau brigau a dail i gynnal pryfed, a darparu ffynonellau dŵr i greaduriaid bach. Gallwch hefyd ychwanegu planhigion neithdar at eich gardd neu falconi i helpu peillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw. A chofiwch gadw rheolaeth ar y sbwriel, a all niweidio bywyd gwyllt.
Annog bioamrywiaeth
Os oes gennych ardd, balconi neu flwch ffenestr, neu’n cyfranogi mewn gardd gymunedol neu bartneriaeth natur lleol, mae yna nifer o bethau y gallwch eu gwneud. Dewiswch laswellt yn hytrach na choncrid neu unrhyw beth artiffisial, peidio â defnyddio cemegau fel plaladdwyr sy’n gallu lladd gloÿnnod byw, gwyfynod a phryfed peillio. Dysgwch fwy am ddewisiadau eraill yn lle cemegau gwenwynig ar gyfer yr ardd. Defnyddiwch bridd di-fawn ac, os oes gennych lawnt, gadewch ardaloedd o laswellt hir i gynyddu bioamrywiaeth. Darllenwch fwy yma.
Arbedwch ddŵr ac ynni
Cymerwch gamau ynni gwyrdd, fel diffodd tapiau a goleuadau pan nad ydych eu hangen, defnyddio offer sy'n ynni-effeithlon a gosod dyfeisiadau i arbed dŵr. Bydd hyn yn helpu i arbed adnoddau naturiol ac arbed arian ar eich biliau dŵr ac ynni. Ystyriwch asesu effeithlonrwydd ynni eich cartref ac, os gallwch, ystyriwch fesurau effeithlonrwydd ynni.
Newidiwch sut rydych yn teithio
Gwnewch eich teithiau’n wyrddach, Gwnewch eich teithiau'n wyrddach trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle fo'n bosibl neu gerdded i'r ysgol i leihau llygredd aer a sŵn. Ystyriwch logi (neu brynu) e-feic, rhannu'ch taith gyda chydweithwyr neu ffrindiau a dysgu mwy am gerbydau trydan.
Lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu
Oeddech chi’n gwybod bod cynhyrchu nwyddau bob dydd – gan gynnwys ceir, dillad a bwyd – yn dinistrio cynefinoedd naturiol? Er efallai na welwn hyn ar garreg ein drws, mae’n digwydd ledled y byd. Lleihewch eich gwastraff a phlastigau untro, trwsiwch ac ailddefnyddiwch beth sydd gennych eisoes. Unwaith y bydd pethau’n cyrraedd diwedd eu hoes, ailgylchwch er mwyn osgoi gorgynhyrchu a chadw’r môr a’r pridd yn lanach ac yn fwy diogel i blanhigion ac anifeiliaid. Mae ailgylchu yn y gwaith neu yn yr ysgol hefyd yn ffordd wych o warchod bywyd gwyllt.
Lleihewch wastraff bwyd a bwytewch yn gynaliadwy
Osgowch wastraff bwyd trwy gynllunio prydau bwyd ymlaen llaw a phrynu dim ond beth sydd ei angen arnoch, yna ailgylchwch neu compostiwch y gwastraff anfwytadwy (fel esgyrn neu groen). Gallwch hefyd geisio bwyta ffrwythau a llysiau mwy cynaliadwy o fewn y tymor yn eich diet – bydd hyn yn osgoi allyriadau niweidiol o du chludiant a chynhyrchu.
Pam bod angen gweithredu?
Mae’r argyfwng natur yn cael effeithiau niweidiol ar ein hiechyd, bywyd gwyllt a’r amgylchedd, gan gynnwys:
Colli bywyd gwyllt a bioamrywiaeth
Mae bywyd gwyllt yng Nghymru’n dirywio, gydag un rhan o chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Mae anifeiliaid yn diflannu wrth i'w cynefinoedd gael eu dinistrio, trwy glirio gofod i dyfu pethau rydyn ni'n eu gorfwyta. Dysgwch fwy am pam mae colli cynefinoedd yn fygythiad i fioamrywiaeth.
Allyriadau carbon
Mae bioamrywiaeth yn bwysig i wrthbwyso allyriadau carbon. Mae gwrthbwyso yn golygu tynnu allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r atmosffer yn barhaol, fel arfer trwy greu neu adfer cynefinoedd sy'n amsugno allyriadau fel coed, mawndiroedd a morwellt.
Newid hinsawdd a llygredd.
Mae ein gweithgareddau, gan gynnwys torri coedwigoedd, gorddefnyddio adnoddau a llygru’r môr, pridd ac aer yn rhyddhau allyriadau niweidiol sy’n cynhesu’r blaned. Mae hyn hefyd yn achosi tywydd eithafol; fel llifogydd a sychder a all gael effaith ddinistriol ar ecosystemau a chymunedau.
Effeithiau ar iechyd
Gall newid yn yr hinsawdd effeithio ar ein hiechyd, lles a diogelwch – gan ei fod yn tarfu ar systemau bwyd, yn gwaethygu ansawdd aer ac yn newid y ffordd mae clefydau heintus yn cael eu lledaenu, yn ogystal â chynyddu’r risg o farwolaethau sy’n gysylltiedig â thywydd eithafol. Yn ogystal â hyn, mae treulio amser ym myd natur o fudd i’n lles meddyliol a chorfforol.
Amharu ar yr ecosystem
Os byddwn yn parhau i lygru’r pridd a’r môr, yn dinistrio cynefinoedd anifeiliaid ac yn gorddefnyddio adnoddau naturiol, bydd ecosystemau’n dymchwel. Gan ein bod yn dibynnu ar y byd naturiol am fwyd, dŵr ac aer glân, bydd yn llawer anoddach dod o hyd i’r adnoddau sydd eu hangen arnom.
Ar waith
Prosiect croesawu bywyd gwyllt
Tir segur yn cael ei drawsnewid yn ofod i fywyd gwyllt ffynnu gan brosiect cymunedol a ariannwyd yn Aberdâr.
Dewch i wybod mwy
Beth mae Cymru yn ei wneud?
Mae Llywodraeth Cymru’n ymateb i’r argyfwng natur mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
Gwarchod bioamrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod i ddiogelu o leiaf 30% o dir a 30% o’r môr yng Nghymru erbyn 2030. Cefnogir hyn gan Argymhellion Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth.
Datblygu Coedwig Genedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Genedlaethol Cymru, rhwydwaith o goetir yn rhedeg ar hyd a lled Cymru.
Rhoi diwedd ar adwerthu mawn
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i roi diwedd ar werthu mawn mewn garddwriaeth yng Nghymru.
Sgwrs Natur a Ni
Ers 2022, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynnal sgwrs genedlaethol ‘Natur a Ni’ drwy ddweud straeon a defnyddio technegau creadigol i ddatblygu gweledigaeth gadarnhaol a rennir ar gyfer y flwyddyn 2050.
Maint Cymru
Mae Maint Cymru yn elusen unigryw a gefnogir trwy grantiau (gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru) a rhoddion gan gefnogwyr, ac yn gweithio gyda phobl frodorol a lleol ledled y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf dwy filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal yr un maint â Chymru.
Gofalu am ein hadnoddau naturiol
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi amrywiaeth o ffyrdd i weithredu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rheoli amaethyddiaeth a choedwigaeth mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Cydnabod bod bioamrywiaeth yn rhan o gyfoeth Cymru ac y dylid ei diogelu fel asedau eraill.
Darparu amwynderau a gwasanaethau hygyrch a fforddiadwy, tai, addysg a systemau trafnidiaeth integredig o ansawdd da. Mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at greu a chynnal cymunedau iach.
Darparu dulliau iechyd cyhoeddus er budd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, fel mannau gwyrdd diogel a theithio llesol.