Ymunwch â'r Sgwrs am yr Hinsawdd: Wythnos Hinsawdd Cymru 2024
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ôl, ac yn rhedeg rhwng 11 Tachwedd a 15 Tachwedd! P'un a ydych chi'n angerddol am gynaliadwyedd, yn chwilfrydig am addasu i'r hinsawdd, am weithio yn y maes hwn neu eisiau dysgu mwy am sut y gallwn ddiogelu ein gwlad hardd yn y dyfodol, dyma'r cyfle perffaith i blymio i mewn.
Beth yw Wythnos Hinsawdd Cymru?
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru, a gynhelir ar-lein, yn gynhadledd pum niwrnod rhad ac am ddim, sy'n llawn sgyrsiau diddorol, paneli arbenigol, a thrafodaethau ysbrydoledig. Y thema y flwyddyn hon? Addasu i'r Hinsawdd – archwilio sut y gallwn fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd ac adeiladu dyfodol cydnerth.
O gynnydd yn lefel y môr i ddigwyddiadau tywydd eithafol, rydym i gyd yn ymwybodol o effeithiau newid hinsawdd. Iawn, ond beth allwn ni ei wneud am y peth? Sut allwn ni addasu? Dyna'n union yw pwrpas yr wythnos hon, gyda chyfleoedd i ddysgu gan eraill sy'n arwain y ffordd at addasu i newid. Gallwch alw heibio o gysur eich cartref neu'ch gweithle eich hun a dal i fyny ar sesiynau sy'n ennyn eich diddordeb. Mae fel gwylio teledu drwy'r dydd er lles y blaned!
Cymryd rhan yn lleol: Dechreuwch eich sgwrs eich hun am yr hinsawdd
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru hefyd yn sbardun i chi weithredu yn eich cymuned eich hun. Ydych chi erioed wedi meddwl am gynnal sgwrs ar addasu i'r hinsawdd gyda'ch cymuned? Dyma'ch cyfle!
Gyda chyfleoedd ariannu ar gael, gallech drefnu digwyddiad neu gyfarfod lleol. Mae'r syniad yn syml: dod â phobl ynghyd i siarad am y materion go iawn, rhannu syniadau, a meddwl am yr hyn y mae addasu i'r hinsawdd yn ei olygu i chi a'ch ardal leol.
Ydych chi am sbarduno sgyrsiau ystyrlon am newid hinsawdd yn eich cymuned? Mae arian ar gael i'ch helpu i gynnal eich digwyddiad eich hun! P'un a ydych yn ysgol, yn grŵp dielw neu'n grŵp cymunedol, gallwch wneud cais cyn 14 Tachwedd.
Dydych chi byth yn gwybod, gallai'r sgwrs fach honno sbarduno rhywbeth llawer mwy!
Pam ddylech chi boeni am addasu i'r hinsawdd?
Efallai eich bod chi'n meddwl, “Beth sydd a wnelo hyn â mi mewn gwirionedd?” Cwestiwn da! Nid mater ar gyfer gwyddonwyr neu swyddogion y llywodraeth yn unig yw addasu i'r hinsawdd—mae'n berthnasol i bob un ohonom. Mae'n ymwneud â deall sut y bydd yr hinsawdd newidiol yn effeithio ar ein cartrefi, ein swyddi a'n bywydau bob dydd. Mae'n golygu paratoi ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle diogel a bywiog i fyw.
O reoli llifogydd yn ein trefi arfordirol i amddiffyn ein bywyd gwyllt unigryw, mae cymaint y gallwn ei wneud gyda'n gilydd. Ac mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn rhoi'r offer, y wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnom i weithredu.
Felly, ewch amdani!
Nodwch y dyddiadau sef 11 - 15 Tachwedd ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru a pharatowch i fod yn rhan o rywbeth arbennig. P'un a ydych chi'n ymuno â'r sesiynau ar-lein, yn dechrau eich sgwrs hinsawdd gymunedol eich hun, neu'n syml yn ymuno i gael ysbrydoliaeth, dyma'ch cyfle i wneud gwahaniaeth.
Ewch i wythnoshinsawdd.llyw.cymru i gael gwybod mwy, cofrestru ar gyfer y gynhadledd, a darganfod sut y gallwch gymryd rhan yn y sgwrs hollbwysig hon.