Cyhoeddi yn gyntaf: 25/09/2024 -
Wedi diweddaru: 25/09/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Beth yw newid hinsawdd a sut mae'n effeithio arna' i?
Mae newid hinsawdd yn broblem fyd-eang sy'n cael effaith fawr ar y tywydd yng Nghymru. Mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae i helpu i leihau'r effeithiau, yn ôl gwyddonydd hinsawdd y Swyddfa Dywydd, Dr James Pope.
Pan fyddwn ni'n siarad am newid hinsawdd, rydyn ni'n cyfeirio at newidiadau sylweddol, parhaol ym mhatrymau tywydd y blaned a thymereddau cyfartalog. Gweithgareddau dynol yw prif achos y newidiadau hyn – yn enwedig defnyddio tanwydd ffosil, rhywbeth sy'n rhyddhau llawer iawn o nwyon tŷ gwydr.
Ers Chwyldro Diwydiannol y 18fed ganrif, rydyn ni wedi dibynnu ar losgi tanwyddau ffosil fel olew, glo a nwy i gynhyrchu ynni. Ond mae hyn hefyd yn rhyddhau nwyon fel carbon deuocsid, methan ac ocsid nitrus i'r aer. Dros amser, mae llawer iawn o'r rhain wedi cronni yn atmosffer y Ddaear.
Yn ystod y degawdau diwethaf, mae gwyddonwyr wedi darganfod bod y nwyon tŷ gwydr hyn yn ffurfio 'blanced' o amgylch y blaned. Mae hyn yn dal y gwres o'r haul ac yn achosi i'r Ddaear gynhesu.
Mae'r ffenomen hon eisoes yn digwydd. Mae ymchwil gan y Swyddfa Dywydd yn dangos bod hafau yng Nghymru 1.2°C yn gynhesach nawr nag yr oedden nhw rhwng 1961 a 1990. Mae tymereddau cyfartalog yn codi'n sydyn ledled y byd, fel y gwelir yn y graff isod. Bydd hyn yn parhau, oni bai ein bod yn cymryd camau cyflym i fynd i'r afael â'r broblem.
Beth mae'r tymereddau uwch hyn yn ei olygu?
Effaith uniongyrchol hinsawdd sy'n cynhesu yw cynnydd yn lefel y môr, wrth i rewlifoedd a llenni iâ doddi. Mae gwyddonwyr yn credu erbyn y 2050au y bydd lefel y môr o amgylch arfordir Cymru 20cm yn uwch ym Mangor a 25cm yn uwch yng Nghaerdydd nag y mae heddiw. Gallai hyn achosi llifogydd arfordirol yn ystod stormydd a llanwau uchel.
Mae newid hinsawdd hefyd yn arwain at dywydd mwy eithafol, fel y llifogydd yng Nghymru yn 2023 a 2024. Wrth i'r atmosffer gynhesu, mae'n gallu dal rhagor o leithder – tua 7% mwy fesul 1°C y mae'r atmosffer yn cynhesu. Mae hyn yn arwain at ddigwyddiadau glaw eithafol a llifogydd fflach, gan beri niwed i eiddo a chnydau. Erbyn 2070 gallai'r digwyddiadau hyn fod bedair gwaith yn fwy aml nag yr oedden nhw yn yr 1980au.
Bydd cyfnodau poeth yn digwydd yn amlach hefyd. Hyd yn oed os yw gwledydd ledled y byd yn cadw at eu haddewidion presennol i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr, rhagwelir y bydd hafau yng Nghymru 1.7°C yn boethach a 16% yn sychach erbyn y 2050au. Bydd hafau ym Mangor 1.3°C yn boethach ac 14% yn sychach, ac yng Nghaerdydd byddan nhw 1.8°C yn boethach a 23% yn sychach. Rydyn ni eisoes wedi cael blas ar hyn yn 2022, pan gofnodwyd tymheredd o 40°C yn y DU am y tro cyntaf.
Mae tonnau gwres yn arbennig o beryglus i iechyd ein plant a'r henoed, a gallan nhw arwain at danau gwyllt sy'n ddinistriol i'n bywyd gwyllt. Bydd tonnau gwres amlach hefyd yn ei gwneud yn llawer anoddach i ffermwyr dyfu cnydau ar gyfer bwyd pobl ac anifeiliaid, gan achosi prinder a phrisiau uwch.
Iawn, ond beth alla' i ei wneud am y peth?
Mae llywodraethau ledled y byd wedi addo sicrhau nad yw'r tymheredd yn codi mwy nag 1.5°C. Yn y DU, rydyn ni wedi ymrwymo i beidio â rhyddhau mwy o allyriadau i'r atmosffer nag y gallwn ni eu tynnu. Elwir hyn yn 'Sero net'.
Gall pob un ohonon ni wneud gwahaniaeth ar lefel unigol hefyd. Mae dau beth y gallwch chi eu gwneud. Yn gyntaf, gallwch leihau faint o nwyon tŷ gwydr rydych chi'n eu cynhyrchu.
Gallwch chi newid y ffordd rydych chi'n teithio – er enghraifft defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded yn hytrach na defnyddio'r car. Gallech ddefnyddio cerbyd trydan, a fydd yn cynhyrchu llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr dros ei oes nag un sy'n defnyddio petrol.
Gallwch chi newid i ffynonellau ynni mwy gwyrdd, efallai drwy osod paneli solar. Yn fuan, efallai y byddwch chi'n gallu newid eich boeler am system wresogi sy'n defnyddio trydan gwyrdd.
Yr ail ffordd y gallwch chi helpu yw paratoi ar gyfer y newidiadau sydd eisoes yn digwydd – a'r rhai sy'n debygol o ddigwydd yn y dyfodol.
Gallai hyn olygu addasu eich tŷ fel ei fod yn gallu gwrthsefyll llifogydd fflach yn well neu gyfnodau o wres difrifol. Mae sicrhau bod cartrefi wedi'u hawyru'n dda yn ystod tywydd poeth yn ffordd syml o gadw'n oer, a gall tyfu coed neu blanhigion deiliog ger ffenestri helpu i ddarparu cysgod.
Efallai bod y rhain i'w gweld yn gamau bach. Ond mae ymrwymiad bach gan bawb yng Nghymru yn ychwanegu at wahaniaeth gwirioneddol o ran helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd – ac wrth sicrhau ein bod yn gallu ymdopi â'r newidiadau sydd eisoes wedi digwydd.