Cyhoeddi yn gyntaf: 15/03/2024 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd by our Editorial Panel

Elusen a menter ailgylchu yn ailwampio ei Hystafell Addysg i blant

Mae canolfan atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghasnewydd yn ailfodelu ac yn diweddaru ei Hystafell Addysg ailgylchu ryngweithiol ar gyfer plant ysgol gynradd. 

Dechreuodd Wastesavers, sydd yng Nghasnewydd, fel elusen amgylcheddol, yn hyrwyddo pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu. Dechreuodd gasglu deunyddiau o ymyl y ffordd ym 1990, gan atal dros 1,000 tunnell o eitemau’r cartref rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, ac mae wedi bod yn addysgu plant ysgol am ailgylchu ers dros ddegawd. 

Yn gweithredu ar draws De-ddwyrain Cymru, mae’n rhedeg rhwydwaith o siopau ailddefnyddio, dau gaffi atgyweirio, llyfrgell cewynnau, llyfrgell o bethau, yr Ystafell Addysg ailgylchu ar gyfer ysgolion cynradd, a rhaglen addysg amgen – PEAK – ar gyfer pobl ifanc 14-18 oed y tu allan i addysg brif ffrwd. 

Sut mae mentrau fel y rhain yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd? 

Mae Wastesavers wedi bod yn rhedeg ei chyfleuster Ystafell Addysg ers dros 10 mlynedd, gan annog sgiliau gwyrdd trwy addysgu plant ysgol gynradd am ailgylchu. Mae sesiynau dwy awr yn cael eu rhedeg gan athrawon profiadol ac wedi’u llunio i fodloni anghenion cwricwlwm pob ysgol. 

Mae'r ystafell yn cael ei diweddaru a'i hadnewyddu ar hyn o bryd i wneud profiad gwirioneddol ryngweithiol i ymwelwyr bach, gan ddod â phynciau gwyddonol, technegol a mathemategol yn fyw gyda deunyddiau cyfarwydd mae'r plant yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd. Byddant yn darganfod straeon deunyddiau y gellir eu hailgylchu, fel metel, plastig a chardbord, gan ryngweithio â’r ‘podiau’ addysg wrth iddynt ddysgu. Gall plant hefyd ymweld â’r Llwyfan Gwylio i weld Wastesavers ar waith yn ailgylchu. 

Bydd y cyfleuster newydd hwn yn croesawu ysgolion o bob awdurdod lleol mae Wastesavers yn gweithio gyda nhw. 

Dywedodd Rheolwr Elusen Wastesavers, Alun Harries:

Cawsom fod yr holl ysgolion rydym yn ymwneud â nhw yn rhagweithiol iawn gyda’u hailgylchu – mae disgyblion yn deall yn iawn bwysigrwydd ailgylchu a’r effaith ar eu cymunedau a’r amgylchedd. Mae ein Hystafell Addysg yn sail i ymagwedd yr ysgolion ac yn darparu dealltwriaeth bellach o’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd i’r papur, plastig, caniau ac ati y maent yn eu rhoi yn eu blychau ailgylchu cartref, a sut mae’r deunyddiau hyn yn mynd ymlaen i ddod yn rhywbeth arall.

Mae staff Wastesavers hefyd yn ymweld ag ysgolion i helpu eu Pwyllgorau Eco i gynnal gwasanaethau llawn gwybodaeth am ailgylchu. 

Pam bod angen gweithredu? 

Dywedodd Alun:

Rydym yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig bod gan y plant, yn wir, pob cenhedlaeth, wybodaeth dda am beth sy'n digwydd i'w deunyddiau sy’n cael eu hailgylchu. A bod ganddynt ddealltwriaeth werthfawrogol o sut mae’r broses ailgylchu yn gweithio, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol mae’n ei chael ar y blaned.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae sefydliadau fel Wastesavers yn ffordd wych o helpu pobl ifanc i ddysgu sut i gymryd camau i leihau eu heffaith ar yr hinsawdd. A bydd hyn yn gymorth mawr i’n helpu ni i greu Cymru wyrddach, lanach.

 

Beth mae Cymru yn ei wneud? 

Cymru eisoes yw’r wlad orau yn y DU am ailgylchu, a’r drydedd orau yn y byd, gan arbed tua 400,000 tunnell o CO2 bob blwyddyn. 

Darllenwch fwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu pobl i wneud dewisiadau gwyrdd dyddiol a gwella ailgylchu yma. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol