Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -
Wedi diweddaru: 17/04/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Addysg, sgiliau a gyrfaoedd
Bydd rhywfaint bach mwy o addysg werdd – i bobl o bob oed – yn helpu Cymru i feithrin gweithlu medrus a all ymdrin â heriau newid hinsawdd.
Mae yna gyfle i fynd i’r afael â chyfleoedd dysgu gydol oes yn ymwneud â newid hinsawdd, er mwyn deall beth mae’n ei olygu i’n bywydau, i’n cymdeithas ac i’r busnesau sy’n ysgogi ein heconomi. Y cam cyntaf? Ymrwymo i wella ein gwybodaeth am yr argyfyngau hinsawdd a natur. Yr ail gam? Yn achos y bobl hynny sy’n gweithio neu sy’n ystyried chwilio am waith, mae’n bwysig iddynt ddeall sut i feithrin sgiliau gwyrdd a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i yrfa hinsawdd-gyfeillgar.
Ym mis Mai 2023 dywedodd tua chwarter (27%) o oedolion sy'n gweithio ym Mhrydain y byddent yn disgrifio unrhyw ran o'u swydd fel "swydd werdd", tra dywedodd tua 1 o bob 20 (4%) fod y cyfan neu'r rhan fwyaf o'u swydd yn ymwneud â gweithgareddau "gwyrdd”.
Swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd
A ydyn nhw yr un fath â’i gilydd? Ydyn, yn ein tyb ni.
Mae’r byd yn newid – bydd yn rhaid i bob un ohonom feithrin ein sgiliau er mwyn wynebu’r her o gefnogi’r economi a’r hinsawdd.
Mae ein dull yng Nghymru yn syml: wrth inni bontio tuag at Sero Net, rydym yn cydnabod y bydd swyddi o bob math yn newid, rhai i raddau llai nag eraill. Nid ydym eisiau categoreiddio – rydym eisiau canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r cyfleoedd iawn i helpu i ategu ein heriau sero net a chreu twf. Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd uwchsgilio sy’n bodoli ar hyn o bryd, mae angen inni ddeall beth yw anghenion y dyfodol o ran sgiliau ac rydym eisiau ysbrydoli gweithlu’r dyfodol.
Beth allwn ni ei wneud?
Dechreuwch trwy ddysgu ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ynglŷn â newid hinsawdd, cadwch mewn cysylltiad â’r pethau a gaiff eu dysgu mewn ysgolion fel ffordd o ddeall beth yw’r ffocws o ran sgiliau gwyrdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a defnyddiwch y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael i feithrin sgiliau gwyrdd hanfodol yn eich bywyd gweithio eich hun.
Adeiladu gwybodaeth
Mae yna lu o adnoddau ar-lein sydd â’r bwriad o’n helpu i ddeall newid hinsawdd yn well. Cymerwch gipolwg ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael trosolwg defnyddiol, a hefyd mae’r BBC yn mynd ati’n rheolaidd i gyhoeddi newyddion a chanllawiau syml yn ymwneud â newid hinsawdd. Hefyd, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfres o ffeithluniau hawdd eu deall, ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhannu gwybodaeth i’n helpu i ddysgu mwy am batrymau newidiol y tywydd. I gael gwybodaeth fwy technegol am newid hinsawdd, darllenwch yr adroddiadau cynnydd a gyhoeddir gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. A gallwch ddod o hyd i gyrsiau penodol ar gyfer gwella llythrennedd hinsawdd a llythrennedd natur ar wefan Cynnal Cymru. Mae deall y sefyllfa yn gam cyntaf hanfodol.
Darganfod swyddi gwyrdd y dyfodol
Mae Gyrfa Cymru yn rhannu gwybodaeth am rai diwydiannau a fydd yn ysgogi economi Cymru yn y dyfodol, a sut fath o swyddi a fydd i’w cael yn y dyfodol. O safbwynt byd-eang, mae Fforwm Economaidd y Byd yn nodi sut y gall gwneud penderfyniadau doeth heddiw arwain at lwyddiant i bobl ifanc o ran swyddi gwyrdd yn y dyfodol.
Archwilio sgiliau newydd
Mae Sgiliau sero net yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn nodi gyrfaoedd gwyrdd a chyfleoedd i ailhyfforddi, rolau newydd a swyddi sydd ar gynnydd, a’r modd y mae gwahanol yrfaoedd yn effeithio ar yr argyfwng hinsawdd a’r hyn y mae diwydiannau yn ei wneud i fynd i’r afael â heriau hinsawdd.
Cynllunio gyrfa a pharatoi ar ei chyfer
Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi’r arfer o gynllunio ar gyfer gyrfaoedd hinsawdd-gyfeillgar a pharatoi ar gyfer swyddi gwyrdd newydd. Mae’r asiantaeth yn helpu gyda phrentisiaethau hefyd, fel ffordd o gael cymwysterau tra’n gweithio ac yn ennill cyflog.
Ymgeisio am gyfrif dysgu personol gwyrdd
Mae cyfrifon dysgu personol gwyrdd yn eich galluogi i uwchsgilio neu ailhyfforddi mewn sectorau sy’n ategu siwrnai Cymru tuag at sero net – yn cynnwys cyrsiau wedi’u hariannu’n llwyr a chyrsiau rhan-amser hyblyg y gallwch eu dilyn o gwmpas eich cyfrifoldebau eraill.
Cyfleoedd i blant
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth o fentrau er mwyn helpu i addysgu plant ynglŷn â newid hinsawdd. Mae Eco-Sgolion a Maint Cymru yn sefydliadau amgylcheddol blaenllaw sy’n gweithio gyda mwy na 90% o ysgolion ledled Cymru. Mae’r rhaglenni addysgol hyn, sy’n ymwneud â’r byd go iawn ac a gaiff eu harwain gan ddisgyblion, yn annog ysgolion, pobl ifanc, teuluoedd a’r gymuned ehangach i gymryd rhan mewn prosiectau amgylcheddol ymarferol. Mae menter arall – sef yr Her Ysgolion Cynaliadwy – yn taflu goleuni ar ysgolion enghreifftiol yng Nghymru sy’n cynnal prosiectau cynaliadwyedd ysbrydoledig.
Busnesau’n arwain y ffordd
Eisoes, mae busnesau ledled Cymru yn gwneud gwaith ardderchog – fel y busnesau hynny sy’n buddsoddi mewn cyfleoedd sgiliau gwyrdd ar gyfer eu staff. Hefyd, mae nifer o weithleoedd yn cyflogi cynrychiolwyr amgylcheddol (neu ‘gynrychiolwyr gwyrdd’) i weithio gyda’r aelodau a’r rheolwyr ar amrywiaeth eang o fentrau gwyrdd yn y gweithle. Cewch ragor o wybodaeth am sgiliau sero net a chymorth i fusnesau yma.
Pam mae angen gweithredu?
Swyddi newydd a thwf economaidd:
Yn ei chynllun gweithredu sgiliau sero net, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y bobl, y sgiliau a’r doniau sy’n angenrheidiol ar gyfer ysgogi’r economi werdd. Felly, bydd mwy o bobl – o bob oed – yn cael cyfleoedd i ddod o hyd i swyddi da, gan dynnu llawer o bobl allan o dlodi a lleihau’r bwlch sgiliau.
Wrth i nifer a phoblogrwydd swyddi gwyrdd barhau i gynyddu, fe fydd yna sawl ffordd o sicrhau swyddi o’r fath – yn cynnwys cymwysterau academaidd, dysgu yn y gwaith a phrentisiaethau.
Bydd galw am sgiliau gwyrdd
Mae gan bob swydd y potensial i’n helpu i gyflawni ein hymrwymiad sero net. Nid arloesi a gwyddorau amgylcheddol yw’r unig feysydd pwysig yn hyn o beth; bydd angen sgiliau trwy ’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, ar draws gwahanol ddisgyblaethau – yn cynnwys adeiladu, ffermio, pensaernïaeth, addysgu a rolau gweinyddol. Efallai y bydd uwchsgilio yn awr yn rhoi mantais ichi wrth i nifer y swyddi gwyrdd gynyddu.
Cysylltu â natur ac adfer natur
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth, bydd angen sgiliau newydd yn y sector natur. Adfer mawndiroedd, ymestyn coetiroedd brodorol, plannu coed, cynllunio gerddi, bioleg bywyd gwyllt – bydd angen gweithio yn yr awyr agored i wneud nifer o’r swyddi hyn, a bydd hynny o fudd i’n hiechyd corfforol a meddyliol.
Canfod pwrpas mewn gwaith:
Bydd economi’r dyfodol yn ffynnu ar ailddefnyddio, trwsio ac addasu. Bydd y trawsnewid hwn yn arwain at swyddi newydd a fydd yn greadigol, yn ystyrlon ac yn werth chweil – swyddi a fydd yn gwella iechyd a llesiant, yn grymuso cymunedau ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Ystafell Addysg ailgylchu wedi'i hailwampio i blant
Mae Ystafell Addysg ailgylchu Wastesavers o fudd i genedlaethau’r dyfodol drwy ddysgu rhyngweithiol a datblygu sgiliau gwyrdd.
Dewch i wybod mwy