Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gweithredu yn y Sector Cyhoeddus
Gyda mwy na 780 o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, mae maint a dylanwad y sector hwn yn golygu bod ganddo rôl allweddol o ran helpu Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Dyma’r ddau faes lle mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus weithredu:
Rhoi cymorth
Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau hanfodol, y seilwaith a’r cymorth sy’n angenrheidiol er mwyn helpu i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy cyfleus ac yn fwy fforddiadwy i aelwydydd, cymunedau a busnesau ledled Cymru. Yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan sefydliadau’r sector cyhoeddus rwymedigaeth gyfreithiol i gynnwys pobl o bob oed a chefndir wrth wneud penderfyniadau.
Arwain trwy esiampl
Yn ogystal â’n cynorthwyo ni i gymryd camau, mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yn gyfrifol am ymgorffori ffyrdd gwyrdd o ymddwyn yn eu gwaith eu hunain, gan wneud yn siŵr bod eu harweinwyr, eu rheolwyr a’u staff yn cael eu harwain trwy esiampl.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i’n helpu i wneud dewisiadau gwyrdd?
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o sefydliadau’r sector cyhoeddus i gyflawni Sero Net, trwy gyfrwng polisïau a rhaglenni cymorth:
Mae Gweithredu Hinsawdd Cymru: Strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd yn pennu sut y mae Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i’n helpu i wneud dewisiadau gwyrdd. Sonnir am amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni sydd ar waith, fel y cynllun Nyth sy’n rhoi cyngor rhad ac am ddim yn ymwneud â gwelliannau ynni yn y cartref; deddfwriaeth yn erbyn cynhyrchion plastig untro; cynllun dychwelyd ernes newydd; cynorthwyo i gyflwyno hybiau trwsio ac ailddefnyddio; a therfynau cyflymder 20mya newydd a fydd yn ei gwneud yn fwy diogel i gerdded, olwynio neu feicio yn ein cymunedau.
Eisoes, mae nifer o aelwydydd yng Nghymru yn gwneud dewisiadau gwyrdd o reidrwydd – er mwyn lleihau biliau ynni yn ystod y gaeaf, er enghraifft. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chymorth er mwyn helpu’r nifer cynyddol o bobl sy’n dioddef oherwydd yr argyfwng costau byw.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal Wythnos Hinsawdd Cymru, gan roi cyfle i fusnesau, cymunedau ac unigolion ymuno â thrafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus er mwyn helpu i lunio atebion a all fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn arwain trwy esiampl?
Gweledigaeth: Mae Cymru Sero Net yn pennu’r weledigaeth ar gyfer cael sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030. Mae hyn yn golygu lleihau allyriadau’n fawr trwy’r sefydliadau hyn yn ogystal â thrawsnewid eu perthynas gyda natur.
Targedau: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun strategol sero net ei hun, lle nodir y targedau, y dull llywodraethu a’r mentrau ar gyfer cyrraedd sefyllfa sero net erbyn 2030.
Gweithredu ysbrydoledig: Mae nifer o gyflogwyr yn sector cyhoeddus Cymru yn cynnal rhwydweithiau staff gwirfoddol er mwyn annog ffyrdd gwyrdd o ymddwyn. Mae gan staff Llywodraeth Cymru, er enghraifft, rwydwaith gwirfoddol o’r enw ‘Byw’n Gynaliadwy’ sy’n cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu sut y gallant fyw’n fwy cynaliadwy a lleihau eu hôl troed carbon gartref ac yn y swyddfa.