Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gweithredu Diwydiant a Busnes
Mae gan ddiwydiannau a busnesau yng Nghymru rôl hollbwysig o ran lleihau allyriadau carbon – yn enwedig yr allyrwyr mwyaf, fel y diwydiant dur, y diwydiant puro petrol a’r diwydiant gweithgynhyrchu ac adeiladu.
Hefyd, mae gan bob busnes yng Nghymru gyfrifoldeb i ymrwymo i dargedau sero net, yn cynnwys cyflwyno arferion busnes cynaliadwy fel rhan o’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae nifer o’r busnesau hyn hefyd yn bwysig o ran ein helpu ni i wneud dewisiadau gwyrddach yn ein bywydau beunyddiol.
Beth allwn ni ei wneud?
Sut y gallwn helpu busnesau Cymru i leihau eu hallyriadau carbon?
Defnyddio ein grym gwario
Gallwn ddefnyddio ein grym gwario i gefnogi busnesau sydd ar flaen y gad o ran ymdrin â newid hinsawdd, a gallwn ddewis cynhyrchion o ansawdd da a fydd yn para’n hir, neu gynhyrchion ail-law a adnewyddwyd, er mwyn lleihau gwastraff.
Cadw pethau’n lleol
Prynwch a defnyddiwch nwyddau a gwasanaethau sy’n nes at eich cartref, gan gefnogi canol trefi lleol a busnesau bach. Hefyd, gall teithiau anamlach a byrrach yn y car helpu i leihau ein hallyriadau.
Prynu pethau sydd yn eu tymor:
Cefnogwch y sector amaethyddol a busnesau bwyd trwy brynu cynnyrch cynaliadwy, lleol, o ansawdd da ac sydd yn ei dymor, pan fo ar gael.
Dysgu sgiliau newydd
Beth am ddysgu sgiliau gwyrdd newydd neu ddilyn gyrfa werdd werth chweil er mwyn helpu i lunio atebion ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Gwirfoddoli
Beth am ddechrau neu ymuno â rhwydwaith gwirfoddoli gwyrdd a rhannu syniadau am sut i leihau ein hôl troed carbon gartref ac yn y gwaith – fel cymudo mewn modd gwyrddach. Os ydych eisoes yn gysylltiedig ag undeb, gofynnwch iddynt am help.
Rhwydwaith
Ymunwch â rhwydwaith o fusnesau lleol sydd eisoes wedi cymryd camau, gan wella arferion trwy gyfrwng yr Addewid Twf Gwyrdd.
Gwnewch addewid
Beth am annog ein gweithwyr i lofnodi Siarter Teithio Llesol, gwnewch Adduned Hinsawdd, llofnodwch yr Addewid Twf Gwyrdd neu manteisiwch ar dechnoleg gan annog y sefydliad i flaenoriaethu cyfarfodydd rhithwir pan fo modd, fel y bydd angen teithio llai.
Ailgylchu ac atal gwastraff
Dylai busnesau baratoi ar gyfer y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2023. Os ydych eisoes yn gysylltiedig â gweithgynhyrchu, archwiliwch opsiynau ar gyfer defnyddio deunyddiau crai wedi’u hailgylchu. Ac yn achos busnesau sy’n prynu cyfarpar cyffredin fel dodrefn swyddfa, ystyriwch brynu rhai ail-law sydd wedi’u hadnewyddu yn hytrach na rhai newydd.
Pa gamau y mae diwydiannau a busnesau’n eu cymryd?
Lleihau allyriadau
Hyd yn hyn, mae diwydiannau a busnesau yng Nghymru wedi arwain y ffordd o ran lleihau allyriadau carbon Cymru trwy wella effeithlonrwydd adnoddau. Ond mae yna fwy y gallant ei wneud o hyd. Rhaid iddynt gynnal swyddi presennol a chreu swyddi newydd a ffyrdd newydd o weithio, heb adael neb ar ôl.
Arloesi
Mae sector diwydiannol Cymru yn mynd i’r afael â heriau datgarboneiddio, yn cynnwys camau gweithredu hirdymor ac atebion technolegol newydd a fydd yn eu galluogi i barhau i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Cewch ragor o wybodaeth am y cymorth a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer arloesi yn ‘Cymorth Arloesi Hyblyg SMART’ a ‘Cyllid yr Economi Gylchol’ ar wefan Busnes Cymru.
Cydweithio
Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi y bydd yn creu Diwydiant Sero Net Cymru. Bydd y sefydliad aelodaeth hwn yn darparu trefniadau cydweithio hanfodol rhwng diwydiannau, y byd academaidd a’r llywodraeth er mwyn cyflymu’r siwrnai tuag at sero net.
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru yn cynorthwyo Busnesau Bach a Chanolig ledled Cymru gyda’u gweithgareddau Sero Net trwy gyfrwng mentrau fel y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a’r Weledigaeth Werdd. Caiff cwmnïau gweithgynhyrchu mwy eu cynorthwyo gan reolwyr rhanbarthol pwrpasol yn Llywodraeth Cymru, a hefyd gallant ddefnyddio gwasanaethau Busnes Cymru fel y bo’n briodol.
Adnoddau digidol:
Mae adnoddau digidol Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru yn cynnwys offer, canllawiau ac astudiaethau achos ar gyfer rhannu profiadau busnesau yng Nghymru; a chynigir cyngor arbenigol i fusnesau bach a chanolig wrth iddynt ddatgarboneiddio a dod yn fwy ynni-effeithlon.
Bwyd a Diod
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru, sef Rhaglen Bwyd a Diod Cymru, yn cynorthwyo’r sector bwyd a diod i ddatblygu cadwyni cyflenwi a fydd ymhlith y cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol drwy’r byd. Gweler y Llawlyfr Cynaliadwyedd ar gyfer cwmnïau bwyd a diod.
Cymorth ar gyfer pontio
Yn achos busnesau sy’n awyddus i arloesi er mwyn iddynt allu pontio, gall y Cymorth Arloesi Hyblyg gynnig cyllid ac arbenigedd.
Cymru Sero Net: Mae ail gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau yn disgrifio pedwar maes gweithredu cyffredinol ar gyfer diwydiannau a busnesau yng Nghymru, sef:
Gwella effeithlonrwydd adnoddau ac ynni
h.y. gwella arferion prynu, defnyddio llai o adnoddau a lleihau gwastraff.
Symud oddi wrth ddefnyddio tanwyddau ffosil
gan droi at ffynonellau ynni gwyrddach.
Dal a storio carbon
h.y. sicrhau bod carbon deuocsid sy’n deillio o ffynonellau diwydiannol yn cael ei wahanu, ei drin a’i gludo i fan storio hirdymor.
Adeiladau diwydiannol a masnachol
h.y. ystyried faint o wres, dulliau oeri a dŵr poeth a ddefnyddir mewn adeiladau diwydiannol a masnachol, a’r deunyddiau a ddefnyddir i’w hadeiladu.