Cyhoeddi yn gyntaf: 20/02/2025 -

Wedi diweddaru: 20/02/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Profiadau go iawn gan berchnogion pympiau gwres

Dere i wybod pam wnaeth Tony ac Adrian y switsh a sut maen nhw'n teimlo ar ôl gosod eu pympiau gwres.

Mae Adrian o Sir Gâr yn byw mewn tŷ carreg ar wahân, a godwyd yn 1800,  gyda'r atig wedi'i inswleiddio a ffenestri dwbl

"Doedden ni ddim yn bobl oedd yn danbaid dros yr amgylchedd. Roedd ein boeler olew wedi dod i ddiwedd ei oes ac i gael un newydd, byddem wedi gorfod symud y tanc i ganol y dreif. Does dim nwy yma felly penderfynon ni fentro ac edrych ar opsiynau eraill. Cawsom ddyfynbris neu ddau am foeler trydan, ond roedd pris y trydan, sy'n ofnadwy o uchel, yn ein poeni. Ryn ni'n defnyddio lot o drydan yn ein tŷ ni - mae 'da fi ddau o blant, ac mae'r peiriant sychu dillad wastad ymlaen."

"Roedd yn rhaid i'r peirianwyr newid y tanc dŵr a rhoi pibellau o dan y lloriau yn syth allan i'r pwmp gwres. Gosodwyd rheiddiaduron newydd a bennu'r gwaith mewn tua tri diwrnod.

Dyw'r tŷ erioed wedi bod mor gynnes - mae'n cael ei gadw ar dymheredd cyson o 19 gradd yn y dydd. Rwy'n gweithio gartref felly alla i ddim ei ddiffodd yn y gaeaf. 

Roedd y dechnoleg yn gam mawr i ni. Mae gen i app sy'n fy helpu i'w reoli.

Mae'r dechnoleg yn anhygoel - aeth hi mor oer â -6 gradd y gaeaf yma ac roedd hi'n dal yn gynnes yn y tŷ. Y gost yw'r prif ffactor, ond cawn ni fwy am ein harian pan gaiff y system prisio unedau nwy a thrydan ei newid. Byddwn i'n dweud wrth bobl i fynd amdani."

Mae gan Tony o Aberystwyth cartref newydd ei adeiladu

"Y prif reswm i ni oedd nad yw’r ty wedi'i gysylltu â'r nwy a doedden ni ddim am gael tanc olew yn yr ardd gefn am ei bod hi mor fach. Rhaid ichi allu derbyn llwythi olew os oes tanc olew 'da chi, ond gyda phwmp gwres, mae rhywun yn dod ac yn ei osod a dyna hi. Dyna oedd yr apêl fwyaf fwy na thebyg. Ond dros amser, rydyn ni wedi bod yn hapus am resymau eraill."

"Mae'n system syml iawn. Yn hytrach na throi'r gwres ymlaen pan fydd ei angen arnoch chi, rydyn ni'n tueddu i'w gadw ymlaen dros nos am fod y trydan yn rhatach. Mae'r tŷ bob amser yn gynnes. A gallwch ei droi'n uwch i fod yn gynhesach neu'n is i fod yn oerach gan ddibynnu ar sut mae'r tywydd yn newid. Mae gan fy mam foeler nwy ac mae hi naill ai'n rhy dwym neu'n rhy oer. Ond yn ein tŷ ni, mae hi wastad yn gyfforddus ac yn gynnes.

Cawsom ein synnu gan ba mor gynnes yw'r tŷ bob amser. Mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol ar ôl COVID a'r cyfnodau clo, gyda'r ddau ohonom yn gweithio gartref, felly mae'n braf iawn bod y tŷ bob amser yn gynnes. Nid yw'n costio mwy o arian i weithio gartref.

Mae'r dechnoleg wedi bod yn hawdd i'w defnyddio. Dwi'n difaru nawr na es i am rywbeth mwy cymhleth fel ei reoli drwy Wi-Fi. Ond dim ond amserydd gwres canolog cyffredin sy 'da ni.

Bydd yn para i'r dyfodol ac mae'n wirioneddol dda. Mae'r lle yn gynnes iawn. Rydyn ni'n talu tua £140 y mis ac mae gennym gartref cynnes braf."

Eisiau gweld pwmp gwres ar waith?

Os ydych yn chwilfrydig am sut mae pwmp gwres yn teimlo mewn cartref go iawn, mae gwasanaeth Gweld  Pwmp Gwres yn caniatáu ichi gysylltu â pherchnogion pwmp gwres gerllaw. Trefnwch ymweliad, sgwrsio am eu profiad, a gofynnwch unrhyw gwestiynau sydd gennych—gwybodaeth na chewch o hyd iddo ar-lein!

Perchnogion pwmp gwres: croesawu pobl.

Eisoes yn berchen ar bwmp gwres? Rhannwch y manteision gydag eraill! Rhoi gwybodaeth i eraill drwy'r gwasanaeth Gweld Pwmp Gwres a helpu i wneud gwahaniaeth trwy roi golwg uniongyrchol i eraill ar wresogi cartref gwyrdd. Cofrestrwch yma a byddwch yn rhan o ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol