Cyhoeddi yn gyntaf: 05/05/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd by our Editorial Panel

Teulu o’r Rhondda yn arbed £600 y flwyddyn ar ôl gosod paneli solar

Mae tad i bedwar o blant, Christian Badham o’r Rhondda, yn arbed hyd at £50 y mis ar ei filiau ynni ar ôl gosod paneli solar ar ei dŷ, diolch i gynllun ynni cartref Nyth

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £26.9m rhwng 2022 a 2023 yng nghynllun Nyth, gan ddarparu cyngor arbed ynni i 21,000 o aelwydydd. Darparodd ei becyn gwella ynni’r cartref gymorth i fwy na 4,000 o aelwydydd cymwys, gan arbed £422 y flwyddyn ar gyfartaledd ar filiau ynni pobl fel Christian. 

Sut mae cynlluniau ynni cartref fel hyn yn ein helpu i wneud dewisiadau mwy gwyrdd? 

Ar ôl symud i gartref tair ystafell wely yn Nhon Pentre y llynedd, roedd Christian Badham eisiau cymryd camau i wella ei effeithlonrwydd ynni ac, yn ei dro, leihau ei filiau. 

Dechreuodd ymchwilio i opsiynau ac fe welodd Nyth, cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru a all gynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd cartref am ddim i rai aelwydydd. Dair wythnos yn ddiweddarach, gosodwyd wyth panel solar ar y tŷ ac mae'r teulu bellach yn elwa. 

Dywedodd Christian:

Ers gosod y paneli, rydw i wedi sylwi bod ein biliau ynni wedi gostwng tua £50 y mis. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr! 


Fel llawer o deuluoedd, nid oedd gennym yr arbedion i fuddsoddi mewn gosod paneli solar, ond roeddem am wneud ein cartref yn fwy ynni-effeithlon, yn enwedig gyda phrisiau ynni yn cynyddu. Gyda chynllun Nyth, rydym wedi gallu cael gafael ar gyllid i gefnogi newidiadau effeithlonrwydd ynni yn ein cartref. Ni allwn gredu pa mor hawdd oedd y broses gyfan. Nid oedd y gwaith gosod yn tarfu arnom o gwbl, ac nid oedd wedi gwneud unrhyw newidiadau syfrdanol i'n cartref. 


Mae gan y paneli’r gallu i bweru 35 kWh o ynni’r dydd. Ond o’u herwydd, yn yr haf er enghraifft, dim ond 4 kWh y dydd rydyn ni’n ei ddefnyddio.


Pam bod angen gweithredu? 

Mae cynllun Cartrefi Clyd Nyth wedi cefnogi degau o filoedd o gartrefi ledled Cymru gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Mae'r mesurau hyn yn helpu i gadw cartrefi'n gynnes, lleihau biliau ynni a gwella iechyd a lles. 

Dywedodd Ross Kirwan, Pennaeth Nyth:

Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor diduedd am ddim i bob cartref yng Nghymru, beth bynnag fo’r amgylchiadau, gan rymuso ein cwsmeriaid â chymorth pwrpasol, gan eu helpu i wneud y dewisiadau cywir o ran arbed arian ac ynni yn y cartref.

Gan gytuno, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

Mae defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn ein cartrefi yn ffordd wych o leihau ein heffaith ar newid hinsawdd drwy leihau allyriadau carbon. 


Mae’n wych gweld pobl fel Christian yn mynd ati i gael mynediad at yr arian sydd ar gael i wneud newidiadau pwysig, wrth fwynhau’r buddion o arbed costau hefyd.

Beth mae Cymru yn ei wneud? 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru drwy gynlluniau fel Nyth a’r rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol