Datgloi pŵer eich cartref: ffeithiau hanfodol am fesuryddion deallus
Mae mesuryddion deallus yn chwyldroi'r ffordd rydyn ni'n meddwl am y defnydd o ynni. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am wneud y newid deallus! Rydyn ni wedi cydweithio â'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i roi gwybodaeth ddibynadwy i chi am fesuryddion deallus.
Beth yw mesurydd deallus?
Mae mesuryddion deallus yn mesur eich defnydd o nwy a thrydan ac yn anfon y data'n uniongyrchol at eich cyflenwr ynni. Drwy sgrin arddangos yn y cartref, maent yn eich helpu i fonitro a rheoli eich defnydd o ynni yn effeithlon.
Sut mae mesurydd deallus yn gweithio?
Mae'r mesurydd yn anfon eich data defnydd ynni at eich cyflenwr yn awtomatig gan ddefnyddio rhwydwaith diogel. Byddwch yn cael diweddariadau ar eich defnydd o nwy bob hanner awr a diweddariadau sy'n agos at amser real ar gyfer trydan, a’r cyfan i'w gweld ar eich sgrin gartref.
Manteision newid i fesuryddion deallus
Bilio cywir
Cewch ffarwelio â biliau sydd wedi eu hamcangyfrif — dim ond am yr hyn rydych wedi'i ddefnyddio y byddwch yn ei dalu.
Lleihau’r defnydd o ynni
Mae data amser real yn eich helpu i leihau'r defnydd o ynni diangen, gan leihau eich biliau a'ch ôl troed carbon.
Rhaglenni arbed arian
Mae mynediad at dariffau amser defnyddio yn golygu cyfraddau rhatach pan na fydd hi'n oriau brig, a chymhellion ar gyfer defnyddio ynni ar ddiwrnodau cyflenwi uchel.
Mesuryddion deallus a gweithredu ar newid hinsawdd
Trwy helpu i gydbwyso anghenion ynni cenedlaethol, mae mesuryddion deallus yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Sut mae mesuryddion deallus yn helpu gyda'r argyfwng hinsawdd?
Gyda'r data defnydd manwl o fesuryddion deallus, gall cwmnïau ynni reoli llif trydan yn well, yn enwedig o ffynonellau adnewyddadwy ysbeidiol fel solar a gwynt. Mae hyn yn golygu ei bod yn haws integreiddio ynni adnewyddadwy i'r grid, gan leihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.
Gosod y mesurydd a'ch hawliau
Mae mesuryddion deallus yn ddewisol, ond heb un, rydych chi'n colli allan ar opsiynau bilio haws ac opsiynau tariff arloesol. Cysylltwch â'ch darparwr ynni i drefnu gosod mesurydd. Fel arfer dim ond tua 90 munud fydd hyn yn ei gymryd, ac mae'n rhad ac am ddim.
Cost mesuryddion deallus
Nid oes cost uniongyrchol am fesurydd deallus; byddwch yn cael eich digolledu drwy eich biliau ynni dros amser. Efallai y bydd rhai darparwyr yn cynnig archwiliad effeithlonrwydd ynni am ddim wrth osod eich mesurydd deallus.
Mesuryddion deallus i bawb
P'un a ydych ar gynllun rhag-dalu neu'n rhentu, gallwch elwa o fesurydd deallus. Bydd angen i'r rhai sy'n rhentu drafod â'u landlord os nad yw'r bil yn eu henw nhw.
Uwchraddio eich mesurydd deallus
Os oes gennych fesurydd deallus hŷn eisoes, efallai y bydd angen i chi uwchraddio i fodloni safonau technegol newydd. Fel arfer, fydd hyn ddim yn costio dim i chi.
Integreiddio â rheolaethau gwresogi deallus
Er ei fod yn annibynnol ar reolaethau gwresogi deallus, gall cyfuno'r ddau wella eich gallu i reoli’r ffordd rydych yn gwresogi eich cartref a'ch defnydd o ynni o bell, gan arbed hyd yn oed mwy ar eich biliau.
Datrys problemau a chynnal a chadw
Os yw'ch mesurydd deallus yn stopio gweithio, cysylltwch â'ch cyflenwr. Nhw sydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r mesurydd a byddant yn trwsio neu'n newid eich mesurydd yn ôl yr angen.
Nid darn o offer yn unig yw mesuryddion deallus; maent yn ffordd o sicrhau cartref mwy effeithlon o ran ynni. Trwy ddeall a rheoli eich defnydd, gallwch wneud dewisiadau doethach a fydd o fudd i'ch waled a'r blaned. Ydych chi'n barod i newid? Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni heddiw a chamwch i mewn i ddyfodol doethach, gwyrddach.
Am ragor o wybodaeth am arbed ynni – ewch i Esbonio mesuryddion deallus - Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni