Cyhoeddi yn gyntaf: 25/09/2024 -

Wedi diweddaru: 17/12/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Arbed arian ac achub y blaned gyda Chartrefi Gwyrdd Cymru: ceisiadau yn agor yr hydref hwn!

Ydych chi'n breuddwydio am gartref mwy clyd a chynnes? Neu efallai eich bod chi'n awyddus i ostwng y biliau ynni hynny wrth wneud eich rhan dros y blaned? Dyma'r union beth i chi! Mae cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yma i'ch helpu i drawsnewid eich cartref yn hafan ynni-effeithlon. Mae’r fenter yn cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru a'i chefnogi gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn eich helpu i wneud eich cartref yn wyrddach, yn rhatach i'w redeg, ac yn fwy cyfforddus i fyw ynddo.

Beth yw’r cynllun?

Nid mater o arbed ynni yn unig yw cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru; mae'n darparu pecyn i wneud eich taith arbed ynni yn un esmwyth, ddi-straen. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:

 

  • Arweiniad arbenigol
    Dechreuwch eich taith werdd gyda chymorth Cydlynydd Ôl-osod wedi'i ariannu'n llawn. Bydd yr arbenigwr hwn yn cynnal asesiad manwl o'ch cartref, gan gynnig argymhellion wedi'u teilwra i hybu effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio eich cartref. P'un ai eich bod yn ystyried inswleiddio, uwchraddio gwres neu baneli solar, bydd gennych gynllun clir i'w ddilyn.

  •  Ariannu hyblyg
    Poeni am gostau ymlaen llaw? Dim problem! Mae'r cynllun yn cynnig benthyciadau di-log yn amrywio o £1,000 i £25,000, gyda chyfnod ad-dalu hyd at 10 mlynedd. Ac os ydych chi'n mynd am brosiect mwy, mae'r cyfnodau ad-dalu yn gallu para'n hirach byth! Hefyd, cewch wyliau ad-dalu 6 mis, gan roi amser i'ch mesurau newydd ddechrau talu eu ffordd!

  • Cyllid grant
    Yn ogystal â'r benthyciadau, efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael cyllid grant i dalu am fesurau arbed ynni a datgarboneiddio penodol. Mae hyn yn golygu y gallwch fwynhau manteision cartref mwy gwyrdd gyda llai o gostau cychwynnol.

Sut mae'n gweithio

  1. Cyngor cyffredinol ar effeithlonrwydd ynni
    Dechreuwch gyda chyfoeth o gyngor cyffredinol, gan eich helpu i ddeall eich opsiynau. Gall cynlluniau fel NYTH Llywodraeth Cymru eich tywys i nodi cyfleoedd ariannu presennol trwy grantiau cyhoeddus.

  2. Asesiad ac argymhellion ar gyfer y cartref
    Bydd Cydlynydd Ôl-osod yn asesu eich cartref ac yn darparu cynllun pwrpasol i wella effeithlonrwydd ynni, gan sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf o'ch arian.

  3. Cyllid a gweithredu
    Ar ôl i chi gael eich cynllun, mae'n bryd ei roi ar waith gyda'r cymorth ariannol a'r gwasanaethau gweithredu arbenigol a ddarperir gan Cartrefi Gwyrdd Cymru.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Er mwyn manteisio ar y cynllun gwych hwn, rhaid i chi fod yn berchennog tŷ yng Nghymru a chael cyngor cyffredinol ar ynni yn gyntaf cyn gwneud unrhyw newidiadau i'ch cartref. Cofiwch, mae pob cais yn destun archwiliadau fforddiadwyedd a sgôr credyd, felly mae'n hanfodol cael trefn ar bethau.

Cynllun y gallwch ymddiried ynddo

Bydd y ffaith bod Cartrefi Gwyrdd Cymru yn gofyn i bob gwaith gydymffurfio â PAS 2035, prif fframwaith safonau ôl-osod y DU, yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Mae hyn yn golygu bod gofynion ansawdd yn rhan annatod o’r cynllun, o'r Cydlynwyr Ôl-osod i'r gosodwyr, gan sicrhau gwelliannau o'r radd flaenaf i'ch cartref.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Mae'r cynllun yn cwmpasu ystod eang o brosiectau arbed ynni, gan gynnwys:

  • Gwres: Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer, boeleri biomas, neu wresogyddion stôr sy'n cadw gwres uchel.

  • Cynhyrchu: Byddwch yn wyrddach gyda solar thermol, solar PV, neu systemau storio mewn batris.

  • Ffabrig: Inswleiddio waliau, toeau a llofftydd, neu uwchraddio i wydr perfformiad uchel.

  • Rheolaethau: Gwneud y defnydd gorau o'ch ynni gyda systemau rheoli ynni cartref clyfar.

Pam troi'n wyrdd?

Byddwch nid yn unig yn gallu mwynhau biliau ynni is, ond hefyd yn creu cartref mwy clyd a chynnes, yn lleihau eich ôl troed carbon, a chynyddu gwerth eich eiddo ar y farchnad o bosibl. Mae'n gam craff ymlaen, o safbwynt eich poced, eich cysur cartref a'r blaned.

Amdani!

Bydd ceisiadau am gynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yn agor yr hydref. Cyntaf i'r felin yw hi, felly peidiwch â cholli’r cyfle! Os hoffech chi gael nodyn atgoffa pan fydd y broses ymgeisio ar agor, cofrestrwch eich diddordeb nawr.

Ymunwch â ni i wneud Cymru'n lle gwyrddach sy'n arbed ynni, un cartref ar y tro. Byddwch yn barod i groesawu dyfodol mwy disglair a gwyrddach gyda Cartrefi Gwyrdd Cymru!

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol