Cyhoeddi yn gyntaf: 23/06/2023 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Cynnydd enfawr mewn gwasanaethau bws hyblyg wrth i deithwyr Cymru fanteisio ar deithio cynaliadwy
Mae gwasanaeth bws hyblyg sy’n ymateb i’r galw ym Mlaenau Gwent wedi gweld cynnydd o bron i un rhan o bump yn nifer y teithwyr yn y chwe mis diwethaf, wrth i bobl archwilio dulliau teithio mwy cynaliadwy.
Mae’r gwasanaeth bws fflecsi, sy’n gweithredu fel gwasanaeth codi a gollwng, wedi helpu pobl ledled Cymru i wneud mwy na 23,000 o deithiau ers mis Mehefin 2022, ar ôl cyfuno teithwyr â llwybrau teithio tebyg gyda’i gilydd. Mae teithwyr yn archebu trwy’r ap fflecsi hawdd ei ddefnyddio, neu linell ffôn cyfradd leol, gyda theithiau hygyrch, fforddiadwy yn aml yn dechrau ar garreg eu drws, ac yn gorffen mewn llefydd fel eu meddygfa neu siopau lleol.
Sut mae’r gwasanaeth bws fflecsi yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd?
Mae’r gwasanaeth bws fflecsi yn sicrhau bod eich dewisiadau gwyrdd yn fforddiadwy ac yn gyfleus.
Mae Gary Milburn wedi bod yn yrrwr bws ers dros 10 mlynedd ac yn ddiweddar ymunodd â thîm fflecsi fel Rheolwr ar Ddyletswydd. Ers ymuno, mae wedi gweld y gwasanaeth yn cynyddu mewn poblogrwydd wrth i bobl ei gydnabod fel dewis amgen ymarferol i ddefnyddio eu car.
Dywedodd Gary:
Ers lansio’r gwasanaeth ym mis Mehefin 2021, rydym wedi gweld cynnydd cyson mewn archebion fis ar ôl mis.
Rydw i’n meddwl, trwy gysylltu teithwyr â gwasanaethau bws neu reilffordd ehangach, ein bod ni’n cael gwared ar y rhwystr hwnnw i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, fel bod mwy o bobl yn gallu defnyddio’r gwasanaeth – gan helpu pobl i wneud dewisiadau teithio gwahanol.
Nid ar gyfer cymudwyr yn unig mae hyn chwaith – mae gennym ni blant ysgol a theithwyr yn ystod y dydd, ac oherwydd ein bod yn rhedeg hyd at 11pm, gall pobl ei ddefnyddio ar gyfer cymdeithasu hefyd.
Pam bod angen gweithredu?
Dywedodd Christian Reed, Pennaeth Masnachol yn Stagecoach De Cymru:
Trwy bartneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, mae fflecsi wedi dod yn achubiaeth i lawer o bobl sy’n teithio yn ardal Blaenau Gwent. Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a gadael ceir gartref yn ffordd wych i bobl wneud eu rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Rydyn ni’n gwybod bod teithwyr yn aml yn wynebu her ym milltir gyntaf ac olaf eu teithiau, yn aml sut maen nhw’n mynd o’u cartrefi i’w safle bws neu orsaf drenau leol. Nod y gwasanaeth fflecsi yw gwneud y teithiau byr hynny’n bosibl ac yn hygyrch, gan gysylltu â dewisiadau eraill o ran trefniadau ar gyfer trafnidiaeth bellach, a’u hagor.
Drwy gyfuno teithwyr â llwybrau teithio tebyg gyda’i gilydd, mae’n darparu dull effeithlon o drafnidiaeth ddidrafferth, ac mae wedi profi cynnydd o 17% yn nifer y teithwyr yn y chwe mis diwethaf. Mae bron i 900 o gyfrifon teithwyr gweithredol, gyda 90% o deithwyr yn defnyddio'r ap i archebu eu teithiau.
Beth mae Cymru yn ei wneud?
Mae’r gwasanaeth fflecsi yn gweithredu mewn 11 lleoliad ledled Cymru ac mae’n un o’r mentrau niferus a gefnogir gan Lywodraeth Cymru mewn ymgais i leihau allyriadau carbon.
Ers ymrwymo Cymru i sicrhau dim allyriadau erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau a busnesau ledled y wlad i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth:
Gyda cheir a cherbydau gwaith ysgafn yn cyfrif am 71% o allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru, mae gan ein dulliau teithio ran sylweddol i’w chwarae i’n helpu i gyrraedd dim allyriadau.
Mae angen i ni sicrhau bod y weithred gywir yn weithred hawdd. Er ein bod yn buddsoddi mewn gwella’r seilwaith i bobl deithio heb geir, mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ei bod yn hawdd i bobl gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus o’u cartrefi. Gall gwasanaethau fel fflecsi helpu i ddileu rhwystrau i gael gafael ar wahanol opsiynau trafnidiaeth a lleihau’r angen i ddefnyddio eu ceir.
Rhaid i’r 2020au fod yn ddegawd o weithredu. Bydd lleihau allyriadau yn fwy yn y degawd hwn nag mewn unrhyw gyfnod blaenorol o 10 mlynedd yn her ac efallai y bydd angen i ni wneud dewisiadau anodd. Os ydym am gyrraedd ein targed o fod yn sero net erbyn 2050, mae angen i ni gydweithio nawr a pharhau i wneud newidiadau i’r ffordd rydym yn ymddwyn, yn defnyddio ac yn teithio.
Wedi'i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, a'i ddarparu gan Stagecoach, mae fflecsi wedi'i gynllunio i gynnig ffordd fwy cyfleus a dibynadwy o deithio o gwmpas.
Mwy o wybodaeth
Mae cynlluniau peilot fflecsi eraill Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal yn Sir Benfro a Dyffryn Conwy. Mae awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint hefyd yn ariannu cynlluniau peilot yn eu hardaloedd. Ceir manylion yr holl wasanaethau fflecsi yma www.fflecsi.cymru