Cyhoeddi yn gyntaf: 01/11/2024 -

Wedi diweddaru: 01/11/2024 -

Verified by our Editorial Panel

A ddylwn i fwynhau’r wefr o fod yn berchen ar gar trydan?

Beth yw'r manteision o fod yn berchen ar gerbyd trydan? A fydd yn ddrud, ac am ba hyd y bydd y batri yn para? Mae'r arbenigwr trafnidiaeth gynaliadwy, Sara Sloman, yn mynd i'r afael â rhai cwestiynau cyffredin.

Dechreuodd fy ngyrfa mewn cerbydau trydan (EVs) bron i 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn yn gweithio i'r timau trafnidiaeth gynaliadwy ym Mryste. Rydw i bellach yn gyd-gyfarwyddwr platfform cymunedol ar-lein o'r enw The EV Café, ac rwy'n gweithio ym maes meddalwedd a thaliadau ar gyfer gwefru EVs.

Dw i'n cael teimlad da iawn wrth yrru cerbyd trydan. Dw i'n gwybod ei fod yn bodloni materion yn ymwneud ag aer glân mewn dinasoedd a threfi, a dw i'n mwynhau'r tawelwch heb injan swnllyd. Mae gen i feic modur trydan hefyd y gallaf ei wefru yn fy ngarej gartref, a dw i wrth fy modd yn ei reidio oherwydd bod y perfformiad yn anhygoel.

Nawr yw'r amser perffaith i ystyried EV fel eich cerbyd nesaf. Mae mwy o fodelau nag erioed o'r blaen - ac mae grantiau, cymhellion a chynlluniau i gyd o blaid newid i drydan.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cerbydau trydan a cherbydau hybrid?

Mae cerbyd trydan llawn yn defnyddio trydan yn unig fel tanwydd. Mae gan gerbyd hybrid injan drydan ac injan danwydd draddodiadol. Mae angen plygio rhai modelau i gyflenwad trydan i wefru’r batri bach sydd yn y cerbyd. Gelwir y rhain yn gerbydau trydan hybrid plygio i mewn. Mae cerbydau hybrid hunan-wefru yn defnyddio injan betrol neu ddiesel y cerbyd i wefru'r batri.

A yw EVs yn ddrud?

Gall cost gychwynnol EVs fod yn uchel, a dyna pam mae pobl yn meddwl eu bod yn ddrutach na cherbyd cyfatebol sy'n cael ei bweru gan danwydd ffosil. Ond ffordd well o edrych ar hyn yw ystyried cyfanswm cost perchnogaeth. Efallai y bydd prynu neu brydlesu cerbyd trydan yn ymddangos yn gostus yn y lle cyntaf, ond mae llawer o fanteision eraill - gan gynnwys gostyngiad yn y dreth gerbyd, a'r cyfle i wefru eich car yn uniongyrchol o'ch tŷ am bris llawer rhatach nag y byddai petrol neu ddiesel yn ei gostio.

Beth yw'r manteision i'r gyrrwr?

Dwi wrth fy modd oherwydd ‘does bron dim gwaith cynnal a chadw - i mi, dim ond un pâr o deiars newydd ar ôl 45,000 o filltiroedd. Mae unrhyw beth sy'n mynd o'i le yn tueddu i gael ei drwsio gyda diweddariad dros rwydwaith diwifr yn uniongyrchol gan fy narparwr.

Mae nodweddion diogelwch fy EV yn ddefnyddiol iawn. Gan fy mod yn byw yng nghefn gwlad, gall amodau ffyrdd fod yn ofnadwy mewn tywydd gwael. Mae gen i lawer o osodiadau i wneud i'r car yrru'n haws mewn eira, rhew neu fwd, ac mae gennym ni dechnoleg ‘slip-start’ hyd yn oed, sy'n atal yr olwynion rhag troelli fel oedd yn digwydd gyda fy hen gerbyd diesel.

A yw'n hawdd dod o hyd i leoedd i wefru eich cerbyd trydan?

Dw i'n falch iawn o weld mwy a mwy o wefrwyr cyrchfan mewn lleoedd fel tafarndai a bwytai. Pan fydda i'n aros am ychydig oriau, gallaf wefru fy nghar yn hawdd. Mae hyd yn oed meysydd gwersylla yn dechrau arloesi, gan gynnig cyfleusterau gwefru EV am gyfraniad neu ffi.

Mae gan lawer o wefrwyr dechnoleg ddigyffwrdd, felly y cwbl sydd angen ichi ei wneud i dalu yw tapio eich cerdyn neu ddefnyddio eich ffôn. Mae eraill angen aelodaeth neu’r defnydd o gerdyn crwydro, ac rydych chi'n cael eich bilio yn nes ymlaen. Mae rhai o'r rhain yn tynnu eich arian yn syth, felly does dim rhaid i chi boeni am y gost yn pentyrru dros gyfnod.

Dw i wedi sylwi bod seilwaith gwefru wedi dod yn fwyfwy dibynadwy dros y 12 mis diwethaf - nid ar brif ffyrdd a thraffyrdd yn unig, ond mewn mannau lle byddaf yn aros dros nos. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i mi gynllunio fy nhaith yn drylwyr mwyach. Mae fy nghar yn dweud wrtha i mewn da bryd pryd bod angen ei wefru, ac yn aml yn dod o hyd i orsaf wefru ar y map.

Faint mae'n ei gostio i wefru EV?

Byddwch yn arbed arian os ydych yn gwefru gartref, yn hytrach nag mewn mannau eraill. Dydw i ddim yn gallu gwefru fy nghar gartref - ond er hynny, rydw i wedi bod yn tracio fy ngwariant dros y tair blynedd diwethaf, ac mae fy nghar diesel a fy nghar trydan wedi costio'r un faint yn union i mi. Pe bawn i'n gallu gwefru gartref, byddwn yn bendant yn gweld y manteision ariannol hyd yn oed yn fwy.

Mae'r gost o osod gwefrwr cartref wedi gostwng. Mae'n werth cyllidebu ar gyfer rhwng £500 a £1,000, neu siopa o gwmpas i weld a yw'r car rydych chi'n ei hoffi yn dod gydag opsiwn gwefru cartref. Fel arall, efallai y bydd rhai cwmnïau ynni yn gosod un am ddim os byddwch yn eu dewis nhw fel cyflenwyr. Mae yna hefyd straeon gwych am berchnogion cerbydau yn gosod paneli solar ar y to, a gwefru eu ceir am ddim dros gyfnod o amser!

Am ba hyd y mae batris EV yn para?

O flwyddyn i flwyddyn, mae technoleg batri yn gwella'n sylweddol. Mae'n rhaid i mi ddefnyddio gwefrwyr cyflym y rhan fwyaf o'r amser gan nad oes gen i wefrwr cartref, a gall hyn leihau perfformiad batri dros amser. Fel mae'n digwydd, nid yw hyn wedi effeithio ar fy nghar i: dw i wedi gwneud 45,000 milltir mewn dwy flynedd ac mae'r batri yn dal i berfformio cystal ag erioed. Dw i'n cael rhwng 250-300 milltir allan o wefriad llawn, yn dibynnu ar sut rydw i'n gyrru, y math o yrru rwy'n ei wneud, ac ar y tywydd.

A yw'n werth prynu EV ail-law?

Dw i'n rhagweld, wrth i fwy a mwy o gerbydau gyrraedd diwedd eu hoes prydlesu, y byddant yn ymddangos yn y farchnad ail-law i'w prynu am bris llawer mwy fforddiadwy. Cofiwch: mae'r gwariant cychwynnol ar gyfer y cerbyd bob amser yn ymddangos yn uchel, ond dros ei oes, bydd yn gostwng.

Beth yw'r ffordd hawsaf o newid i drydan?

Cymerwch eich amser i ddewis cerbyd sy'n ticio'ch holl flychau. Dw i wedi dewis prydlesu fy nghar trydan, oherwydd rwy'n hoffi gwybod yn union faint y mae fy miliau'n mynd i fod bob mis. Mae fy mhrydles yn cynnwys nifer penodol o filltiroedd gwefru EV, ac anaml y bydd yn rhaid i mi dalu am fy nghostau fy hun ar ben y ffi fisol hon. Dw i'n mwynhau defnyddio fy ngherbyd trydan ar gyfer gwersylla a chwaraeon awyr agored - dewisais gerbyd mawr y gallaf gael fy nheulu i mewn iddo, a hyd yn oed beic yn y cefn.

Os ydych chi'n ystyried troi at drydan, trefnwch daith brawf fel y gallwch chi brofi'r holl fanteision eich hun. Dw i erioed wedi edrych nôl!

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol