)
Dewisiadau teithio gwyrdd
Cyhoeddi yn gyntaf: 14/06/2023 -
Wedi diweddaru: 26/03/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Gall ystyried sut rwyt ti’n teithio arbed arian i ti, gwella dy les a helpu i amddiffyn y blaned.
Pam gweithredu?
Mae'r ffordd rwyt ti'n teithio yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran amddiffyn y blaned.
Arbed arian
Gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gyrru llai helpu i osgoi tagfeydd traffic ac arbed tanwydd, parcio a chostau cynnal a chadw.
Gwella dy iechyd a lles
Gall cerdded, sgŵtio, olwynio neu seiclo wella dy iechyd a dy les gan hefyd osgoi’r strès o yrru.
Gwella diogelwch y ffordd
Bydd gyrru’n fwy ara’ deg gan roi blaenoriaeth i gerddwyr, seiclwyr a reidwyr ceffylau yn gwneud i deithio di-gar deimlo’n fwy diogel.
Lleihau llygredd aer a sŵn
Mae lleihau’r nifer o geir ar y lôn yn lleihau llygredd aer a llygredd sŵn yn ogystal ag allyriadau carbon.
Gweithreda
Hyd fideo:
1 minute 9 seconds