Cyhoeddi yn gyntaf: 30/08/2024 -
Wedi diweddaru: 25/09/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Ymchwiliad i ffasiwn gynaliadwy: dysgu am frandiau o Gymru sy'n gwneud gwahaniaeth
Mae ffasiwn gynaliadwy yn fwy na mympwy; mae'n symudiad tuag at ffordd fwy ymwybodol a chyfrifol o fyw. Trwy gefnogi brandiau ffasiwn gynaliadwy, yn ogystal â gwella'n steil gyda dillad unigryw, rydym hefyd yn helpu i ddiogelu ein planed a rhoi hwb i'n heconomi leol.
Ym mis Medi, fel rhan o Fedi Ail Law, rydym yn ymuno â Sustainable Fashion Wales i dynnu'ch sylw at frandiau anhygoel o Gymru sy'n geffylau blaen ym myd ffasiwn ecogyfeillgar. Cafodd SustFashWales ei sefydlu gan yr addysgwr cynaliadwyedd Helen O'Sullivan, sydd wedi bod yn hyrwyddo ffasiwn gyfrifol ers 2013. Mae'r platfform wedi trefnu'r unig gyfeiriadur o frandiau ffasiwn gynaliadwy yng Nghymru gan gynnig cyfoeth o adnoddau i'ch helpu i ddysgu, trwsio a hyd yn oed greu eich dillad eich hun. O ail-bwrpasu tecstilau i gynhyrchu moesegol, mae gan y brandiau hyn rywbeth i bawb, waeth beth yw'ch oedran neu'ch steil. Felly, paratowch i ddod â bywyd newydd i'ch cwpwrdd dillad a chael effaith gadarnhaol!
Brandiau Ffasiwn Cynaliadwy o Gymru sy'n haeddu'ch sylw.
Bombus Artisanal Gan arbenigo mewn ail-bwrpasu tecstilau gwastraff, mae Bombus Artisanal yn creu bagiau, scrunchies ac ategolion o decstilau heb eu defnyddio a dillad rhodd. Mae pob darn yn unigryw, gan sicrhau bod gennych ategolyn unigryw. Fel busnes balch sy'n cael ei redeg gan bobl LGBTQ+, mae Bombus yn cyfrannu 25% o werthiant ei gasgliad Pride i Trans Aid Cymru.
Boutique De Nana Mae'r brand hwn yn cynnig dillad wedi'u gwneud o ddefnydd o ffynonellau moesegol yn Sudan, gan roi cyffyrddiad personol trwy addasu pob darn ar sail enw'r cwsmer yn Arabeg. Mae'r dull unigryw hwn yn cyfuno traddodiad â ffasiwn foesegol fodern.
Carpenter and Cloth Mae angerdd Emily dros ffibrau naturiol a thecstilau cynaliadwy i'w weld yn amlwg yn ei chreadigaethau. Gan ddefnyddio gwlân o Gymru, lliain o Iwerddon a deunyddiau wedi'u hailgylchu, mae Carpenter and Cloth yn cynnig popeth o hen siacedi wedi'u trwsio i ffrogiau parti fydd yn hwb i’ch hunan-hyder.
Label Clare Johns Gan gyfuno'r cyfoes â'r gwledig, mae Clare Johns yn dylunio darnau gan ddefnyddio deunyddiau o'i defaid ei hun. Wedi'u gwneud â llaw yn Sir Benfro, mae'r eitemau moethus hyn yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Coast 2 Coast Brand crysau-t ecogyfeillgar sy'n defnyddio cotwm cylchdro a deunyddiau fegan wedi'u hailgylchu. Mae Coast 2 Coast yn gwneud dillad gan ddefnyddio ynni gwyrdd adnewyddadwy. Yn ddelfrydol ar gyfer chwaraeon, syrffio ac achlysuron anffurfiol.
Dati Clothing Wedi'i sefydlu gan y chwiorydd Julia a Sarah, mae Dati Clothing yn creu ffasiwn araf, ymwybodol trwy ddefnyddio ffabrigau ecogyfeillgar a dulliau uwchgylchu. Mae eu dyluniadau yn berffaith ar gyfer ffordd drefol o fyw.
Déjà Vu Mae Déjà Vu yn boutique poblogaidd ym Mhontcanna sy'n cynnig dillad merched wedi'u curadu. Eu cenhadaeth yw hyrwyddo ffasiwn oesol y gellir ei charu dro ar ôl tro, yn lle ffasiwn gyflym, un darn ar y tro.
Delicious Monster Tea Dechreuodd y brand hwn gyda chrys-t brodwaith syml ac mae wedi tyfu i fod yn fusnes llawn amser. Mae Delicious Monster Tea yn canolbwyntio ar greu rhoddion i'w cadw sy'n para, gan ddefnyddio arferion cynaliadwy.
Eco Wardrobe Pam prynu gwisg newydd ar gyfer digwyddiad mawr pan allwch chi ei rhentu gan Eco Wardrobe? Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig ffrogiau prom, morwyn briodas a phriodas i'w llogi, gyda'r elw yn cefnogi PromAlly.
Elin Manon Gan gynnig dyluniadau di-wastraff llawn cymeriad o ddefnydd cynaliadwy, mae Elin Manon yn canolbwyntio ar ddillad gwau ffasiynol a dillad wedi'u huwchgylchu ar gyfer bohemiaid y byd.
Ethical Boutique Yn rhan o'r SAFE Foundation, mae'r boutique hon yng Nghaerdydd yn gwerthu dillad 'vintage' a nwyddau cartref wedi'u huwchgylchu. Mae'r holl elw yn cefnogi cymunedau ymylol ledled y byd.
Fall Bay Swim Mae Carys Griffiths yn dylunio dillad unigryw ar gyfer gweithgareddau corfforol, gyda phrintiau wedi'u creu o luniadau, darluniau a ffotograffau. Mae pob darn wedi'i wneud â llaw yn Abertawe, gan wneud pob eitem yn wirioneddol unigryw.
Ffrili Jilli Gan uwchgylchu hen ddillad a deunyddiau yn gynhyrchion newydd unigryw, mae Ffrili Jilli yn derbyn comisiynau ac yn trwsio ac yn altro dillad. Wedi'i ysbrydoli gan gariad at wnïo a chynaliadwyedd, mae'r brand hwn yn ymroi i leihau gwastraff.
Flamingos Vintage Gan weithio yn Abertawe a Chaerdydd, mae Flamingos Vintage yn cynnig ystod eang o ffasiwn 'vintage', gan gynnwys darnau Ralph Lauren a Tommy Hilfiger. Dyma'r lle perffaith am steil gynaliadwy a fforddiadwy.
Fflaunt It Vintage Mae Flaunt It Vintage o'r Rhyl yn cynnig amrywiaeth o ffasiwn 'vintage' a chynaliadwy i bawb. Maent hefyd yn cyfnewid dillad am dalebau, gan hyrwyddo economi ffasiwn gylchol.
Found It At Frame Gan gefnogi oedolion bregus drwy brofiad gwaith, mae Find It At Frame yn uwchgylchu ac yn ailgylchu tecstilau rhodd. Mae eu siopau yn Noc Penfro a Merlin's Bridge yn gwerthu ffasiynau wedi'u huwchgylchu.
Greyhound Rescue X Trash Dresses Mae'r siop elusen hon yn Abertawe yn cynnwys arddangosfeydd ffenestr anhygoel o ddillad ffasiwn wedi'u gwneud o sbwriel. Rhaid gweld Ffrogiau Trash Claire Franklin i'w credu!
Hiut Denim Co Gan adfywio diwydiant denim Aberteifi, mae Hiut Denim Co yn creu jîns o ansawdd uchel wrth ddod â bywyd newydd i'r dref. Mae eu jîns yn dyst i sgiliau a chrefft y gymuned leol.
Howies Yn gwmni annibynnol sy'n cynhyrchu dillad gweithgarwch o ansawdd uchel, effaith is ar gyfer rhedeg a beicio ynghyd â dillad pob dydd. Maent yn defnyddio ffabrigau organig, wedi'u hailgylchu neu naturiol i greu eu casgliadau.
iSea Surf Mae'r brand hwn yn arbenigo mewn dillad ac ategolion syrffio wedi'u crefftio â llaw. Mae pob eitem yn unigryw, wedi'i gwneud yn y Gorllewin o dechnegau ffasiwn araf a deunyddiau wedi'u hailgylchu.
L26 Label Mae L26 Label o Gaerdydd yn cynnig dillad organig unigryw wedi'u gwneud o gotwm organig. Gyda ffocws ar finimaliaeth gynaliadwy, dyma ddarnau bytholwyrdd ar gyfer unrhyw gwpwrdd dillad.
Lifeforms Art Gan hyrwyddo cadwraeth trwy gelf, mae Lifeforms Arts yn creu crysau-t cotwm organig gyda dyluniadau sy'n dathlu'r byd naturiol. Mae pob crys wedi'i wneud gydag ardystiadau amgylcheddol llym.
Stiwdio LLÊN Gan gyfuno dylanwadau Cymreig a Danaidd, mae Stiwdio LLÊN yn creu dillad pwrpasol wedi'u teilwra sydd wedi'u dylunio i bara. Cynaliadwyedd yw hanfod y brand.
MAYKHER Mae'r brand hwn yn canolbwyntio ar ffasiwn foesegol a chyflogau teg, gan weithio gyda menywod mewn gwledydd sy'n datblygu i greu eu casgliadau. Mae MAYKHER yn cyfuno cynaliadwyedd ag effeithiau gymdeithasol.
Miss.Chievous Gladrags Gan arbenigo mewn ffasiwn gwyliau, mae'r brand hwn yn defnyddio ffabrigau wedi'u hailgylchu i greu dyluniadau unigryw, lliwgar. Perffaith ar gyfer unrhyw un sydd am sefyll allan gyda steil gynaliadwy.
Onesta Mae casgliad Onesta wedi'i grefftio o ffibrau naturiol a lliwiau o lysiau, heb unrhyw docsinau. Wedi'i wneud yn y DU, mae pob darn yn cael ei gynhyrchu i bara ac i gael ei garu am flynyddoedd.
Ophelia Dos Santos Mae'r dylunydd tecstilau hon yn gefnogol i weithredu dros yr hinsawdd a chynaliadwyedd mewn ffasiwn trwy weithdai a gwasanaethau uwchgylchu. Mae Ophelia Dos Santos yn ennyn newid amgylcheddol a chymdeithasol, un pwyth ar y tro.
Spare Me Gan gynnig gwasanaethau uwchgylchu ac altro, mae Spare Me yn eich annog i estyn oes eich dillad. Mae eu siacedi 'bomber' nodedig wedi'u gwneud o hen grysau pêl-droed.
Stitch Stable Mae Lavinia yn magu ei halpacas a'i geifr angora ei hun i greu dillad ac ategolion ecogyfeillgar. Mae pob darn wedi'i grefftio â llaw, gan arddangos perthynas ddofn â'r tir a'i hanifeiliaid.
SUSSED Yn fenter gydweithredol gymunedol, mae SUSSED yn arbenigo mewn masnach deg a chynhyrchion ecogyfeillgar. Mae eu siop sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yng Nghymru yn cynnig ffasiwn gynaliadwy ac eitemau i'r cartref.
Swopaholics Mae'r brand hwn yn hyrwyddo cyfnewid yn lle prynu, gan gynnig platfform i bobl gyfnewid eitemau o ansawdd unigryw. Adlewyrchir eu hymrwymiad i gynaliadwyedd yn eu dyluniadau unigryw.
The Bay Mae The Bay o'r Mwmbwls yn creu crysau t, hwdis a bagiau organig gan ddefnyddio inc ecogyfeillgar. Mae pob dyluniad yn darlunio harddwch Penrhyn Gŵyr.
The Rail Raid Mae'r digwyddiad cyfnewid dillad pop-yp hwn yn gyfle i bobl gyfnewid eu dillad diangen am ddillad sy'n newydd iddyn nhw, gan hyrwyddo economi ffasiwn gylchol.
The Topian Den I uwchgylchu dillad a garwyd yn gelf wisgadwy diddorol, mae The Topian Den yn creu darnau sydd mor eco-gyfeillgar ag y maen nhw'n unigryw.
Upstyle Club Mae'r steilydd cynaliadwy Claire Rees yn helpu pobl i garu'r dillad sydd ganddyn nhw eisoes. Trwy ei sesiynau cwpwrdd dillad a'i gwasanaeth steilio araf, mae'n dangos i gleientiaid sut i greu gwisgoedd newydd o hen ddillad.
Work Shy Mae Work Shy o Gaerdydd yn dylunio siacedi cotwm organig fydd yn para am oes. Maen nhw'n cynnig gwaith trwsio am ddim am oes a chynllun prynu'n ôl, i gynnal economi gylchol.
WOWW Vintage Mae WOWW Vintage yn Aberaeron yn gwerthu dillad a garwyd a retro eclegtig. Eu cenhadaeth yw cadw dillad mewn cylchrediad a lleihau gwastraff.
Cyfnewidfa Dillad Wrecsam Adnewyddwch eich cwpwrdd dillad mewn ffordd gynaliadwy drwy gyfnewid eich dillad, esgidiau ac ategolion diangen yn nigwyddiadau Cyfnewidfa Dillad Wrecsam.
Ymunwch â'r Symudiad
Ym mis Medi, cofleidiwch Medi Ail Law ac edrychwch ar y brandiau ffasiwn gynaliadwy anhygoel hyn o Gymru. Drwy ddewis ffasiwn gynaliadwy, nid yn unig rydych yn ychwanegu darnau unigryw at eich cwpwrdd dillad, rydych hefyd yn cefnogi busnesau bach ac yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned. Gadewch i ni wisgo ein gwerthoedd a gwneud ffasiwn yn rym llesol!