Cyhoeddi yn gyntaf: 20/11/2024 -

Wedi diweddaru: 20/11/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Tips defnyddiol i leihau plastig yn dros yr ŵyl

Dim ond ychydig oriau mae ein dathliadau yn para, ond mae’r gwastraff plastig yn gallu para ar ein planed am ddegawdau.

Lorraine Allman dw i. Fi yw sylfaenydd Party Without Plastic®, busnes bach sy’n farchnad arlein i hanfodion di-blastig. Dwi’n gwneud fy rhan i helpu i leihau gwastraff plastig yn fy nghartref, ond ar ôl dysgu faint o wastraff plastig sy’n cael ei daflu bob blwyddyn yn dilyn partïon a dros yr ŵyl, ro’n i eisiau ysbrydoli a helpu pobl i wneud dewisiadau hawdd, fforddiadwy a gwyrdd wrth gynllunio eu partïon, heb gyfaddawdu ar yr hwyl!

Os hoffech chi leihau gwastraff plastig untro yn ystod tymor yr ŵyl a thu hwnt, dyma fy tips defnyddiol ar gyfer dewisiadau amgen sydd nid yn unig yn edrych yn wych, ond a all gynnig twtsh personol a bod yn garedig i’ch waled.

Addurno'r aelwyd

Mae wastad yn gyffrous trawsnewid ein cartrefi mewn i’ch gŵyl y gaeaf personol, ond mae ’na ffyrdd i wneud hyn yn ddi-blastig. Mae dewis addurniadau sydd wedi eu gwneud o ddefnydd y gallwch ei ailddefnyddio neu greu eich addurniadau eich hun o ddeunyddiau naturiol yn ffordd wych o arbed arian a helpu’r blaned. Trïwch addurniadau arswydus o bapur wedi ei ailgylchu, defnyddiau cotwm, dail a phwmpenni. Neu rhowch gynnig ar greu eich torch Nadolig eich hun drwy ddefnyddio toriadau o goed pin, mwswg, celyn neu iorwg. O sicrhau nad ydyn nhw wedi cael eu gorchuddio â gliter, gall y rhain i gyd gael eu rhoi i mewn i bentwr compostio.

Tip defnyddiol: Yn hytrach nag ysgeintio gliter ar eich torch, gallwch wehyddu goleuadau LED drwyddyn nhw i greu awyrgylch, cynnes a chroesawgar.

Gwisg ffansi

Tra bod prynu gwisg ffansi Calan Gaeaf, Helpwr Siôn Corn, neu wisgoedd eraill yn gallu bod yn gyfleus a chyflym, mae’r effaith maen nhw’n eu cael ar yr amgylchfyd yn frawychus. Mae’r rhan fwyaf wedi eu creu o ddefnydd synthetig fel polyester acrylig, neu nylon – plastig yn y bôn, ac ni allwn ni eu hailgylchu nhw. Gallwch roi cynnig ar greu eich gwisgoedd ffansi eich hunain drwy ddefnyddio hen ddillad neu ddefnydd sydd dros ben, neu os nad ydy hynny’n apelio, trïwch gadw gwisgoedd rhag mynd i dirlenwi drwy ymweld â’ch siopau elusen leol neu fynd i wefannau ail-law i ffeindio gwisgoedd.

Tip defnyddiol: Os ydych chi’n prynu gwisgoedd, chwiliwch ar y label am y nod OEKO-TEX® (dim sylweddau niweidiol) neu symbolau GOTS (cynnyrch cynaliadwy ag egwyddorol).

Gadewch i'r bwrdd adrodd y stori

Pan rydych chi wedi rhoi ymdrech, amser ac arian mewn i’r bwyd ar gyfer eich dathliadau, mae’n werth meddwl am sut y mae’n edrych ar y bwrdd. Trïwch osgoi defnyddio platiau papur untro os yn bosib gan fod llawer ohonyn nhw’n cynnwys haen o blastig cudd. Mae opsiynau amgen da sy’n edrych yn wych yn cynnwys platiau o ddail palmwydd a bowlenni bioddiraddadwy sy’n pydru’n naturiol mewn compost cartref, heb adael dim ar ôl. Gallech hefyd annog ymwelwyr i ddod â’u platiau neu lestri eu hunain (sy’n handi hefyd iddyn nhw gael mynd â gweddillion bwyd adref gyda nhw!), neu os ydych chi eisiau creu argraff fawr ar eich gwesteion, trïwch lestri bwytadwy sydd wedi eu gwneud o fran gwenith, lle gallan nhw fwyta’r platiau, bowlenni a chyllyll a ffyrc fel rhan o’r pryd bwyd – ffordd newydd o gyrraedd dyfodol diwastraff!

Pan mae’n dod i lapio, ceisiwch osgoi cling-film plastig. Nid yn unig y mae’n mynd yn glymau, ond does dim modd ei ailgylchu. Dewis amgen a chost-effeithlon ydy raps cŵyr gwenyn – maen nhw’n haws i’w defnyddio, yn para’n llawer hirach ac yn y tymor hir yn fwy cost-effeithlon gyda phob rap yn para hyd at flwyddyn (dychmygwch sawl rolyn o cling film bydd hynny’n ei arbed). Maen nhw’n ddefnyddiol er mwyn storio gweddillion bwyd hefyd fel cosyn o gaws, ffrwythau a llysiau wedi eu torri neu frechdanau, ac maen nhw’n dod mewn sawl dyluniad gwahanol.

Tip defnyddiol: Os ydych chi’n arlwyo ar gyfer nifer fawr o bobl, ystyriwch hurio llestri parti y gallwch eu hailddefnyddio fel platiau, cwpanau a bowlenni o’r Party Kit Network – mae sawl un ar gael ledled Cymru.

Papur lapio

Mae mwy na 5 miliwn tunnell o bapur lapio yn mynd i dirlenwi bob blwyddyn yn y DU, gyda thri chwarter o ohono’n deillio o’r Nadolig. Mae’r rhan fwyaf o fathau o bapur lapio yn gallu cael ei ailgylchu cyhyd ac nad yw'n cynnwys plastig (fel gliter) a nad yw’n bapur â gwedd fetel (sgleiniog). Opsiynau gwych eraill fel papur lapio ydy tudalennau o hoff gomic rhywun, map sy’n cynrychioli ardal sy’n annwyl i’r person sy’n derbyn yr anrheg, neu beth am drio furoshiki? Dull Siapanëaidd o lapio anrheg gan ddefnyddio defnydd (yn ddelfrydol, defnydd o gotwm). Mae troi’r lapio i fod yn rhan o’r anrheg yn rhoi cyffyrddiad personol, ac wrth gwrs, gydag anrheg wedi ei lapio â defnydd, gall y person sy’n ei dderbyn ailddefnyddio’r defnydd hefyd.

Tip defnyddiol: Gallwch wirio os oes modd ailgylchu eich papur lapio drwy ei gywasgu mewn pelen. Os ydy e’n aros fel pelen dynn, yna cyhyd ac nad oes gliter ynddo, gallwch ei daflu i’r bin ailgylchu.

Beth am y balŵns?

Pwy sydd ddim yn caru balŵns mewn parti? Yn anffodus, mae hyd yn oed y rhai ‘latex naturiol’ yn gallu bod yn broblematig. Nid yn unig maen nhw’n beryg i fywyd gwyllt ac i’n moroedd unwaith y cânt eu rhoi i dirlenwi, ond erbyn iddyn nhw fynd drwy’r broses gweithgynhyrchu lle mae cemegolion yn cael eu hychwanegu, gan gynnwys ‘plasticisers’, mae ymchwil yn dangos nad ydyn nhw wedyn yn hollol fioddiraddadwy, gan olygu eu bod yn fygythiad hir dymor i’n hecosystem ni. Mae balŵns ffoil hyd yn oed yn waeth gan nad ydyn nhw’n pydru o gwbl. Felly beth yw’r dewisiadau amgen? Rhowch gynnig ar ddefnyddio blodau a dail o ffynonellau lleol i greu arddangosfa fel bwa, garlant neu osodiad canolog, neu gallwch gasglu jariau gwydr a chreu eich llusernau eich hunan neu oleuadau drwy ddefnyddio goleuadau tylwyth teg i ychwanegu cynhesrwydd i’ch parti. Mae addurniadau o bapur neu o ddefnydd cotwm y gellir eu hailddefnyddio yn lleihau gwastraff ac yn arbed arian, ac mae melinau gwynt bach a baneri yn opsiwn lliwgar llawn hwyl.

Amser chwarae

Mae wastad yn her i drio casglu eitemau ar gyfer bagiau parti neu hosanau Nadolig i’r plant, ond mae llwyth o opsiynau di-blastig ac o fewn eich cyllideb ar gael. Pethau fel paced o hadau, pensil enfys a nod llyfr o bapur, sydd oll yn gallu bod yn ddefnyddiol ymhell wedi i’r dathliadau ddod i ben. Mae ychwanegu bisgedi cartref neu gacen wastad yn boblogaidd, neu beth am gyflwyno cyfnewidfa lyfrau ar ddiwedd parti lle mae plant yn cael eu hannog i fynd â llyfr adre gyda nhw?

Tip defnyddiol: Mae cyfuno gweithgaredd parti gyda rhodd i bobl fynd adre gyda nhw yn hwylus, fel gwneud peli o hadau (ffordd hyfryd o gofio am y parti pan fydd yr hadau’n egino a throi’n flodau yn ddiweddarach), neu goronau parti y gellir eu hailddefnyddio.

Gall dewis dim ond un o’r posibiliadau amgen a gynigir yma roi cyfeiriad cynaliadwy newydd i’ch bywyd, neu os ydych chi eisoes wedi dechrau, gobeithio fy mod i wedi cynnig mwy o syniadau i’w trio. O gymryd moment i feddwl cyn prynu addurniadau, gwisg ffansi, papur lapio neu lestri, gall y blaned fod yn elwa o’ch dewis di-blastig, heb sôn am y budd i’ch waled chi hefyd.

 Hwyl yr ŵyl heb blastig i chi!

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol