Hwylio tonnau cynaliadwyedd gyda Mouse Sails: Dyma Floss

Dychmygwch ddeffro bob bore gydag awel hallt Ynys Môn yn eich gwallt ac addewid o antur eco-gyfeillgar newydd o'ch blaen. Dyna realiti Floss, y grym deinamig y tu ôl i Mouse Sails, lle mae hen hwyliau yn cael ail wynt—yn llythrennol!

Lady lying in sail bags

Cyffro Uwchgylchu

Bob dydd, mae Floss yn neidio allan o'r gwely, yn barod i drawsnewid hen hwyliau a chynfasau yn gynhyrchion hynod, unigryw. Nid dim ond unrhyw gynhyrchion yw'r rhain—maen nhw fel plu eira, pob un â'i bersonoliaeth a'i hanes ei hun am anturiaethau morwrol.

Hwylio gyda phwrpas

Yn Mouse Sails, mae cynaliadwyedd yn fwy na thueddiad yn unig—mae'n ffordd o fyw. Mae ymrwymiad Floss i leihau gwastraff yr un mor gryf â'r gwyntoedd a lanwodd yr hwyliau hyn ar un adeg. Trwy eu hail-bwrpasu, mae hi yn eu cadw allan o safleoedd tirlenwi a hefyd yn hyrwyddo planed wyrddach, fwy cynaliadwy. Hefyd, fel rhywun sy'n frwd dros hwylio a hwylfyrddio, mae hi'n byw ei swydd ddelfrydol.

O Chwarae i Greu

Mae stori Mouse Sails yn dechrau yn yr 1980au gyda rhieni Floss, oedd yn creu hwyliau ar gyfer hwylfyrddwyr cyn ehangu i hwyliau criwsio a chychod rasio . I Floss, y llofft hwyliau oedd ei maes chwarae. Roedd yn treulio dyddiau heulog yn chwilio am drysorau môr, ac yn treulio dyddiau glawog yn swatio yn y llofft hwyliau, gan greu campweithiau bach o hwyliau oedd dros ben. Bu hynny o gymorth mawr iddi!

sail bag on the beach

Cymryd y Llyw

Pan ymddeolodd ei thad, fe wnaeth Floss gyfnewid ei gwaith lletygarwch am y llofft hwyliau, gan arwain busnes y teulu. Erbyn hyn , mae hi'n jyglo gwaith trwsio hwyliau gyda phrosiectau crefftio cynfas pwrpasol, ond uwchgylchu yw ei gwir gariad. Mae pob hwyl sy'n cael ei hail-bwrpasu yn fuddugoliaeth i gynaliadwyedd ac yn gyfeiriad at ei gorffennol morwrol.

Dyfodol Mouse Sails

Mae Mouse Sails yn fwy na busnes—mae'n symudiad. Nid cynnyrch yn unig yw creadigaethau Floss, ond datganiadau. Mae pob eitem yn adrodd stori am greadigrwydd, ymwybyddiaeth amgylcheddol, ac ychydig o swyn morwrol. Trwy gefnogi Mouse Sails, rydych yn cael darn unigryw; ond hefyd rydych chi'n ymuno â thon o newid tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Plymiwch i mewn ac ymunwch â'r hwyl!

Mae Mouse Sails yn drysorfa i unrhyw un sy'n caru'r môr, cynaliadwyedd, neu gynhyrchion unigryw, cŵl ac unigryw. P'un a ydych chi'n forwr, yn caru ffasiwn, neu'n rhywun sy'n caru nwyddau wedi'u crefftio â llaw, mae rhywbeth yma i chi. Ydych chi'n barod i ymuno â'r don o gynaliadwyedd? Cymerwch olwg ar Mouse Sails a dewch yn rhan o'r antur.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol