Cyhoeddi yn gyntaf: 01/11/2024 -
Wedi diweddaru: 18/11/2024 -
Verified by our Editorial Panel
DATI
Mae Sarah a Julia yn ddwy chwaer o Gymru sydd wedi bod yn ymdrechu i wneud ffasiwn cynaliadwy yn fwy cynhwysol, wrth redeg stiwdio a chynllunio casgliadau ar gyfer eu brand DATI. Fe holon ni Sara a Julia er mwyn iddyn nhw gael rhannu tips a syniadau gwych ar gynaladwyedd, ffasiwn ara deg a’r diwydiant ei hun.
Beth yw’r gwahaniaethau rhwng ffasiwn cynaliadwy a ffasiwn cyflym?
Mae ffasiwn cynaliadwy yn rhoi pobol a’r blaned o flaen elw. O ran ffasiwn cyflymh, maen nhw’n cynhyrchu stwff mor gyflym â phosib, i drio cadw lan gyda’r trends diweddaraf, ac maen nhw’n anwybyddu pethau fel faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio, y lliw maen nhw’n ei ddefnyddio a faint o lygredd sy’n mynd i’n hafonydd.
Mae ffasiwn cynaliadwy yn canolbwyntio mwy ar y bobol, eu hamodau gwaith, faint maen nhw’n cael eu talu, yr oriau maen nhw’n gweithio. Maen nhw’n poeni mwy am yr amgylchedd yn gyffredinnol. Mae gyda chi hefyd lot mwy o gynllunwyr ffasiwn cynaliadwy yn gweithio gyda’i gilydd i greu newid.
Pa effaith mae’r diwydiant ffasiwn yn ei gael ar yr amgylchedd?
Mae’r diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am 10% o allyriadau carbon y byd. Mae’r prosesau cynhyrchu yn rhai trwm iawn, felly os and ydyn ni’n gallu gwneud rhywbeth i newid hyn, byddwn ni’n dal i weld yr un problemau.
Ry’n ni’n dal i weld llawer o wartraff tirlenwi a gwastraff tecstiliau nail ai’n cwpla lan mewn siopau elusen neu’n cael eu danfon dramor, felly dydyn ni ddim wir yn datrys y broblem. Yn syml, mae gormod o bopeth gyda ni. Rydyn ni wedi trio cau’r cylch yma am amser hir nawr ond does dim byd yn gweithio, felly mae angen i ni wneud newidiadau dramatig yn y ffordd rydyn ni’n prynu ac yn gwneud dillad.
Hyd fideo:
1:12
Sut mae Dillad DATI yn helpu i greu Cymru wyrddach?
Mae DATI wastad wedi bod yn trio taclo newid hinsawdd ers i ni ddechrau, 15 mlynedd yn ôl. Ry’n ni wedi bod yn uwchgylchu, drwy rannu negeseuon gyda phobol o bob oedran, gweithio gyda phrifysgolion lleol i drio addysgu pobol ar bob lefel. Ry’n ni’n gweithio gyda phobol ifanc ac ry’n ni’n trio cael y neges allan ym mhobman gallwn ni. Mae’n bwysig i ni bod y genhedlaeth nesaf yn cael ei uwchsgilio fel y gallan nhw ddysgu gan frandiau lleol sy’n ceisio hybu cynaladwyedd.
Ry’n ni’n cydweithio gyda busnesau gwahanol, busnesau cynaliadwy a rhai sydd ddim yn gynaliadwy. Mae’n bwysig i ni rannu ein gwerthoedd ac mae hynny wir yn cael effaith dda ar bobol. Felly y mwyaf gallwn ni ddefnyddio cydweithio fel ffordd o addysgu pobol am brosesau cynaladwy, a ffyrdd cynaladwy o werthfawrogi ein dillad, yna mae honna’n fuddugoliaeth fach i’r achos.
Os oes gyda ni unrhyw photoshoots, byddwn ni wastad yn cylchdroi, felly ewn ni i siopau vintage i fenthyg a hurio dillad i’w steilio yn lle mynd at frandiau ffasiwn cyflym.
O ran ein allyriadau, mae llawer o’r defnydd ry’n ni’n ei gael yn dod o sêls cilo lleol, siopau vintage a pre-loved a siopau ail-law. Ry’n ni’n creu ein gwisgoedd ein hunain yn in-house gan ddefnyddio talent lleol. Mae popeth yn cael ei gadw mor lleol â phosib. Dy’n ni ddim 100% yna eto, ond ry’n ni’n gwneud ein gorau glas a dyna’r peth pwysig.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i bobl sydd eisiau bod yn fwy cynaliadwy?
Mae prynu o ansawdd uchel yn hanfodol. Slawer dydd, roedd siwr o fod 5 fest du neu grysau gyda fi, ond nawr dim ond un sydd gyda fi, ac ydy, mae wedi costio tipyn bach mwy, ond mae’n para’n hirach aschos bod y defnydd o ansawdd cymaint gwell. Dydy e ddim yn casglu bobls pan dwi’n ei olchi a dyw’r lliw ddim yn pylu.
Cyfnewid dillad.Ry’n ni’n cyfnewid dillad drwy’r amser ac mae rêl dillad yn ein stiwdio ni lle rydyn ni’n annog pobol i gyfnewid dillad. Cadwch lygad allan am frandiau neu fusnesau lleol sy’n cynnal digwyddiadau cyfnewid neu gallwch wneud gyda’ch ffrindiau hefyd.
Siopa yn eich wardrob eich hunan. Mae’r dillad mwyaf cynaliadwy yn eich wardrob. Ewch ar Pinterest i edrych am syniadau fel y gallwch chi roi bywyd newydd i’ch gwisgoedd presennol, neu eu steilio nhw mewn ffordd wahanol, er enghraifft torri’r llewys bant o siacedi, cropio neu rolio pâr o jeans neu drwser i fyny.
Uwchgylchu. Ewch i ddosbarth neu weithdy lle gallwch chi ddysgu sut i uwch-gylchu eich dillad, er enghraifft, i ddysgu sut i winio botwm. Gyda TikTok ac Instagram mae llawer o bobl ifanc yn uwchgylchu rygiau a charpedi a cyn ei wneud yn rhwydd iawn ac yn llawer o hwyl. Gallwch chi hefyd adnewyddu eich gwisgoedd, mae llawer o liw naturiol gallwch chi ei brynu, sydd hefyd yn ffordd o wych o ymestyn bywyd eich dillad.
Rhentu. Mae rhai siopau vintage a brandiau yn rhentu gwisgoedd fel nad oes rhaid i chi wario llawer o arian. Gallwch chi fenthyg rhywbeth am gwpwl o ddiwrnodau o ddiwrnodau a dod â fe nôl i arbed arian.
Prynu a gwerthu yn ail-law.15 mlynedd yn ôl doedd prynu o siopau elusen ddim yn cŵl ac roedd tipyn o gywilydd yn rhan o’r peth. Nawr mae pobol wedi newid agwedd yn llwyr, ac yn gyffrous iawn amdanyn nhw ac yn defnyddio apiau ail-law, mae’n wych i weld.
Rhoi i elusenau. Gallwch chi roi gwisgoedd o ansawdd da i siopau elusen. Maen nhw’n gallu cael trwbwl weithiau i gael gwared o wastraff, felly os ydych chi’n mynd i roi i elusen, gwnewch yn siŵr bod y dillad o ansawdd uchel.