Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -

Wedi diweddaru: 10/07/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Prynu llai a siopa’n gynaliadwy

Mae siopa ychydig yn fwy cynaliadwy a phrynu ychydig yn llai o bethau nad ydym eu hangen mewn gwirionedd yn gallu ein helpu i arbed arian, lleihau faint o adnoddau gwerthfawr rydyn ni’n eu defnyddio a helpu i leihau ein hallyriadau carbon.

Mae gorddefnydd wrth wraidd yr argyfyngau hinsawdd a natur – mae cynhyrchu cynhyrchion bob dydd, gan gynnwys ceir, dillad a bwyd, i gyfrif am 45% o allyriadau carbon byd-eang. Lleihau’r defnydd a dysgu sut i wneud penderfyniadau siopa mwy cynaliadwy yw un o’r ffyrdd hawsaf o helpu i ddiogelu ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt.

Beth allwn ni ei wneud?

Mae cymaint y gallwn fod yn falch ohono yng Nghymru yn barod. Mae ailgylchu ein gwastraff wedi’i wreiddio yn ein diwylliant, ond mae angen i ni wneud mwy trwy leihau nifer y pethau rydyn ni’n eu prynu yn y lle cyntaf a phrynu cynhyrchion a gynhyrchir yn gynaliadwy os oes modd. Er bod ailgylchu’n bwysig, mae ffyrdd eraill o leihau ein heffaith hefyd.

Dyma rai syniadau:

Arrow pointing right

Meddyliwch cyn prynu

Un o’r pethau gorau y gallwn ei wneud ar gyfer y blaned a ni ein hunain yw meddwl yn feirniadol am bopeth a brynwn. Os cymerwch saib cyn prynu i ofyn a oes gwir angen rhywbeth arnoch, byddwch bron yn sicr yn prynu llai. Bydd hyn yn helpu i arbed arian hefyd.

Arrow pointing right

Rhannu, benthyg, rhentu neu brynu’n ail-law

Mae ailddefnyddio neu ailgartrefu rhywbeth bob amser yn fwy cynaliadwy na phrynu pethau newydd, ac yn aml mae’n rhatach. Ewch i siopau elusen, siopau fintej, a siopau ar-lein fel eBay neu Vinted. Mae apiau fel Olio, neu’r wefan Freecycle yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i bethau nad yw pobl eraill eu hangen neu eu heisiau mwyach. Os mai dim ond rhywbeth tymor byr sydd ei angen arnoch, mae rhannu, rhentu, benthyca a chyfnewid eitemau gyda ffrindiau, teulu neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o ymestyn eu hoes. Wrth brynu rhywbeth newydd, ceisiwch gyfrannu, ailgylchu neu werthu hen gynhyrchion nad ydych eu hangen mwyach fel y gall eraill eu defnyddio. 

Arrow pointing right

Buddsoddi mewn pethau a fydd yn para

Pan fydd arian yn caniatáu, dylem bwyso a mesur yr hyn yr ydym yn ei brynu: a yw wedi’i wneud i bara, a oes modd ei drwsio, fel na fydd yn cael ei daflu am amser hir iawn. A phan fydd rhywbeth yn torri, ceisiwch ei drwsio yn hytrach na phrynu un arall yn ei le. Mae siopau trwsio gwych i’w cael ar y stryd fawr, neu gallwch ymweld â’ch caffi trwsio lleolam help a chyngor.  

Arrow pointing right

Defnyddio’ch pŵer prynu yn ddoeth

Gall pawb ddefnyddio ei bŵer prynu i gefnogi busnesau sydd ar flaen y gad yn ceisio taclo’r newid yn yr hinsawdd. Ewch ati’n gyntaf i ymchwilio i frand cyn prynu ganddynt. Er enghraifft, meddyliwch a yw brand yn ystyried effaith amgylcheddol ei weithredoedd, a yw’n gofalu am ei weithwyr, ac a yw’n gwerthu cynhyrchion ecogyfeillgar, moesegol neu fasnach deg. Yn aml, mae’r atebion ar eu gwefannau. Hefyd, edrychwch am ardystiadau safonol, ac os yw’n frand ffasiwn, gwiriwch eu sgôr ar gyfeiriadur Good On You.

Arrow pointing right

Dewis dillad wedi’u gwneud o ddefnyddiau naturiol

Gall pawb fod yn fwy cynaliadwy wrth brynu dillad ac esgidiau trwy ystyried o ba ddefnydd y maen nhw wedi cael eu gwneud. Ceisiwch osgoi defnyddiau nad ydynt yn fioddiraddadwy fel neilon, defnyddiau synthetig sy’n colli ffibrau sy’n llygru wrth gael eu golchi, a dillad gyda pholyester ac edau acrylig. Dewiswch ddeunyddiau wedi’u hailgylchu neu gotwm organig, lliain a bambŵ yn lle hynny – mae’r rhain i gyd yn defnyddio llai o ddŵr a chemegau wrth eu cynhyrchu. Os ydych chi’n ystyried cewynnau clwt, ewch i’ch llyfrgell cewynnau leol agosaf i roi cynnig arnynt cyn prynu rhai eich hun.

Arrow pointing right

Prynu ar-lein

Wrth brynu ar-lein, ceisiwch brynu eitemau gyda’i gilydd er mwyn arbed ar becynnu a dosbarthu. Mae dewis dosbarthu araf gan gwmnïau mawr yn rhoi cyfle iddynt aros hyd nes bod y fan yn llawn ar gyfer un ardal, yn hytrach na dosbarthu dim ond eich archeb chi. 

Arrow pointing right

Dewis masnach deg

Mae prynu masnach deg yn dangos mwy o barch tuag at yr amgylchedd ac yn diogelu’r byd rhag datgoedwigo. Mae’r rhan fwyaf o siopau bellach yn gwerthu cynhyrchion masnach deg. Efallai bod siopau lleol neu farchnadoedd ffermwyr yn stocio rhai eitemau hefyd. Chwiliwch am y Nod masnach deg neu warant Sefydliad Masnach Deg y Byd. Ewch iMasnach Deg Cymru am fwy o wybodaeth.

Arrow pointing right

Osgoi plastig a gormod o becynnu

Ceisiwch beidio prynu cynhyrchion gyda phecynnu diangen neu ormodol a defnyddiwch fagiau siopau y gellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio os oes modd. Mewn rhai ardaloedd, mae siopau sero-wastraff erbyn hyn lle gallwch ail-lenwi hanfodion cartref.

Arrow pointing right

Gwirio labeli

Chwiliwch am ddefnyddiau a chynhwysion ecogyfeillgar trwy ddarllen labeli cynhyrchion. Lleiaf o gemegau a chynhwysion artiffisial sy’n cael eu defnyddio, gorau i’r amgylchedd.

Arrow pointing right

Siopa’n lleol

Mae cefnogi busnesau bach ger eich cartref yn golygu y gallwch chi beidio defnyddio car, rheoli faint o becynnu a gynigir, a mwynhau cynhyrchion lleol.

Pam gweithredu?

Currency_icon

Arbed arian

Yn syml, mae prynu llai yn eich helpu i arbed arian ar gyfer pethau eraill. Gall y pethau eraill hynny roi mwy o foddhad yn y tymor hir na phrynu ar hap. Hefyd, yn aml iawn, mae’n rhatach trwsio eitem neu brynu un ail-law na phrynu eitem newydd sbon.

explore icon

Cael hwyl drwy brofiadau

Mae prynu pethau yn dueddol o’n gwneud yn hapus dros dro, ond byrhoedlog yw hynny ac mae’n arwain at fod eisiau hwb arall trwy brynu mwy hyd yn oed. Wrth i chi arbed arian drwy beidio prynu, dechreuwch gynllunio ac edrych ymlaen at brofiadau megis cyngherddau, sioeau neu hyd yn oed wyliau lleol yn lle hynny – cewch fwy o foddhad hirdymor na phrynu ar hap. Hefyd, mae gwneud eich rhan dros y blaned yn deimlad da.

Arrow pointing down

Lleihau gwastraff ac ôl troed carbon

Mae cynhyrchu a chludo cynhyrchion newydd ac ailgylchu deunyddiau nad oes eu hangen mwyach yn defnyddio llawer o ynni ac yn cyfrannu at allyriadau carbon. Mae prynu llai a dewis pethau heb fawr ddim deunydd pacio neu ddeunydd pacio ailgylchadwy yn lleihau gwastraff, gan leihau’r baich ar safleoedd tirlenwi a lleihau llygredd.

Forest icon

Diogelu coedwigoedd glaw a bioamrywiaeth

Mae Cymru yn mewnforio llawer iawn o nwyddau, rhai ohonynt yn achosi dinistrio fforestydd glaw a chynefinoedd anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys olew palmwydd a ddefnyddir mewn eitemau archfarchnad bob dydd fel sebon, colur a rwber. Po leiaf o nwyddau rydyn ni’n eu prynu, lleiaf y bydd angen eu mewnforio, a byddwn yn gwneud mwy wedyn i ddiogelu’r amgylchedd naturiol.

Water drop icon

Diogelu ansawdd dŵr

Mae llawer o brosesau gweithgynhyrchu yn llygru ffynonellau dŵr gyda chemegion. Trwy brynu eitemau wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy, rydych chi’n cyfrannu at ddiogelu ansawdd dŵr ac amddiffyn ecosystemau dyfrol.

shield icon

Cefnogi arferion moesegol

Mae dewis nwyddau cynaliadwy sydd wedi’u cynhyrchu’n foesegol yn annog busnesau i fabwysiadu arferion cyfrifol. Mae’n cefnogi cwmnïau sy’n blaenoriaethu cyflogau teg, amodau gweithio diogel, a dulliau cynhyrchu ecogyfeillgar.

Arrow circle up

Annog arloesedd

Mae galwadau prynwyr yn annog arloesedd. Trwy ddewis cynhyrchion cynaliadwy, rydych chi’n annog cwmnïau i fuddsoddi mewn technolegau ac arferion ecogyfeillgar, gan feithrin diwylliant o welliant parhaus mewn cynaliadwyedd.

image of upcycled bag on the beach

Hwylio tonnau cynaliadwyedd gyda Mouse Sails

Dyma stori Floss

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol