Cynghorion bach da ar sut i estyn oes eich dillad ac arbed arian

Cheselle Brierton. Dwi’n steilydd cynaliadwy sy’n gweithio ym myd teledu, ffilm a’r byd masnachol. Dwi’n gwerthu hen ddillad ac yn gyd-berchennog salon gwallt cynaliadwy. Dwi wedi mabwysiadu gwahanol ffyrdd o fod yn gynaliadwy ym mhob un o’r diwydiannau dwi’n gweithio ynddyn nhw, yn ogystal ag yn y cartref, a dyna oedd tarddiad y blog @the_sustainable_stylist20.

Diolch i’r cyfryngau cymdeithasol a ffasiynau chwit-chwat sy’n para dim mwy na deufis, mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth i brynu. O olwg gwragedd gangsters i ferched tomato a neiniau glan-môr, mae’r ffasiwn yn newid o hyd, ac mae’n anodd dal i fyny. Ond dyma i chi syniad: efallai ei bod hi’n bryd i chi newid eich tactegau prynu... prynu llai, prynu dillad o ansawdd uwch ac o’u trin yn iawn, gallwch ymestyn oes eich dillad, a bydd hynny’n arwain yn ei dro at lai o wariant a chwpwrdd dillad mwy cynaliadwy.

Sewing machine

1. Dillad tywyll Golchwch ddillad du neu dywyll y tu chwith allan – BOB TRO. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda ffibrau naturiol, sy’n colli eu lliw yn gyflym. Fodd bynnag, mawredd ffibrau naturiol yw bod modd eu lliwio. Wnewch chi ddim datrys dim byd drwy brynu polyester. Byrhoedlog o ran natur yw ffibrau plastig, ond mae oes hir i gotwm a llin (lliain).

2. Dillad wedi’u gwau Mae’n rhaid eu golchi â llaw, hyd yn oed y rhai sy’n nodi bod modd eu golchi mewn peiriant, oherwydd maen nhw’n colli eu siâp yn hawdd. Fodd bynnag, os yw amser yn rhy brin i’w golchi â llaw, gosodwch y dillad allan yn wastad ac adfer y siâp cyn iddyn nhw sychu. Mae llwyth o dechnegau ar sut i wasgu dŵr o ddillad gwau ar ôl golchi â llaw, ond dyma fy ffefryn i. Ar ôl iddyn nhw sychu, dwi’n gosod fy nillad yn wastad ar dywel gan fod hyn yn cadw’r gwniadau’n syth.

GAIR I GALL: Ar ôl i chi olchi eich dillad wedi’u gwau â llaw (neu unrhyw ddilledyn, o ran hynny) PEIDIWCH â gwasgu’r dŵr allan. Yn hytrach, pwyswch yr eitem yn gadarn yn erbyn y bowlen neu’r sinc (neu hyd yn oed y bath) i waredu’r dŵr. Yna rhowch dywel mawr ar y llawr, rhoi’r dilledyn arno a thywel mawr arall ar ei ben, gan rowlio’r cyfan o’i waelod a chynyddu’r pwysau bob tro i wasgu’r dŵr allan. Fel arfer, dwi’n gosod dalen dal dŵr ar y llawr yn gyntaf hefyd i arbed gorfod golchi’r tywelion; fel hynny, y cyfan sydd angen ei wneud yw eu hongian ar y lein i sychu a’u cadw.

3. Denim Os nad yw’n ofnadwy o fudr, peidiwch â’i olchi. Mae hanes denim yn ddiddorol iawn. Darllenwch y blog hwn i ddysgu mwy.

4. Golchwch yn llai aml Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi arfer taflu eu dillad i’r peiriant golchi ar ôl eu gwisgo unwaith, ond mae mân lanhau ac adfywio gyda chwistrelliad fodca (50% o dŵr a 50% fodca rhad) yn ffordd wych o gael gwared ar arogleuon. Yn aml iawn, mae stemio sydyn yn gwneud y tric yn iawn. Mae peiriannau golchi yn ddyfais wych, ond maen nhw’n gadael eu hôl ar ffibrau dillad ac ar eich waled.

GAIR I GALL: Er mwyn defnyddio llai o ddŵr wrth olchi eitemau unigol â llaw neu wrth fân lanhau, mae gen i 2 bowlen o ddŵr, un yn cynnwys glanedydd a’r llall ar gyfer rinsio. Dwi bob amser yn dechrau gyda lliwiau gwyn neu olau ac yna’n gweithio drwy’r sbectrwm lliw (gyda lliwiau fel melyn neu lelog cyn lliwiau coch a glas) a gorffen gyda dillad glas tywyll a du. O ganlyniad, mae 2 bowlen o ddŵr yn ddigon.

5. Golchi gwyrdd Mae defnyddio glanedydd golchi ecolegol, yn enwedig un sy’n gyfeillgar i’r môr, yn golygu llai o gemegau. Does dim angen cemegau annifyr i lanhau dillad. Maen nhw’n gwneud drwg i’ch dillad, eich croen, ein dyfrffyrdd ac i fywyd môr, felly newidiwch i frand mwy cynaliadwy. Hefyd, mae 30 gradd yn hen ddigon cynnes. Y poethaf y dŵr, y mwyaf yw’r straen ar y ffibrau.

6. Sychu ar lein ddillad Mae’r rhestr hon yn canolbwyntio ar olchi i raddau helaeth, ond dyma un camgymeriad mawr sy’n arwain at ddifetha llawer iawn o ddillad. Yn ddiweddar, ar ôl colli saim ar ffrog, fe wnes i ddysgu mai gwres yw’r ffordd orau o gael gwared ar staeniau sy’n anodd eu dileu. Mae sychu ar lein ddillad hefyd yn ffordd fwy cynaliadwy a llawer rhatach o sychu eich dillad.

7. Gwaredu staeniau Gorau po gyntaf yr ewch chi i’r afael ag unrhyw staen. Mae llwyth o wefannau sy’n dangos y ffordd orau o gael gwared ar staeniau; o sebon golchi llestri i gael gwared â saim (soda pobi a finegr gwyn os ydych wedi golchi’r dilledyn cyn ei drin), dŵr rhosyn i gael gwared ar inc parhaol a beiro, ewyn eillio i gael gwared ar golur a’ch poer eich hun i gael gwared ar smotiau o’ch gwaed eich hun. Mae cymaint o awgrymiadau, ond y peth allweddol yw trin staen cyn iddo droi’n ddiffyg parhaol.

8. Trwsio Mae dysgu sut i bwytho godre rhydd ar drowsus neu sgert, neu wnïo botwm, yn golygu eich bod chi’n llai tebygol o daflu dilledyn. Mae’n gallu bod yn eithaf pleserus hefyd; yn hytrach na syrffio’r we a brawychu, trefnwch bentwr o waith trwsio, a chofio bod dwylo prysur yn haneru’r gwaith. Hefyd, does dim angen gwario ffortiwn ar offer gwnïo sylfaenol. Mae pecyn o nodwyddau gyda llygaid llydan, edau du, gwyn a glas, siswrn bach ac ychydig o binnau yn mynd yn bell, ac yn gallu gwneud byd o les i’ch cwpwrdd dillad.

9. Ansawdd Mae hysbysebion ac e-byst yn tynnu sylw at arbedion o 75% ac ati yn gallu bod yn demtasiwn, mae’n wir, ond gan amlaf, maen nhw’n trio gwerthu polyester i chi. Yn y bôn, mae hynny’n golygu talu drwy’ch trwyn am fag plastig (yn llythrennol). Mae oes dillad safonol o ansawdd yn llawer hirach, yn enwedig os ydych chi’n eu storio a’u glanhau’n iawn. Mae’n anochel eich bod chi’n mynd i brynu ambell ddilledyn i greu argraff neu rywbeth sy’n ffasiynol ar y pryd, ond canolbwyntio ar isafswm ansawdd yw dechrau’r daith at gwpwrdd dillad mwy cynaliadwy. Drwy gyflwyno’r 9 ffactor hyn i’ch bywyd bob dydd a’u hystyried wrth brynu, mae’n bosib cael cwpwrdd dillad mwy cynaliadwy sydd hefyd yn gwneud mwy o synnwyr yn ariannol.

lady measuring fabric

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol