Cyhoeddi yn gyntaf: 31/01/2025 -

Wedi diweddaru: 31/01/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Sut wnes i roi'r gorau i brynu offer a dechrau benthyg gyda Benthyg Cymru

Helo, Nicky ydw i o'r Barri, a dwi eisiau rhannu sut wnes i roi'r gorau i brynu offer a dechrau eu benthyg drwy Benthyg Cymru.

Os nad ydych wedi clywed amdano o'r blaen, mae Benthyg Cymru yn sefydliad sy'n helpu cymunedau i agor 'Llyfrgell Pethau' lle gallwch fenthyca eitemau sydd eu hangen arnoch ond nad ydych am fod yn berchen arnynt. O offer golchi dan bwysedd i wneuthurwyr bara, mae'n ffordd wych o arbed arian, lle, a'r blaned—i gyd ar yr un pryd.

Adnewyddu fy nhŷ, y ffordd gynaliadwy

Pan benderfynais adnewyddu fy nhŷ, sylweddolais yn gyflym faint o offer roeddwn eu hangen: offer tynnu papur wal, glanhawr carpedi, dril, a mwy. Fy ngreddf gyntaf oedd mynd i siop DIY a phrynu popeth, ond gadewch i ni fod yn onest, pa mor aml ydyn ni'n defnyddio'r offer hyn mewn gwirionedd? Prin eich bod yn defnyddio offer tynnu papur wal, er enghraifft, bob dydd. Dyna pryd y clywais am Benthyg.

Trwy wefan hawdd ei defnyddio, gwelais fy Llyfrgell Pethau leol. Mae'n syml: cofrestrwch, pori'r eitemau sydd ar gael, cadw'r hyn sydd ei angen arnoch, a'u nôl ar adeg sy'n gyfleus i chi. Mae amrywiaeth helaeth o eitemau. Benthyciais bopeth yr oeddwn ei angen ar gyfer fy mhrosiect adnewyddu - i gyd llawer llai na'r gost o brynu.

Arbed arian a lle

Gadewch i ni drafod prisau. Mae benthyca o Benthyg yn costio ond ychydig bunnoedd yr eitem, sy'n llawer rhatach na phrynu offer newydd neu hyd yn oed rentu o siopau masnachol. Er enghraifft, mae benthyca offer tynnu papur wal am wythnos yn costio llai na phryd o fwyd tecawê i mi. O ystyried faint o arbedion wnes i ar draws yr holl offer a fenthycais, mae'n amlwg imi arbed llawer o arian.

Yna mae problem cael lle. Nid yw fy nhŷ yn enfawr, ac nid oes gennyf le i offer swmpus fel offer golchi dan bwysedd neu lanhawr carpedi. Trwy fenthyca yn lle prynu, fe wnes i osgoi llenwi fy nghartref gydag eitemau y byddwn i ond yn eu defnyddio ddwywaith y flwyddyn (os hynny). Rhoddodd fenthyca ryddid i mi gael yr hyn yr oeddwn ei angen, pan oeddwn ei angen, heb y pen tost o'u storio.

Cynaliadwyedd ar waith

Rydym i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o'r effaith y mae ein dewisiadau yn ei gael ar yr amgylchedd. Mae benthyca yn lle prynu yn lleihau gwastraff a'r galw am gynnyrch newydd. Roedd pob offer a fenthyciais yn golygu bod un eitem yn llai yn cael ei chynhyrchu, ei phecynnu a'i chludo. A cofiwch am y gwastraff a arbedir pan fydd yr offer yn cael ei rannu gan ddwsinau o bobl yn lle eistedd heb ei ddefnyddio yn sied rhywun.

Mwy nag offer yn unig

Er i mi ymuno â Benthyg i ddechrau ar gyfer offer, gwelais yn fuan eu bod yn cynnig cymaint mwy. Angen gwneuthurwr bara ar gyfer prosiect pobi am benwythnos? Benthyca ef. Yn trefnu parti ac angen cadeiriau ychwanegol? Mae digon i'w gael. Nid dim ond arbed arian yw hyn; mae'n golygu cael mynediad at eitemau sy'n gwneud bywyd yn haws heb ymrwymiad hirdymor perchnogaeth.

Sut allwch chi gymryd rhan

Os ydych yng Nghymru, mae'n debyg bod Llyfrgell Pethau yn eich ardal chi. Ewch i'w gwefan, i weld. Mae ymuno yn hawdd, ac mae'n bosib manteisio ar unwaith. P'un a ydych chi'n mynd i'r afael â phrosiect DIY, yn trefnu parti, neu os ydych fel fy mhartner yn chwilfrydig am hobi newydd, mae Benthyg ar eich cyfer chi. Yr wythnos hon mae am wneud bara ac rydyn ni i gyd yn gwybod y byddai gwneuthurwr bara yn yr atig mewn rhyw wythnos petaen ni wedi prynu un!

I mi, mae benthyca gan Benthyg wedi newid pethau. Mae wedi arbed arian i mi, wedi cadw fy nghartref yn dwt, ac wedi fy ngalluogi i adnewyddu fy nhŷ mewn ffordd sy'n fwy caredig i'r blaned a'm poced. Felly y tro nesaf fydd angen rhywbeth arnoch, beth am ei fenthyca? Fe fyddech yn synnu pa mor hawdd yw hi.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol