Cyhoeddi yn gyntaf: 25/09/2024 -

Wedi diweddaru: 25/09/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Sut allwch chi helpu i leihau gwastraff cwpanau coffi yng Nghaerdydd - fesul cwpan amldro

Mae Caerdydd ar fin ei gwneud hi'n haws nag erioed i chi fwynhau eich coffi tecawê mewn ffordd fwy cynaliadwy. Bydd Cynllun Dychwelyd Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd yn cael ei lansio ar 4 Hydref 2024, menter newydd sy'n caniatáu i chi fenthyg cwpan coffi i'w ailddefnyddio, gan dorri lawr ar y mynydd o wastraff a gynhyrchir gan gwpanau untro.

Gyda dros 2.5 biliwn o gwpanau coffi tafladwy yn cael eu lluchio i ffwrdd bob blwyddyn yn y DU – y rhan fwyaf ddim yn cael eu hailgylchu – mae'r cynllun hwn yn cynnig ffordd ymarferol i chi fwynhau eich coffi a helpu i ddiogelu'r ddaear yr un pryd.

Sut i gymryd rhan

Mae'n hawdd cymryd rhan yng nghynllun Cwpanau Ail-lenwi Caerdydd. Dyma sut mae'n gweithio:

  1. Lawrlwytho ap Refill: Dechreuwch trwy lawrlwytho ap Refill sydd ar gael am ddim ar eich ffôn clyfar. Bydd yr ap hwn yn dangos pa gaffis a siopau coffi yn y brifddinas sy'n cymryd rhan.

  2. Benthyg cwpan amldro y mae modd ei hailddefnyddio: Pan fyddwch chi'n archebu coffi tecawê mewn caffi sy'n cymryd rhan, gofynnwch am ddefnyddio cwpan Cynllun Dychwelyd Cwpan Ail-lenwi Caerdydd. Bydd y barista yn sganio cod QR ar y cwpan gan ddefnyddio'r ap, ac fe gewch chi'r cwpan hwnnw dros dro.

  3. Joio'ch coffi: Yfwch eich coffi gan wybod eich bod chi newydd helpu i leihau gwastraff! Hefyd, bydd llawer o gaffis yn eich gwobrwyo gyda gostyngiad (tua 15c fel arfer) am ddefnyddio cwpan amldro.

  4. Dychwelyd y Cwpan: Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewch â'r cwpan yn ôl i unrhyw leoliad sy'n rhan o'r cynllun, o fewn pythefnos. Bydd yr ap hyd yn oed yn eich atgoffa ei bod hi’n amser dychwelyd y cwpan. Does dim tâl cyn belled â'ch bod yn dychwelyd y cwpan mewn da bryd.

  5. Ac eto: Bob tro y byddwch chi'n benthyca ac yn dychwelyd cwpan, rydych chi'n helpu i leihau nifer y cwpanau untro sy'n mynd i safleoedd tirlenwi neu'n creu llanast ar y strydoedd.

Pam mae'n bwysig

Efallai na fyddwch chi'n sylweddoli hynny, ond mae cwpanau coffi tafladwy yn glamp o broblem amgylcheddol. Maen nhw wedi'u leinio â phlastig, sy'n golygu nad oes modd ailgylchu 99% ohonyn nhw. Hyd yn oed os ydych chi'n ofalus ac yn rhoi'ch cwpan yn y bin ailgylchu, mae'n debygol o fynd i fynd i safle tirlenwi. Mewn gwirionedd, gallai’r nifer o gwpanau coffi tafladwy rydyn ni'n eu defnyddio yn y DU gael eu lapio o amgylch y blaned bum gwaith a hanner bob blwyddyn.

Drwy newid i gwpan amldro, rydych chi'n chwarae eich rhan wrth leihau'r 30,000 tunnell o wastraff sy’n cael eu creu gan gwpanau untro bob blwyddyn. Mae pob cam bach yn cyfrif, ac mae'r cynllun hwn yn ei gwneud hi'n haws nag erioed i wneud newid cadarnhaol.

Cefnogi'ch caffis lleol

Mae sîn caffis ffyniannus Caerdydd hefyd yn cefnogi'r fenter. Mae mannau poblogaidd fel Waterloo Tea, Pettigrew Bakeries, Da Coffee, a Bird & Blend Tea eisoes wedi cofrestru. Drwy gymryd rhan, mae'r busnesau lleol hyn yn helpu i wneud Caerdydd yn lle gwyrddach, a gallwch eu cefnogi drwy fenthyg cwpan.

Mae llawer o gaffis yn cynnig coffi rhatach am ddefnyddio Cwpan Ail-lenwi Caerdydd, felly nid yn unig fyddwch chi’n lleihau gwastraff, ond byddwch yn arbed arian hefyd!

Beth os byddwch chi'n anghofio ei ddychwelyd?

Rydyn ni i gyd wedi'i wneud e – rydych chi'n mynd â'ch coffi gyda chi ac yna'n anghofio'n llwyr am ddychwelyd y cwpan. Peidiwch â phoeni! Mae ap Refill wedi'i gynllunio i'ch atgoffa chi. Os nad ydych chi’n dychwelyd y cwpan o fewn pythefnos, efallai y codir tâl arnoch chi, ond cyn belled â'ch bod yn dod ag ef yn ôl yn brydlon, gallwch barhau i ddefnyddio'r cynllun am ddim.

Mae'r system hyblyg hon yn golygu eich bod chi'n gallu mwynhau eich coffi wrth fynd heb deimlo'n euog am greu gwastraff. Hyd yn oed os nad ydych chi'n yfed coffi yn rheolaidd, mae cymryd rhan yng nghynllun Dychwelyd Cwpan Ail-lenwi Caerdydd pan fyddwch chi'n cael diod tecawê yn gallu cael effaith fawr dros amser.

Ymunwch â mudiad cynaliadwyedd Caerdydd

Mae Caerdydd yn arwain y ffordd o ran cynaliadwyedd, a gallwch chi fod yn rhan o'r mudiad cyffrous hwn. Dim ond un darn o'r pos yw Cynllun Dychwelyd Cwpan Ail-lenwi Caerdydd, sy’n helpu i leihau sbwriel, diogelu'r amgylchedd, a llywio'r brifddinas tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

P'un a ydych chi'n fyfyriwr sy'n bachu coffi rhwng darlithoedd, yn berson proffesiynol ar eich ffordd i'r gwaith, neu'n rhywun sy'n mwynhau mynd am dro trwy'r ddinas, mae'r cynllun hwn yn ei gwneud hi'n haws i chi wneud dewisiadau ecogyfeillgar bob dydd.

Camau bach tuag at newid mawr

Mae pob cwpan rydych chi'n ei fenthyg a'i ddychwelyd yn helpu i leihau'r gwastraff enfawr a gynhyrchir gan gwpanau untro. Drwy groesawu'r cynllun hwn, gall trigolion Caerdydd ac ymwelwyr â’r ddinas atal hyd at 30,000 o gwpanau tafladwy rhag ymuno â'r ffrwd wastraff dros y chwe mis nesaf yn unig. Dychmygwch yr effaith hirdymor os bydd mwy o bobl yn cymryd rhan!

Felly, y tro nesaf fyddwch chi'n awchu am goffi, meddyliwch am y gwahaniaeth allwch chi ei wneud. Ewch ati i lawrlwytho ap Refill, benthyg Cwpan Ail-lenwi Caerdydd, a chymryd rhan mewn ffordd syml ond hynod effeithiol o leihau gwastraff a helpu i wneud Caerdydd yn ddinas lanach, wyrddach.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol