Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -

Wedi diweddaru: 10/07/2024 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Mam i ddau i gyfnewid car am feic trydan yn sgil cynllun benthyca beiciau

Mae elusen deganau yng Nghaerffili, sy’n casglu teganau nad oes eu hangen mwyach ac yn eu rhoi i blant mewn angen ar draws y Cymoedd, wedi arbed 9000kg o blastig rhag cael ei dirlenwi, ac wedi darparu teganau i 3000 o blant ers ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl yn unig. 

Mae prosiect Toybox, a sefydlwyd gan James Morgan, tad i dri o blant, yn 2021, yn sefydliad nid-er-elw sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Gan fod nifer y teganau gaiff eu casglu wedi dyblu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rhagwelir nawr y bydd yr elusen yn rhoi teganau i 3000 o blant bob blwyddyn. 

Man smiling in toy store

Sut mae prosiectau ailddefnyddio fel y rhain yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd? 

Ar hyn o bryd mae’r warws ym Medwas yn derbyn tua 200-300kg o deganau nad oes eu hangen mwyach bob wythnos. Caiff y teganau eu glanhau, eu gwirio, a'u harddangos yn y warws yn barod i'w casglu gan athrawon, ymwelwyr iechyd, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol. Yna cânt eu rhoi i deuluoedd incwm isel. 

Dywedodd y sylfaenydd, James: “Mae mwy na 90% o’r teganau wedi’u gwneud o blastig caled nad oes modd ei ailgylchu yn y gwastraff cartref cyffredinol. Mae llawer o deganau fel blociau adeiladu, setiau chwarae rôl, doliau a ffigurau plastig yn oesol. Os nad ydyn nhw wedi torri neu wedi treulio, mae modd iddyn nhw gael eu trosglwyddo a’u mwynhau gan genhedlaeth arall o blant, yn hytrach na mynd i safleoedd tirlenwi, lle byddan nhw’n aros am filoedd o flynyddoedd.” 

Fel tad i dri o fechgyn dan 10 oed, disgrifiodd James ei dŷ fel un sy’n orlawn o deganau y mae ei blant wedi tyfu’n rhy fawr iddyn nhw neu’n rhai nad ydyn nhw’n chwarae â nhw. “Rwy’n siŵr bod llawer o gartrefi ar draws de Cymru yn rhai sy’n fwy neu lai yr un fath. 

“Ond ces i fy magu mewn teulu un rhiant lle'r oedd gen i ond ychydig iawn o deganau, felly dwi’n gwybod sut deimlad yw bod heb ddim. Yn hytrach na thaflu teganau i ffwrdd, rydym am annog pobl i ddod â nhw atom fel y gallwn eu hailgartrefu. Ynghanol y pwysau presennol ar gostau byw, mae’n bwysicach nag erioed ailgylchu eitemau a chynnig teganau nad oes eu hangen i’r rhai sy’n methu eu fforddio.”  

Mae prosiect Toybox hefyd yn gweithio ar y cyd â CreateCaerphilly er mwyn ailgylchu gemau neu bosau anghyflawn ar gyfer celf a chrefft; gyda Repair Café Wales i atgyweirio unrhyw deganau trydanol neu bren sydd wedi torri; a chyda Sauring Supersaurus i ailgylchu teganau plastig sydd wedi'u torri y tu hwnt i'w hatgyweirio yn emwaith ac eitemau i’r cartref. 


Pam gweithredu?  

Mae’r Ymwelydd Iechyd Victoria Forsey yn esbonio sut mae teganau’n chwarae rhan hanfodol yn natblygiad plentyn, yn feddyliol ac yn gorfforol, ond mae hi’n ymweld â llawer o deuluoedd lle nad oes gan blant lawer o deganau i’w hysgogi. Meddai Victoria “Mae'r Prosiect Toybox yn ffordd wych o rannu teganau gyda’r teuluoedd mwyaf anghenus. Maen nhw bob amser mor ddiolchgar am y rhoddion, yn enwedig pan mae llawer o deuluoedd ar hyn o bryd yn cael trafferth talu’r biliau a chadw bwyd ar y bwrdd, heb sôn am brynu teganau newydd i’w plant.” 

Beth mae Cymru yn ei wneud?  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae'n cyflwyno deddfwriaeth newydd ar ailgylchu ar gyfer gweithleoedd y flwyddyn nesaf. Bu’n gweithio gyda sefydliadau fel WRAP er mwyn lleihau faint o blastig sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, gan gymryd camau ar yr un pryd i helpu gwella cyfraddau ailgylchu. 

Darllenwch fwy yma am gynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu pobl i wneud dewisiadau gwyrdd bob dydd a gwella ailgylchu.  

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol