Cyhoeddi yn gyntaf: 23/06/2023 -

Wedi diweddaru: 21/03/2024 -

Gwiriwyd by our Editorial Panel

Elusen a menter ailgylchu yn arbed tunelli rhag mynd i safleoedd tirlenwi

Mae canolfan atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghasnewydd yn atal dros 1,000 tunnell o eitemau’r cartref rhag mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, wrth arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd. 

Mae Wastesavers yn elusen a menter gymdeithasol yng Nghasnewydd, sy’n gweithredu ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae’n rhedeg rhwydwaith o siopau ailddefnyddio, dau gaffi atgyweirio, llyfrgell cewynnau, llyfrgell o bethau, ystafell addysg ailgylchu ryngweithiol i ysgolion a rhaglen addysg amgen o’r enw PEAK. Mae hefyd yn rhedeg gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd Casnewydd, ynghyd â gwasanaeth ailgylchu masnachol cynhwysfawr wedi'i wahanu yn y ffynhonnell i fusnesau yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen. 

Sut mae mentrau fel y rhain yn ein helpu i wneud dewisiadau gwyrdd? 

Mae Wastesavers yn casglu chwe gwaith pwysau tŷ cyffredin mewn dodrefn cartref dieisiau ar draws De-ddwyrain Cymru, gan ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi. 

Mae’n cynnig gwasanaeth casglu am ddim (mewn mannau dethol) i bobl sydd am gael gwared ar eitemau dodrefn mwy fel soffas, gwelyau, neu gabinetau, ond mae hefyd yn croesawu pobl i ollwng eu heitemau dieisiau yn un o’i 10 siop ailddefnyddio. sydd wedi’u lleoli ar draws Caerdydd, y Cymoedd a Chasnewydd. 

Mae’r eitemau hyn yn cael eu storio a’u harddangos yn un o ganolfannau ailddefnyddio Wastesavers i bobl eu prynu am gost isel. Mae hyn yn rhoi cyfle i gwsmeriaid brynu eitemau cartref mawr yn rhatach o lawer na rhai newydd, gan arbed cannoedd o bunnoedd iddynt. 

Dywedodd Rheolwr Elusen Wastesavers, Alun Harries:

Mae arbed dodrefn cartref o ansawdd da rhag cael eu taflu i sgipiau yn golygu y gallwn sicrhau bod yr eitemau hyn ar gael i bobl eraill eu prynu am bris isel. Mae hyn yn helpu pobl nid yn unig i arbed arian, ond hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r broblem o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi, gan helpu i leihau tlodi dodrefn a chreu economi fwy cylchol. Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill.


Pam bod angen gweithredu? 

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae sefydliadau fel Wastesavers yn ffordd wych o helpu pobl i gymryd camau i leihau eu heffaith ar yr hinsawdd, yn ogystal ag arbed arian. 


Pe bai pawb yn gallu gwneud eu rhan drwy ailddefnyddio ac ailgylchu dodrefn ac offer TG dieisiau, ac ystyried prynu offer ail law yn hytrach na rhai newydd, byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i faint o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. 


Bydd hyn yn gymorth mawr i’n helpu ni i greu Cymru wyrddach, lanach.

 

Beth mae Cymru yn ei wneud? 

Cymru eisoes yw’r wlad orau yn y DU am ailgylchu, a’r drydedd orau yn y byd, gan arbed tua 400,000 tunnell o CO2 bob blwyddyn. 

Darllenwch fwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu pobl i wneud dewisiadau gwyrdd dyddiol a gwella ailgylchu yma. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol