Dewisiadau dyddiol gwyrdd
Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -
Wedi diweddaru: 04/10/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Bydd ychydig mwy o arbed, ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu, ac ychydig llai o wastraffu yn gostwng faint o allyriadau carbon niweidiol sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, sef prif sbardun newid hinsawdd.
Mae cynhyrchu cynhyrchion bob dydd yn gyfrifol am 45% o allyriadau byd-eang. Yma yng Nghymru, gall pawb weithio gyda’i gilydd i wneud rhywbeth ynglŷn â hyn – yn ogystal ag arbed arian.
Cymru'n cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu
Darllen mwy
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus, a blaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Am gyngor a chymorth i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ewch i llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw.
Hyd fideo:
31 eiliad
Beth allwn ni ei wneud?
Pam gweithredu?
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyrraedd ein targed o sicrhau bod Cymru’n genedl ddiwastraff erbyn 2050. Rydym eisoes yn arwain y byd o ran ailgylchu – gadewch inni fynd ymhellach. Trwy wneud dewisiadau gwyrdd bob dydd er mwyn lleihau’r hyn rydyn ni’n ei brynu’n newydd a’r hyn rydyn ni’n ei daflu, gallwn gyrraedd y nod. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i:
Arbed arian
Mae cadw pethau gyhyd ag y bo modd, atgyweirio, prynu’n ail law, ail-bwrpasu a benthyca, bron bob tro, yn rhatach na phrynu’n newydd. Gallwch hefyd ennill arian trwy werthu eitemau diangen ar-lein neu mewn arwerthiant cist car.
Cael rhywbeth unigryw
Mae siopa’n ail law yn gyffrous am na wyddoch beth ddewch chi ar ei draws. Gallwch ail-bwrpasu neu greu rhywbeth hollol newydd hefyd.
Helpu pobl eraill
Mae cyfrannu i siopau elusen yn ffordd o gefnogi achos da yn ogystal ag osgoi taflu eitemau y gellir eu defnyddio eto – a byddwch yn helpu’r blaned hefyd.
Dysgu sgiliau newydd
Awydd rhoi bywyd newydd i hen ddodrefnyn? Gallwch ei baentio neu ychwanegu ychydig o bapur wal addurniadol. Dysgwch sut i wnïo er mwyn trwsio eich dillad neu dysgwch sut mae pethau’n gweithio er mwyn gweld a allwch chi eu hatgyweirio. Mae yna fideos YouTube i ddysgu pob sgil dan haul – beth am chwilio i weld os oes rhywbeth yr hoffech ei ddysgu?
Lleihau allyriadau carbon niweidiol
Mae cynhyrchu a chludo cynhyrchion newydd yn defnyddio ynni ac yn cyfrannu at allyriadau carbon. Mae prynu a thaflu llai yn golygu llai o sbwriel, sy’n helpu’r amgylchedd.
Arbed dŵr
Mae disgwyl y bydd gwres mawr a sychder yn rhan o newid hinsawdd, felly po fwyaf y dŵr a arbedwn, y mwyaf o ddŵr fydd gennym ar gyfer sefyllfaoedd tywydd eithafol, i ofalu am ein hiechyd a ’r byd naturiol.
Gwarchod fforestydd glaw
Mae Cymru’n mewnforio symiau mawr o nwyddau, ac mae rhai ohonynt yn achosi difrod i fforestydd glaw a chynefinoedd anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys olew palmwydd a ddefnyddir mewn eitemau cyffredin a geir mewn archfarchnadoedd megis sebon neu gynnyrch cosmetig a rwber. Po leiaf y nwyddau rydym yn eu prynu, po leiaf sydd angen eu mewnforio a’r mwyaf y gallwn wneud ein rhan i warchod yr amgylchedd naturiol.
Beth mae Cymru’n ei wneud?
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau ar waith i helpu pobl i wneud dewisiadau dyddiol gwyrdd a hyrwyddo ailgylchu.
Hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio yng Nghymru, gan gynnwys rhoi grantiau i awdurdodau lleol sydd wedi’u defnyddio i greu siopau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol trefi a chyfleusterau ailddefnyddio eraill mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grantiau hefyd i gefnogi sefydliadau allweddol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl fenthyca o Benthyg Cymru ac atgyweirio eu heitemau eu hunain gyda chymorth arbenigwyr lleol mewn Caffis Trwsio.Cynllun dychwelyd ernes
Mae adborth o ymgynghoriad ar y cyd â Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i gynllunio Cynllun Dychwelyd Ernes newydd ar gyfer cynwysyddion diodydd, a fydd yn golygu y byddwn yn talu blaendal bychan pan brynwn ddiod mewn cynhwysydd untro ond wrth ddychwelyd potel neu dun bydd hwnnw’n cael ei ad-dalu’n ôl i ni.
Pecyn Caffael Cymdeithas Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol i gyflwyno cynaliadwyedd i bopeth a wnânt, yn enwedig o ran lleihau allyriadau o’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddefnyddiant.
Ymgyrch Bydd Wych
Mae’r Ymgyrch Bydd Wych yn gofyn i bawb gwneud newidiadau bychan ond pwysig i’r ffordd y maent yn ailgylchu, gyda’r nod o fod ar frig rhestr y byd.
Gwahardd plastigau untro
Cymru fydd cenedl gyntaf y DU i wahardd gwerthu cynhyrchion untro diangen i ddefnyddwyr. O hydref 2023, bydd gan awdurdodau lleol y pŵer i orfodi’r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel cyffredin gan gynnwys cyllyll a ffyrc a chaeadau polystyren.
Ailgylchu
Rydym yn arweinydd byd-eang o ran ailgylchu yn y cartref; cesglir gwastraff bwyd o bob cartref ac mae canolfannau ailgylchu yn esblygu’n eco-barciau modern i barhau’r defnydd o adnoddau.
Fe wnaeth WRAP Cymru adrodd ar ei wefan Fy Ailgylchu Cymru fod 403,000 o dunelli o allyriadau CO2 wedi’u hosgoi drwy ailgylchu yn 2019/20 – mae hynny’n cyfateb i 81,356 o geir petrol yn cael eu gyrru am flwyddyn.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n ailgylchu 65.2% o wastraff trefol, sef un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd. Ond mae angen i ni wneud mwy dros yr amgylchedd drwy leihau faint o sbwriel yr ydym yn ei gynhyrchu. Erbyn 2025, nod y Llywodraeth yw lleihau gwastraff bwyd y gellir ei osgoi 50%, lleihau pob gwastraff 26% a chynyddu’r gyfradd ailgylchu 70%. Dysgwch ragor am sut y byddwn yn cyrraedd y targedau hyn.Gwella casglu gwastraff busnesau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunydd ailgylchadwy yn yr un ffordd ag y mae’r rhan fwyaf o dai yn gwneud. Bydd hyn yn gwella ansawdd a maint y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff.Gwahardd plastigau untro.
Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i gymryd camau yn erbyn plastigau untro wedi i’r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion untro, diangen – gan gynnwys cyllyll a ffyrc, caeadau polystyren, gwellt yfed a ffyn balŵns.Gwella ailgylchu deunydd pacio.
Cyflwynodd Strategaeth Mwy nag Ailgylchu gynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau diwedd oes llawn eu deunydd pacio a chyrraedd targedau ailgylchu deunydd pacio Cymru. Bydd hyn yn cynnwys labelu i’w gwneud yn haws i bobl ddeall yr hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu.Cymorth ariannol gyda biliau dŵr
Fe wnaeth Dŵr Cymru fuddsoddi £12 miliwn yn 2022 i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed yn ystod yr argyfwng costau byw. Dysgwch ragor am sut y gall helpu drwy roi cymorth ariannol ac anariannol.
Ffitiadau dŵr ac offer effeithlon o ran ynni
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun labelu ar gyfer ffitiadau dŵr ac offer a allai leihau’r defnydd o ddŵr yn sylweddol dros 25 mlynedd trwy sicrhau bod cynhyrchion yn fwy effeithlon o ran dŵr.
Cynlluniau clytiau golchadwy
Mae cynlluniau lleol yn cynnwys y North Wales Nappy Collective, sy’n cynnig cyngor a benthyca pecynnau clytiau golchadwy. Maent yn amcangyfrif eu bod wedi atal dros dair miliwn o glytiau a 26 miliwn o gynhyrchion mislif rhag mynd i safleoedd tirlenwi ers 2015. Dysgwch ragor am fanteision defnyddio clytiau golchadwy yma .
Gwybodaeth bellach
Er mwyn dysgu rhagor am y dewisiadau dyddiol y gallwch chi eu gwneud i leihau eich effaith ar yr amgylchedd ac arbed arian, cliciwch ar un o’r dolenni isod:
Mwy na 200 ffordd o arbed dŵr gan Connect4Climate.
Mae Maint Cymru yn sicrhau bod Cymru yn rhan o’r ateb byd-eang i newid hinsawdd. Dysgwch ragor yma.
Angen benthyca rhywbeth? Dewch o hyd i Lyfrgell Pethau yn agos atoch chi.
Gallwch drefnu atgyweirio eitemau’r cartref sydd wedi torri yn rhad ac am ddim mewn Caffis Trwsio. Dysgwch ragor yma.
Mae ’Bydd Wych, Ailgylcha’ yn llawn awgrymiadau i’ch helpu i ailgylchu.
Gallwch gael cymorth a chyngor i’ch helpu chi gyda’r costau byw cynyddol.