Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Storio ac oes silff
Mae ychydig mwy o gynllunio storio ac ychydig llai o fwyd yn y bin yn ffordd o leihau ein heffaith ar y blaned ac arbed arian. Yng Nghymru, erbyn 2030 ein nod yw lleihau gwastraff bwyd 60%.
Mae bwyd yn para'n hirach pan gaiff ei storio'n gywir. Bydd taflu llai o fwyd bwytadwy yn lleihau faint o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod pob cam o'i daith – gan gynnwys y camau cynhyrchu, cludo a phrosesu.
Beth allwn ni ei wneud?
Gall mân newidiadau a chysondeb gael effaith fwy. Mae arbed arian ar fwyd yn haws gyda'r arferion bwyd da hyn:
Deall y gwahanol labeli dyddiadau
Mae dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’ yn ymwneud â diogelwch, sy’n golygu na ddylech fyth fwyta bwyd ar ôl y dyddiad hwnnw, tra bod dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ yn ymwneud ag ansawdd – sy’n golygu y gallai’r bwyd fod yn ddiogel i’w fwyta ar ôl y dyddiad sydd ar y cynnyrch, ond efallai na fydd ar ei orau. Ond a yw’r dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’ yn gywir? Mae’n dibynnu. Os yw’r bwyd wedi’i rewi, bydd yn fwytadwy am fwy o amser (gwnewch yn siŵr eich bod yn ei ddadmer yn drylwyr cyn ei fwyta). Os ydych yn cadw bwyd yn yr oergell, dilynwch gyfarwyddiadau storio’r bwyd. Darganfyddwch fwy am labelu dyddiadau bwyd.
Storio bwyd yn well
Ydych chi wedi rhoi cynnig ar y dull ‘cyntaf i mewn – cyntaf allan’ (FIFO)? Gwiriwch labeli’r cynnyrch cyn eu storio nhw yn eich cypyrddau, oergell a rhewgell. Symudwch y bwydydd hŷn i flaen eich silffoedd fel y gallwch eu defnyddio yn gyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i ddefnyddio eich bwyd cyn iddo ddod i ben ac i gadw eich cegin yn drefnus. Archwiliwch fwy o awgrymiadau i wneud i'ch bwyd fynd ymhellach.
Defnyddio cynwysyddion bwyd aerglos
Mae cynwysyddion aerglos yn atal ocsigen rhag difetha'r bwyd, yn cadw ei ffresni ac yn rhwystro lleithder a all achosi llwydni.
Rhewi eich bwyd
Bara yw un o'r cynhwysion sy'n cael ei wastraffu fwyaf - mae cartrefi'r DU yn taflu 20 miliwn o dafelli bob dydd. Mae yna lawer o ffyrdd o’i ddefnyddio, ei droi’n friwsion bara, yn groutons neu ei storio yn y rhewgell am hyd at chwe mis. Gall piclo, eplesu neu eu troi’n gyffeithiau hefyd ymestyn bywyd eich ffrwythau a’ch llysiau. Archwiliwch fwy o syniadau am fwyta’n gynaliadwy.
Prynu’r hyn sydd ei angen arnoch a defnyddio’r hyn rydych wedi’i brynu
Gwiriwch pa fwyd sydd gennych yn eich cypyrddau ac yn eich oergell. Gwnewch restr siopa o'r cynhwysion sydd eu hangen arnoch cyn i chi fynd i'r siop er mwyn osgoi prynu unrhyw beth sydd gennych eisoes neu nad oes ei angen arnoch. Bydd hyn yn eich helpu i gadw rheolaeth ar eich siopa ac yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o ddefnyddio’ch bwyd cyn na ellir ei fwyta mwyach.
Newid tymheredd eich oergell i’r un cywir
Gwnewch yn siŵr fod tymheredd eich oergell yn is na 5oC er mwyn cadw bwyd yn ffres am hirach ac atal twf bacteria niweidiol – Mae gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff ganllaw i’ch helpu i wirio hyn. Hefyd ceisiwch gadw eich silffoedd yn drefnus a pheidiwch â’u gorlwytho, er mwyn sicrhau bod yr aer yn gallu cylchredeg yn rhydd a bod y tymheredd yn aros yn gyson.
Defnyddio apiau rhannu lleol
Teimlo’n euog am daflu bwyd neu eisiau helpu rhywun arall gan ddefnyddio cynhwysion na allan nhw’u defnhyddio? Defnyddiwch apiau fel Olio sy’n ein galluogi ni, siopau lleol a busnesau bwyd i rannu bwyd sydd dros ben. Mae Neighbourly a FareShare Go hefyd yn gweithio gydag elusennau bwyd a grwpiau cymunedol i ailddosbarthu bwyd sydd dros ben a chynhyrchion eraill i bobl sydd mewn angen. Dewch o hyd i grwpiau ailddosbarthu arall yma.
Pam gweithredu?
Mae bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Mae pob cam o’i daith – gan gynnwys y camau cynhyrchu, prosesu, cludo a choginio – yn defnyddio adnoddau ac ynni, ac yn rhyddhau allyriadau carbon sy'n dal gwres yn atmosffer y ddaear, gan gyfrannu at newid hinsawdd. Dyna pam ei bod yn bwysig sicrhau nad oes unrhyw fwyd bwytadwy yn mynd yn y bin yn y lle cyntaf. Gall storio bwyd yn gywir ymestyn ei oes silff a hefyd:
Atal ei ddifetha
Dilynwch y cyfarwyddiadau storio i ymestyn oes silff cynnyrch. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i chi fwyta bwyd cyn iddo fynd yn ddrwg, a all helpu i atal difetha a gwastraffu bwyd.
Cadw bwyd yn ddiogel
Gall rhai bwydydd gynnwys bacteria a all achosi gwenwyn bwyd os nad ydyn nhw’n cael eu storio ar y tymheredd cywir. Mae'n hanfodol deall labelu dyddiadau a'r gwahaniaeth rhwng dyddiad ‘ar ei orau cyn’ a dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
Cadw bwyd yn ffres
Storiwch eich bwyd yn gywir er mwyn iddo gadw ei flas a’i ansawdd – bydd hyn yn gwneud eich prydau bwyd yn fwy pleserus a’u cadw nhw o’r bin.
Arbed arian
Yn ôl WRAP, mae dros ddwy ran o dair gwastraff bwyd y cartref yn fwyd y gellid bod wedi’i fwyta. Amcangyfrifir bod hyn werth tua £60 y mis, neu £700 y flwyddyn, i deulu cyffredin gyda phlant. Mae gwastraffu llai o fwyd yn arbed arian i ni.
Helpu i leihau gwastraff bwyd bwytadwy
Rydyn ni’n dueddol o daflu bwyd dros ben a sbarion, sy’n arwain at wastraff diangen. Mae dim ond prynu’r hyn sydd ei angen arnom a defnyddio’r hyn rydyn ni wedi’i brynu yn lleihau gwastraff bwyd. Trwy ailgylchu neu gompostio bwyd anfwytadwy, gallwn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Lleihau eich effaith ar yr amgylchedd
Mae prynu llai a pheidio â gwastraffu cymaint o fwyd bwytadwy yn lleihau’r allyriadau carbon niweidiol sy'n deillio o'i gynhyrchu.