Cyhoeddi yn gyntaf: 15/04/2025 -
Wedi diweddaru: 15/04/2025 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Sut mae oergell gymunedol yn Sir y Fflint yn brwydro yn erbyn gwastraff bwyd ac yn bwydo teuluoedd
Drwy achub bwydydd sydd heb gael eu gwerthu, mae Refurbs Flint yn mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a newid hinsawdd – un fasged o lysiau ffres ar y tro.
:fill(fff))
Unwaith yr wythnos, mae Refurbs Flint yn croesawu cwsmeriaid i’w hoergell gymunedol sydd nid nepell o ganol y dref yng Ngogledd Cymru. Mae silffoedd y stordy yn drymlwythog â bwyd ffres sydd ar gael i bawb sydd ei angen – o ffrwythau a llysiau i ham, selsig, tuniau a hanfodion eraill i’r gegin, mae’r dewis yn eang.
Ddwyaith yr wythnos, mae’r oergell gymunedol yn derbyn cyflenwadau o fwydydd sydd dros ben o archfarchnadoedd, bwydydd a fyddai’n cael eu taflu fel arall. Gellir casglu’r eitemau yno bob dydd Mercher rhwng 12:30 a 2:30pm.
Nid yn unig y mae hyn yn helpu pobl gyda chostau byw, ond mae’r oergell gymunedol hefyd wedi bod yn hynod o lwyddiannus wrth leihau gwastraff a hybu cynaliadwyedd bwyd. Mae bellach yn derbyn dros 1,000 o ymweliadau bob blwyddyn, gan arbed pum tunnell o wastraff bwyd. Amcangyfrifir hefyd ei bod yn arbed 12 tunnell o allyriadau CO2 - sy’n cyfateb i yrru tua 23,000 o filltiroedd mewn car.
Yn wahanol i fanciau bwyd traddodiadol, dydy’r oergell gymundeol ddim yn gofyn i bobl ddarparu prawf o fod mewn angen. Gall pawb alw mewn, talu swm bychan a gadael gyda beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw. Mae’n ffordd o gefnogi pobl ar draws y gymuned gyfan: yn deuluoedd, henoed a ffoaduriaid, yn ogystal â’r rheiny sy’n cael eu cyfeirio at yr oergell gan wasanaethau cymdeithasol a sefydliadau eraill.
:fill(fff))
“Rydyn ni eisiau i bawb deimlo bod ’na groeso iddyn nhw. Mae’r oergell gymunedol yn rhoi cyfle i bobl dderbyn y gefnogaeth maen nhw ei hangen.”
Jo Prandle, cydlynydd oergell gymunedol Refurbs Flint
Mae’r elusen hefyd yn cynnal gweithdai cyson a dosbarthiadau coginio, gan gynnwys sesiwn fisol “Gwneud i Fwyd Fynd Ymhellach”. Drwy ddefnyddio cynhwysion o’r oergell gymunedol, mae gwirfoddolwyr yn arddangos ryseitiau y gall pobl eu trio pan fyddan nhw adre.
Meddai cydlynydd y prosiect, Jo Prandle: “Rydyn ni nid yn unig eisiau darparu bwyd yn y fan a’r lle i’r rhai sydd ei angen fwyaf, ond hefyd i’w goleuo nhw ar effaith gwastraff bwyd ar yr amgylchedd a sut y gallwn ni ei leihau. Rydyn ni’n annog a chefnogi pobl i gadw at gyllideb, i brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, ac i goginio eu hunain.
Cynllun cynaliadwy
Arianwyd y prosiect yn wreiddiol gan y Co-op a’r elusen amgylcheddol Hubbub, gan ganiatáu i Refurbs Fflint i brynu oergelloedd ac offer hanfodol amrywiol, ac fe dderbyniodd gefnogaeth yn ogystal gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae Refurbs Fflint hefyd yn cael budd o fod yn aelod o FareShare Cymru, sy’n ail-ddosbarthu bwyd sydd dros ben i elusennau yng Nghymru.
Dim ond un elfen o genhadaeth Refurbs Fflint ydy’r oergell gymunedol. Mae’r elusen hefyd yn gwerthu celfi ac offer i’r cartref ail-law yn ei hystafeloedd arddangos, gan arbed cannoedd o eitemau o ansawdd da rhag mynd yn wastraff, a chan helpu pobl i ddodrefnu eu tai yn rhatach.
Mae hefyd yn darparu hyfforddiant gwerthfawr a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl sy’n wynebu anawsterau fel cyflyrau iechyd neu ddiweithdra hir-dymor.
:fill(fff))
Bwyda dy ddychymyg
Mae dros 600 o oergelloedd cymunedol yn y DU – ac maen nhw’n para i gynyddu mewn niferoedd.
Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau mawr i daclo newid hinsawdd a’i wneud yn haws i ni gyd wneud dewisiadau gwyrddach. Un nod yn arbennig yw i haneru gwastraff bwyd diangen erbyn 2025 – gan helpu’r blaned a hefyd roi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Gwneud dy ran
Chwilia am fanylion y Rhwydwaith Oergelloedd Cymunedol i ffeindio’r un agosaf atat ti. Ar gyfer mwy o syniadau am sut i arbed arian a gwneud i dy fwyd fynd ymhellach, cer i Cymru yn Ailgylchu.