Cyhoeddi yn gyntaf: 04/04/2025 -

Wedi diweddaru: 04/04/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Eich canllaw i biclo: gwastraffu llai, bwyta’n dda, a rhoi hwb i iechyd eich perfedd

P’un ai ydych chi’n rywun sy’n mwynhau bwyd ond yn ymwybodol o effeithiau eich bwyd ar yr amgylchedd neu’n rhywun sydd yn edrych i ychwanegu rhywbeth arbennig at eich prydau, bydd canllaw Daniel ap Geraint i ddechreuwyr yn eich tywys drwy bopeth sydd angen ei wybod arnoch chi am biclo gartref.

Wedi ei eni ym Mhrestatyn, Daniel ap Geraint yw prif gogydd bwyty The Gunroom, Plas Dinas yng Nghaernarfon, un o fannau bwyta mwyaf cyffrous Cymru. Datblygodd ei gariad at fwyd yng nghegin ei Nain, lle roedd pob pryd yn llawn calon a blas.

Wedi magu profiad yng ngheginau amlycaf Cymru, gwnaeth Daniel enw iddo’i hun yn gyflym, gan sicrhau ei swydd gyntaf fel prif gogydd yn 23 mlwydd oed, ac agor bwyty a gydnabyddwyd gan Michelin yn ddiweddarach. Erbyn hyn, yn The Gunroom, mae’n enwog am goginio bwyd tymhorol beiddgar, yn arddangos y cynnyrch lleol gorau drwy ei fwydlenni sydd yn newid yn aml.

Mae cadw a gwneud y mwyaf o flas yn hanfodol ar gyfer ei ddull o goginio - felly mae piclo yn gwneud perffaith synnwyr.

Picls – mae mwy iddyn nhw nag ychwanegiad blasus i’ch brechdan. Mae piclo yn ddull hynafol o gadw bwyd sydd nid yn unig yn lleihau gwastraff ond hefyd yn arbennig o dda o safbwynt blas a iechyd y perfedd.

Pam picls?

  • Datrysiad i broblem gwastraff bwyd

Mae pawb wedi bod yn euog o brynu bag o gynnyrch ffres, ac anghofio amdano am wythnos cyn dod o hyd iddo yn yr oergell wythnos yn ddiweddarach. Mae piclo yn ffordd wych o arbed y llysiau hynny o’r bin ac ymestyn eu hoes am fisoedd. Yn hytrach na thaflu ciwcymbr meddal neu ormodedd o foron, trowch nhw’n hyfrydwch crensiog.

  • Cynaliadwy a rhad

Gyda phrisiau bwyd yn cynyddu, mae gwneud eich picls eich hun yn ddull fforddiadwy o ychwanegu blas ac amrywiaeth i’ch prydau. Drwy biclo cynnyrch tymhorol, gallwch fwynhau eich hoff lysiau drwy’r flwyddyn, heb gostau amgylcheddol bwyd sydd wedi ei fewnforio, y tu allan i’w dymor.

  • Yn dda i’ch perfedd

Mae picls wedi’u heplesu (yn hytrach na phicls sydd wedi eu piclo’n gyflym) yn cynnwys probiotig sy’n help i gynnal microbiom perfedd iach. Mae’r bacteria da hyn yn helpu’r broses dreulio, yn hwb i’r system imiwnedd, ac mae’n bosibl eu bod hefyd yn gwella hwyliau.

Mae dau brif ddull o biclo: piclo sydyn a phiclo drwy eplesu.

1. Piclo sydyn (am foddhad sydyn)

Mae picls sydyn yn cael eu gwneud drwy foddi llysiau mewn dŵr hallt. Maent yn barod mewn ychydig oriau neu ddyddiau a does dim angen eu heplesu.

Sut i wneud picls sydyn

Beth fydd eu hangen arnoch:

  • 2 gwpan o finegr (gwyn, seidr afal, neu finegr reis)

  • 1 cwpan o ddŵr

  • 2 lwy fwrdd o halen

  • 2 lwy fwrdd o siwgr (dewisol)

  • Eich dewis o lysiau (ciwcymbrs, moron, nionod/winws, rhuddygl, ac ati.)

  • Sbeisys (garlleg, dil, hadau mwstard, puprennau, tsili - beth bynnag yr ydych ei awydd!)

Camau:

  1. Paratowch eich llysiau: Sleisiwch y llysiau’n denau er mwyn iddynt biclo’n gynt neu gadewch nhw’n gyfan er mwyn cael gwead mwy crensiog.

  2. Gwnewch y dŵr hallt: Cynheswch finegr, dŵr, halen, a siwgr mewn sosban tan y byddant wedi toddi. Gadewch iddo oeri ychydig.

  3. Llenwch y jariau: Llenwch jariau wedi eu sterileiddio gyda’ch llysiau a’ch sbeisys.

  4. Tywalltwch y dŵr hallt: Gorchuddiwch y llysiau yn llwyr. Seliwch y jar a gadewch iddo eistedd yn yr oergell am 24 awr o leiaf.

Tip: bydd y rhain yn para yn yr oergell am hyd at fis.

2. Piclo drwy eplesu (ar gyfer manteision iechyd)

Mae eplesu yn broses naturiol lle mae bacteria yn torri siwgr i lawr, gan greu’r blas sur arbennig yna a llwyth o probiotigau. Yn wahanol i bicls sydyn, does dim angen finegr ar gyfer y rhain, maent yn dibynnu yn hytrach ar halen ac amser.

Sut i wneud picls wedi’u heplesu

Beth fydd ei angen arnoch:

  • 1 llwy fwrdd o halen môr fesul 2 gwpan o ddŵr

  • Llysiau ffres (bresych, ciwcymbrs, moron, ac ati.)

  • Garlleg, dil, llawryfau, neu sbeisys eraill (dewisol)

  • Jar glân

Camau:

  1. Toddwch yr halen: Cymysgwch yr halen i’r dŵr er mwyn creu dŵr hallt.

  2. Paciwch eich jar: Paciwch eich llysiau a’ch sbeisys yn dynn.

  3. Tywalltwch y dŵr hallt: Sicrhewch bod y llysiau i gyd o dan y dŵr (defnyddiwch rhywbeth i bwyso arnynt os oes angen).

  4. Rhowch gaead ysgafn ar y jar: Mae eplesu yn cynhyrchu nwy, felly peidiwch â chau’r caead yn rhy dynn. Gadewch iddo eistedd ar dymheredd ystafell am 5-10 diwrnod.

  5. Blaswch a storiwch: Unwaith mae’r llysiau yn blasu’n ddigon siarp ichi, symudwch y jar i’r oergell.

Tip: Mae dŵr hallt cymylog a swigod yn golygu bod y broses eplesu yn gweithio - peidiwch mynd i banig.

Gallwch fod yn greadigol gyda blasau

Unwaith byddwch wedi meistroli’r camau cyntaf, arbrofwch. Rhowch gynnig ar:

  • Foron sbeislyd wedi’u piclo gyda tsili a garlleg

  • Picls ffenigl lemon am flas ffres

  • Ffa gwyrdd wedi’u piclo gyda hadau mwstard a phupur du

Rhowch dro arni

Mae piclo’n ffordd hawdd o leihau gwastraff bwy, ychwanegu probiotigau i’ch deiet, a dod â blasau beiddgar at eich bwrdd. P’un ai ydych yn mynd am bicls wedi’u heplesu sy’n dda i’r perfedd neu bicls sydyn, mae picls cartref yn gam blasus ymlaen at gegin fwy cynaliadwy.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol