Cyhoeddi yn gyntaf: 15/04/2025 -

Wedi diweddaru: 15/04/2025 -

Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol

Bwyta yn ôl y tymhorau – bwyd mwy ffres, mwy blasus a llai o filltiroedd bwyd

Nid dim ond er mwyn cael bwyd sy'n blasu'n well y dylem fwyta yn ôl y tymhorau - mae'n ymwneud hefyd â maeth, cynaliadwyedd a chysylltu â rhythm natur.

Dychmygwch roi mefusen llawn sudd yn eich ceg ym mis Rhagfyr, dim ond i sylweddoli bod ei blas... wel, yn siom. Y rheswm dros hynny yw ei bod wedi teithio hanner ffordd o amgylch y byd i gyrraedd eich plât, wedi cael ei chasglu cyn iddi fod ar ei gorau, ac wedi colli'i melyster naturiol. Y gwir yw bod bwyd yn blasu'n well pan fydd yn ei dymor.

Ebrill a Mai yw'r misoedd gorau ar gyfer cynnyrch ffres, llawn maeth, felly gadewch inni fynd ati i weld pa gynnyrch sydd yn ei dymor, pam mae mor amheuthun, a sut i wneud y gorau ohono.

Pam dylwn i fwyta'n dymhorol?

Mae bwyta'r hyn sy'n tyfu'n naturiol ar y pryd yn golygu:

  • Gwell blas – Mae cynnyrch tymhorol yn cael ei gynaeafu pan fydd ar ei fwyaf aeddfed, felly mae'n llawn blas.

  • Eco-gyfeillgar – Llai o filltiroedd bwyd, llai o gemegau, a defnyddio llai o ynni.

  • Rhatach – Pan fydd digonedd o rywbeth ar gael, bydd yn fwy fforddiadwy.

  • Iachach – Mae maetholion ar eu gorau pan fydd bwyd yn ffres, nid ar ôl iddo deithio am gyfnod hir mewn storfeydd oer.

Beth sydd yn ei dymor ym misoedd Ebrill a Mai?

Y gwanwyn yw'r amser ar gyfer llysiau gwyrdd ffres, llysiau melys, ac aeron cynnar. Dyma'r hyn sydd ar ei orau ar hyn o bryd:

Llysiau sydd ar eu gorau

  • Asbaragws – Danteithfwyd gorau'r gwanwyn. Wedi'i rostio, wedi'i grilio, neu mewn risotto hufennog, mae'n un o hanfodion y tymor.

  • Tatws newydd – Mae'r danteithion bach hyn yn fenynaidd ac yn feddal, yn berffaith ar gyfer salad neu ar eu pen eu hunain yn diferu o fenyn.

  • Llysiau gwyrdd y gwanwyn a sbigoglys – Yn llawn haearn a fitamin C, gwych ym mhopeth o brydau tro-ffrio i smwddis.

  • Sibwns/slots/sibols – Ysgafn, melys, ac yn ychwanegiad gwych at salad, omled, neu lond powlen o nwdls.

  • Pys a ffa llydan – Melys, ffres, a pherffaith i'w taflu i mewn i pasta neu i'w stwnsio/pwtsio ar dost gyda feta.

  • Moron – Melysach yn y gwanwyn, gwych yn amrwd, wedi'u rhostio, neu mewn cacennau (cacen foron, unrhyw un?).

  • Garlleg gwyllt – Os ydych chi'n gweld y planhigyn hwn wrth ichi fynd am dro, bachwch ynddo. Mae'n gwneud pesto gwych neu'n ychwanegu cic o arlleg i gawl.

Ffrwythau sy'n dechrau aeddfedu

  • Mefus – Mae'r rhai cynnar yn dechrau dod i'r golwg ym Mhrydain, a dydyn nhw'n ddim byd tebyg i'r rhai di-flas a geir yn yr archfarchnadoedd yn ystod y gaeaf.

  • Riwbob – Llysieuyn yn dechnegol, ond byddwn ni'n ei fwyta fel ffrwyth. Yn bartner perffaith i grymbl, cwstard, neu jin.

Sut i fwyta'n dymhorol fel hen law

Nid yw bwyta'n dymhorol yn golygu bod yn rhaid ichi roi'r gorau i'ch hoff fwydydd, ond mae yn golygu dathlu'r hyn sydd ar ei fwyaf ffres. Dyma sut i fynd ati:

  • Siopa'n lleol – Ewch i farchnadoedd ffermwyr er mwyn dod o hyd i'r cynnyrch mwyaf ffres. Mae'n debygol o fod yn rhatach ac yn fwy blasus.

  • Tyfwch eich cynnyrch eich hun – Gall hyd yn oed gardd berlysiau ar sil ffenestr wneud gwahaniaeth (mae basil, persli, a chennin sifi yn ffynnu yn y gwanwyn).

  • Cynlluniwch eich prydau – Chwiliwch am ryseitiau sy'n defnyddio cynhwysion tymhorol (tarten asbaragws a chompot riwbob).

  • Gwiriwch labeli – Os yw'ch llysiau wedi teithio miloedd o filltiroedd, dewiswch rhywbeth sydd wedi'i dyfu yma yn eu lle.

Ryseitiau syml i roi cynnig arnynt yn y gwanwyn

  • Salad gwyrdd y gwanwyn – Trowch pys ffres, ffa llydan, sbigoglys, feta, a dresin lemwn gyda'i gilydd.

  • Tatws newydd menyn garlleg  – Berwch datws newydd a'u troi gyda menyn, halen a garlleg gwyllt er mwyn creu cyfwyd hawdd.

  • Crymbl mefus a riwbob – Melys, siarp, a cheirch menynaidd ar eu pen - y gwanwyn mewn dysgl.

  • Asbaragws ac ŵy wedi'i botsio ar ddost –  Y brynsh gorau un, a hyd yn oed yn well gyda diferion o olew olewydd drosto.

Mwynhewch y tymor

Nid mater o ddilyn y rheolau yw bwyta'n dymhorol - mae'n rhywbeth i'w wneud yn llawen. Mae bwyd y gwanwyn yn ysgafn, yn ffres, ac yn llawn blas, felly gwnewch y mwyaf ohono tra bo ar gael. Ewch allan, ewch i'ch marchnadoedd lleol, a dathlu'r gorau o gynnyrch Ebrill a Mai ar eich plât.

Eisiau gwybod mwy?

Ewch i Dewisiadau Bwyd Gwyrdd i gael rhagor o tips a gwybodaeth am ddewisiadau bwyd cynaliadwy.

I gael rhagor o gymorth neu gyngor ffoniwch

0300 0604400

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol