Cyhoeddi yn gyntaf: 21/02/2024 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Dewisiadau bwyd cynaliadwy
Bydd ychydig yn fwy o ystyriaeth yn ymwneud â’r hyn rydym yn ei fwyta, lle’r ydym yn prynu ein bwyd, sut mae’n cael ei becynnu, ac yn bwyta neu ddefnyddio’r holl fwyd y rydym yn ei brynu ac ychydig yn llai o’i daflu yn y bin yn ein helpu i ostwng ein hôl-troed carbon a chynnal deiet iach a chytbwys.
Nid yw gwir effaith ar yr hinsawdd yr hyn y rydym yn ei fwyta yn hawdd ei gyfrifo. Gwyddom fod amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yn dibynnu ar brosesau naturiol ac felly bydd wastad yn achosi rywfaint o allyriadau nwyon tŷ gwydr[ka1] . Mae ôl-troed carbon bwyd yn amrywio yn ôl sawl ffactor: sut mae’n cael ei gynhyrchu, o ble mae’n dod, sut mae’n cael ei becynnu, sut mae’n cael ei ailgylchu neu ei waredu, faint o’r bwyd sydd ddim yn cael ei fwyta, a hefyd p’un a yw bwyd yn ei dymor ai peidio.
Mae aelwydydd ledled Cymru yn ei chael hi’n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw presennol a biliau bwyd drutach. Mae elusennau megis FoodCycle Wales yn helpu aelwydydd a chymunedau i oresgyn tlodi bwyd, unigrwydd a gwastraff bwyd. Mae partneriaethau bwyd lleol hefyd yn gweithio i roi mynediad i ni i gyd at fwyd fforddiadwy, iach, cynaliadwy a blasus. Os ydych yn cael trafferth gyda biliau bwyd y cartref, mae help ar gael drwy llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw. Gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol am gyngor ar gymorth fel banciau bwyd a phantrïoedd yn eich ardal leol.
Beth allwn ni ei wneud?
Mae gwneud eich bwyd eich hun o’r dechrau, os yw hynny’n bosibl, a bwyta deiet cytbwys – gyda digon o ffrwythau a llysiau ffres, bwydydd startsh megis tatws, bara neu basta a ffynonellau protein – yn ein helpu i gynnal iechyd da a gostwng ein hôl-troed carbon.
Dechreuwch trwy ddeall yr ôl-troed carbon sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o fwyd:
Cig
Mae cig yn un o’r cyfranwyr mwyaf i allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig anifeiliaid cnoi cil (gwartheg a defaid) sy’n cynhyrchu llawer o fethan Mae ein ffermwyr yn gweithio i leihau allyriadau a ffermio’n gynaliadwy, wrth i ni ymdrechu tuag at sero net, a chwarae rhan sylweddol yn ein ffabrig economaidd a diwylliannol. Fel ffynhonnell brotein, gall cig fod yn rhan o ddeiet cytbwys iach. Fodd bynnag, dylem gyfyngu ar gig coch a chig wedi’i brosesu er mwyn lleihau ein risg o ganser y coluddyn. Wrth ddewis bwyta cig, ceisiwch brynu cynnyrch lleol a ffermir yn gynaliadwy os yw ar gael. Mae prynu cig o dramor yn achosi allyriadau drwy storio a chludo ychwanegol ac efallai na chafodd ei gynhyrchu gan ddefnyddio safonau uchel arferion ffermio Cymru. Mewn rhai achosion, gall hefyd achosi datgoedwigo. Gweler Canllaw Bwyta’n Dda y GIG am fwy o wybodaeth. Er bod cig a llaeth yn gallu bod yn rhan o ddeiet cytbwys yn y Canllaw Bwyta’n Dda, mae’r canllaw yn pwysleisio y dylai ffrwythau, llysiau a chynhyrchion eraill sy’n seiliedig ar blanhigion ffurfio cyfran uwch o’n deiet na chig a llaeth.
Cynhyrchion llaeth a dewisiadau amgen heb laeth
Mae llaeth a chynhyrchion llaeth megis caws ac iogwrt yn cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr ein bwyd, gan fod gwartheg ac anifeiliaid cnoi cil eraill yn cynhyrchu llawer o fethan. Gallant ffurfio rhan o ddeiet iach ac fe’u hargymhellir yng Nghanllaw Bwyta’n Dda y GIG gan fod llaeth a chynhyrchion llaeth yn cynnwys calsiwm, sy’n faethyn hanfodol. Er bod llaeth yn gallu bod yn rhan o ddeiet cytbwys yng Nghanllaw Bwyta’n Dda y GIG, mae’r canllaw yn pwysleisio y dylai ffrwythau, llysiau a chynhyrchion eraill sy’n seiliedig ar blanhigion ffurfio cyfran uwch o’n deiet na chig a llaeth. Os dewiswch ddeiet di-laeth, dewiswch gynhyrchion sy’n cael eu hatgyfnerthu â chalsiwm. Mae yna lawer o gynhyrchion llaeth sy’n seiliedig ar blanhigion bellach ar gael, fel ceirch, soia, almon a chnau coco, a dewisiadau amgen i gynhyrchion llaeth eraill, fel caws. Fodd bynnag, mae dewisiadau eraill nad ydynt yn llaeth yn amrywio o ran eu cynaliadwyedd. Gall llaeth ceirch, er enghraifft, fod yn fwy cynaliadwy na llaeth soia gan ei fod yn tyfu yn hemisffer y gogledd ac nid yw’n codi pryderon am ddatgoedwigo a dinistrio cynefinoedd. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma
Pysgod a bwyd môr
Mae pysgod a bwyd môr hefyd yn ffurfio rhan o’r Canllaw Bwyta’n Dda y GIG a argymhellir. Mae hynny oherwydd bod pysgod a physgod cregyn yn ffynonellau da o faetholion hanfodol fel asidau brasterog omega -3. Os dewiswch beidio â bwyta pysgod, mae’r GIG yn rhestru’r ffynonellau gorau o blanhigion omega -3. Chwiliwch am gymwysterau cynaliadwyedd ar becynnu megis tic glas Cyngor Stiwardiaeth Forol, a dysgwch fwy am y pysgod a bwyd môr mwyaf cynaliadwy i’w bwyta yn y DU.
Ffrwythau a llysiau
Petai pawb yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, byddem y byw bywydau iachach – nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta digon a byddem yn elwa o gynnwys mwy yn ein deiet. Nid yn unig y mae’r bwydydd hyn yn dueddol o fod yn rhatach, ond fel arfer maen nhw’n gofyn am ddulliau cynhyrchu llai dwys ac yn defnyddio llai o ddŵr. Bydd tyfu rhai ein hunain, os gallwn ni, yn helpu i ostwng ein hôl-troed carbon (gweler Cynllunydd Cnydau RHSar gyfer amser hau a chynaeafu cnydau gwahanol). Bydd prynu ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol yn eu tymor ac yng ngolau’r haul naturiol hefyd yn fwy caredig i’r amgylchedd na’r un bwyd a dyfir y tu allan i’r tymor (e.e. mewn tai gwydr wedi’u gwresogi), neu a allai fod wedi’u mewnforio o dramor. Cymerwch gip ar ganllaw y Gymdeithas Lysieuoli gynnyrch tymhorol a dyfir yn y DU.
Dewisiadau di-gig
Nid yw pawb eisiau bwyta cig, neu efallai bod rhai yn chwilio am ddewis amgen i gig o bryd i’w gilydd. Er bod cynhyrchion amgen i gig yn gallu bod yn hawdd eu paratoi ac yn fwy fforddiadwy na rhai mathau o gig, cadwch lygad agored am gynhwysion artiffisial, llenwyddion neu ychwanegion, siwgr ychwanegol, calorïau uwch, cyffeithyddion a lefelau braster, halen a siwgr. Ceisiwch fwyta cymaint o ffrwythau a llysiau yn eu tymor, cnau, ffa a ffacbys eraill, sy’n rhan o ddeiet iach.
Gallwch ddysgu mwy am effaith amgylcheddol gwahanol fwydydd o Ein Byd mewn Data, yma.
Beth arall allwn ni ei wneud?
Ymchwilio
Mae llawer o fwydydd yn gallu bod yn ddrwg i’r amgylchedd, felly beth am wneud ychydig o ymchwil ar sut i fwyta deiet mwy cyfeillgar i’r blaned? Mae reis dan ddŵr, er enghraifft, yn gyfrifol am draean o ddefnydd dŵr croyw blynyddol y blaned; mae siwgr yn arwain at ddinistrio cynefinoedd, ac yn golygu defnydd dwys ar ddŵr a phlaladdwyr; mae olew palmwydd (sydd i’w gael mewn llawer o fwydydd) yn un o brif achosion datgoedwigo yn y byd; mae rhai mathau o bysgod, fel tiwna asgell las ac eog, wedi’u gor-bysgota yn ddifrifol.
Osgoi pecynnu diangen
Dewiswch fwydydd nad ydynt wedi’u pecynnu os gallwch chi. Defnyddiwch eich bagiau neu gynhwysyddion eich hun y gallwch eu hailddefnyddio ar gyfer eitemau rhydd er mwyn lleihau ar becynnu. Ewch ati i ailgylchu pecynnau yn unol â chyfarwyddiadau lleol.
Meddyliwch cyn siopa am fwyd
Gallai rhywfaint o’r bwyd sy'n cael ei daflu gan gartrefi yng Nghymru fod wedi cael ei fwyta, ac mae’r deiliad tŷ cyffredin yn taflu gwerth tua £60 y mis o fwyd bwytadwy. Ewch i wefan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff am fwy o awgrymiadau a chyngor ar sut y gallai cynllunio prydau bwyd arbed arian i chi, a dysgu mwy am gamau y mae pob un ohonom yn gallu eu cymryd i leihau gwastraff bwyd.
Cyfrannu bwyd diangen
Gallwch gyfrannu bwyd nad oes ei angen arnoch i fanciau bwyd lleol. Mae gan rai archfarchnadoedd le penodol lle gallwch chi wneud hyn, neu gallwch chwilio am fanciau bwyd yn eich ardal chi. Fel arall, rhowch gynnig ar ap rhannu lleol fel Olio neu grŵp ailddosbarthu arall. I gael mynediad at fwyd dros ben yn lleol, gall elusennau a grwpiau cymunedol gofrestru ar gyfer sefydliadau ac apiau fel Too good to go, FareShare Go neu Neighbourly.
Pam gweithredu?
Gostwng eich ôl-troed carbon
Mae’r bwyd yr ydym yn ei fwyta yn gwneud cyfraniad sylweddol i’n hôl-troed carbon unigol. Trwy ddysgu mwy am y bwydydd sy’n cael yr effaith fwyaf neu leiaf ar ein planed, peidio â gwastraff bwyd bwytadwy, a dilyn Canllaw Bwyta’n Dda y GIG, gallwn gynnal deiet iach a lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd.
Cefnogi ffermio cynaliadwy a lles anifeiliaid
Trwy brynu cig lleol o ansawdd uchel pan allwn ni, byddwn yn hyrwyddo’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru sy’n chwarae rôl sylweddol yn ein heconomi, ynghyd â derbyn sicrwydd am safonau uchel o ran lles anifeiliaid
Cefnogi economi bwyd lleol amrywiol
Mae prynu bwyd lleol pan allwn ni yn gadael i ni wybod o ble mae’r bwyd yn dod, yn cadw mwy o arian yn yr economi leol, ac yn cefnogi swyddi o fewn ffermio a chynhyrchu bwyd.
Diogelu coedwigoedd glaw a bioamrywiaeth
Gallwn gefnogi nod Cymru i ddod yn genedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang a helpu i leihau ein hôl troed ecolegol trwy brynu llai o gynhyrchion bwyd wedi'u mewnforio. Mae rhai o’r bwydydd hyn yn achosi dinistr i goedwigoedd glaw a chynefinoedd anifeiliaid. Er enghraifft, gallwn wneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch llawer o'r cynhyrchion bwyd yr ydym fel arfer yn eu prynu, o goffi, i gynhyrchion sy'n cynnwys cacao, ac olew palmwydd (sydd i’w gael mewn dros 50% o'r holl eitemau wedi'u pecynnu yn ein harchfarchnadoedd). Mae’r rhain ymhlith y cyfranwyr allweddol at ddatgoedwigo byd-eang. Gweler Cenedl Dim Datgoedwigo - Maint Cymru.
Mwynhau ffrwythau a llysiau rhatach a mwy blasus
Mae tyfu ffrwythau a llysiau ein hunain, os gallwn ni, neu brynu ffrwythau a llysiau lleol ac yn eu tymor yn helpu i ostwng ein hôl-troed carbon. Mae’n rhatach, hefyd. Mae ffrwythau a llysiau tymhorol mwy ffres ac aeddfed yn blasu’n well hefyd, ac yn ein cadw mewn cysylltiad â’r tymhorau.
Gwella iechyd
Trwy ddilyn Canllaw Bwyta'n Dda y GIG, gallwn wneud dewisiadau bwyd cytbwys a fydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwella ein hiechyd.