Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -
Wedi diweddaru: 21/03/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Bwyta deiet cytbwys
Mae cynllunio ychydig bach mwy o brydau cytbwys a bwyta ychydig bach llai o fwyd sydyn yn ffordd wych o gadw’n iach ac arbed arian wrth brynu eich neges wythnosol.
Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn bwyta dognau iach, sy’n golygu bwyta’r math a’r swm cywir o fwyd i roi tanwydd i’n corff a’i gadw’n iach. Mae pawb yn wahanol, gan ddibynnu ar ffactorau megis oedran, pwysau, rhyw a lefel gweithgarwch corfforol. Dyma ganllaw maint dognau ar gyfer oedolion – a chynlluniwr dognau ar gyfer plant.
Beth allwn ni ei wneud?
Meddyliwch am y bwydydd y byddwch chi’n eu bwyta fel arfer a dewiswch yr hyn sy’n gweithio i chi, eich teulu a’ch ffordd chi o fyw. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth i’ch iechyd a’ch lles, ac i’r blaned. Dyma rai syniadau i ddechrau:
Cynlluniwch eich prydau
Meddyliwch am yr wythnos sydd i ddod a chynlluniwch y prydau fydd yn gweithio. Er mwyn peidio prynu bwyd yn ddiangen, diweddarwch eich rhestr siopa fel mai dim ond y cynhwysion sydd eu hangen arnoch sydd arni. Mae cyngor yma am sut i wneud y mwyaf o’ch bwyd gartref.
Dilynwch y canllaw Bwyta’n Dda
Gall Canllaw Bwyta’n Dda y GIG eich helpu i sicrhau eich bod yn bwyta deiet iach a chytbwys. Mae’n argymell seilio eich prydau ar garbohydradau sydd â llawer o startsh, bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd a sicrhau eich bod yn bwyta rhywfaint o gynnyrch llaeth a phrotein, a dewis bwydydd sy’n is mewn braster, siwgr a halen. Mae’n dda cael cymysgedd o brotein ar ffurf cig, pysgod ac wyau a hefyd o ffynonellau planhigion fel ffa a chorbys.
Paratowch fel teulu
Os oes gennych chi blant sydd ychydig yn ffyslyd wrth fwyta, gall paratoi prydau fod yn anodd. Beth am eu hannog i gymryd rhan wrth gynllunio prydau neu hyd yn oed i goginio prydau hawdd gyda’ch gilydd? Rhowch gynnig ar rai o’r ryseitiau addas i’r teulu hyn, sy’n ffordd wych o ddefnyddio bwyd a fyddai fel arall yn cael ei daflu efallai.
Rhowch gynnig ar swp-goginio
Mae coginio sypiau mwy o fwyd y gallwch wedyn eu rhewi a’u defnyddio’n nes ymlaen yn ffordd wych o sicrhau bod gennych brydau iach yn barod pan fydd eu hangen arnoch. Mae gan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff lawer o syniadau rysetiau am brydau addas i’w rhewi sy’n sicrhau bod bwyd yn cael ei ddefnyddio a dim byd yn cael ei wastraffu.
Mesurwch eich dognau
Gall defnyddio clorian neu gwpanau mesur eich helpu i ddeall yn well sut i gael y swm cywir o fwyd. Mae gwirio labeli bwyd yn ffordd dda o ddysgu mwy am wybodaeth maeth hefyd.
Pam gweithredu?
Trwy fwyta dim ond yr hyn sydd ei angen arnom, gallwn elwa o fanteision rheoli maint dognau – er lles ein hiechyd, ein cyllid a’r amgylchedd:
Lleihau gwastraff bwyd
Pan fyddwn yn taflu bwyd bwytadwy, rydym yn gwastraffu’r adnoddau a’r ynni a ddefnyddiwyd i’w greu. Mae’r rhain yn rhyddhau allyriadau carbon sy’n dal gwres yn atmosffer y ddaear ac yn cyfrannu at newid hinsawdd. Dyna pam ei bod mor bwysig dim ond prynu a bwyta’r hyn sydd ei angen arnom ac osgoi taflu bwyd bwytadwy.
Gwella eich iechyd a lles yn gyffredinol
Gall deiet cytbwys ein helpu i gadw ein pwysau’n iach trwy osgoi gorfwyta a gormod o galorïau, a all arwain at ordewdra a phroblemau iechyd eraill, megis diabetes. Manteision eraill bwyta’r bwyd cywir ar gyfer ein cyrff yw teimlo’n fwy egnïol ac yn llai blinedig – gan fod deiet iach yn rhoi’r maethynnau sydd eu hangen i’r corff.
Helpu eich iechyd meddwl
Mae lefelau siwgr gwaed isel yn gallu gwneud i chi deimlo’n flinedig, yn ofidus neu’n isel eich ysbryd. Drwy fwyta’r cydbwysedd cywir o fwyd, sy’n rhyddhau egni yn araf, gellir cadw lefelau siwgr yn gyson. Mae bwydydd llawn protein yn cynnwys asidau amino, sydd eu hangen ar eich ymennydd i gynhyrchu niwrodrosglwyddyddion sy’n helpu i reoleiddio eich meddyliau a’ch teimladau. Darllenwch ganllaw Mind ar fwyd ac iechyd meddwl.
Creu perthynas iach â bwyd
Mae meddwl yn ystyrlon am arferion bwyta yn gallu ein helpu i greu perthynas iachach â bwyd. Mae hyn yn golygu canolbwyntio ar fwyta prydau cytbwys a gwrando ar anghenion ein corff er mwyn osgoi gorfwyta neu beidio bwyta digon.
Arbed arian
Mae prynu llai o fwyd, cynllunio prydau, trefnu rhestr siopa a defnyddio bwyd dros ben i gyd yn ffyrdd o leihau gwastraff bwyd bwytadwy ac arbed arian. Dysgwch ragor am storio bwyd yn iawn i ymestyn ei oes ar y silff.