Dewisiadau bwyd gwyrdd
Cyhoeddi yn gyntaf: 21/06/2023 -
Wedi diweddaru: 15/08/2024 -
Gwiriwyd gan ein Panel Golygyddol
Mae ychydig mwy o fwyd iach a chynaliadwy yn ein deiet ac ychydig llai o wastraff yn wych i’n corff, i’n meddwl ac i’n planed – a gall arbed arian i ni hefyd
Yn fyd-eang, mae gwastraff bwyd yn gyfrifol am rhwng 8% a 10% o allyriadau carbon niweidiol. Yng Nghymru, y nod yw haneru ein gwastraff bwyd diangen erbyn 2025. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd, prynu’r bwyd sydd ei angen arnom yn unig, defnyddio unrhyw fwyd dros ben a chompostio neu ailgylchu gwastraff.
Gallai’r tywydd eithafol a achosir gan newid hinsawdd beryglu iechyd y pridd ac mae sychder a llifogydd yn bygwth diogelwch bwyd. Dyma reswm arall pam y mae angen i ni wneud y gorau o’n bwyd a phrynu’n lleol lle gallwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cyfleus, a blaenoriaethu cymorth lle mae ei angen fwyaf. Am gyngor a chymorth i'ch helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw ewch i llyw.cymru/help-gyda-chostau-byw.
Hyd fideo:
30 eiliad
Beth allwn ni ei wneud?
Pa gamau allwn ni eu cymryd i fwyta’n iachach a lleihau ein hallyriadau carbon trwy leihau gwastraff bwyd?
Pam mae angen gweithredu?
Y nod yw i Gymru fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Trwy wneud dewisiadau bwyd gwyrdd, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i gyrraedd hyn. Dyma rai o fanteision eraill bwyta’n iach ac yn gynaliadwy:
Arbed arian
Mae taflu bwyd yn gwastraffu arian, ynghyd â’r adnoddau a ddefnyddiwyd i’w wneud a’i gludo. Mae storio bwyd yn gywir, rhewi bwyd, coginio sypiau, defnyddio bwyd dros ben a dim ond prynu’r hyn sydd ei angen arnoch yn golygu nad oes angen i chi wario cymaint ar fwyd bob wythnos.
Cadw’n iach
Trwy ddilyn canllaw Bwyta’n Dda, byddwch yn bwyta deiet cytbwys a maethlon sy’n dda i chi, o ran eich corff a’ch meddwl.
Llai o ddeunydd pacio
Drwy feddwl am yr hyn yr ydym yn ei fwyta a phrynu bwydydd sydd ag oes silff hirach, byddwn yn defnyddio llai o becynnau plastig sy’n aml iawn yn gorchuddio bwyd sydd ag oes silff fyrrach. Mae nifer o’r prif fanwerthwyr yn rhan o Ymrwymiad ar Blastigion y DU sydd â’r nod o leihau plastigau untro diangen. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro).Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.
Cefnogi eich cymuned leol
Mae prynu'n lleol, lle y gallwch, yn helpu i gefnogi busnesau a swyddi lleol. Darganfyddwch sut y gallwch gefnogi'ch partneriaeth bwyd lleol i greu systemau bwyd lleol sy'n dda i bobl a'r blaned.
Helpu i gefnogi busnesau bwyd cynaliadwy
Trwy brynu cynnyrch Cymraeg lleol, gallwch helpu Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cynhyrchu bwyd i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn modd hollol gynaliadwy.
Lleihau effaith bwyd ar yr amgylchedd
Po leiaf o fwyd rydyn ni'n ei daflu, po leiaf yw’r effaith ar yr amgylchedd. Mae cynhyrchu, cludo, storio a rheoli gwastraff bwyd i gyd yn cael effaith ar yr amgylchedd. Trwy beidio â thaflu bwyd y gellid bod wedi’i fwyta, byddwn yn helpu i leihau effaith carbon cynhyrchu bwyd.
Beth mae Cymru yn ei wneud?
Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisoes yn cymryd camau i’n helpu i fwyta’n fwy iach a chynaliadwy, gan leihau allyriadau carbon niweidiol a achosir gan wastraff bwyd. Mae’r rhain yn cynnwys:
Partneriaethau bwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu partneriaethau bwyd ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, i hyrwyddo bwyd iach, fforddiadwy ac amgylcheddol gynaliadwy.
Darganfyddwch fwy yn Sustainable Food Places a darllenwch am Food Cardiff fel enghraifft o un o'r partneriaethau bwyd mwyaf sefydledig ac am wybodaeth a chyngor ar fwyta'n iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Casglu gwastraff bwyd
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn casglu gwastraff bwyd bob wythnos. Caiff y rhan fwyaf ohono ei drin mewn unedau treulio anaerobig a’i droi’n fio-nwy (y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan) a gwrtaith.
Hyrwyddo dognau iach
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell dilyn Canllaw Bwyta’n Dda’r GIG sy’n ein helpu i wneud dewisiadau bwyd cytbwys. Mae’n dangos i ni faint o’r hyn yr ydym yn ei fwyta dylai ddod o bob grŵp bwyd.
Pwysau Iach: Cymru Iach
Nod strategaeth 10 mlynedd Pwysau Iach: Cymru Iach Llywodraeth Cymru yw cefnogi gwneud y dewis iachach yn ddewis hawdd ac i bobl deimlo eu bod yn cael eu galluogi i wneud dewisiadau cadarnhaol am eu ffordd o fyw er mwyn cynnal pwysau iach. Mae’n ymdrech grŵp, sy’n cynnwys gweithleoedd, hysbysebu, y GIG, gofal plant, ysgolion, arweinwyr gwleidyddol a ninnau a’n teuluoedd.
Pecyn Cymorth Bwyd Cynaliadwy
Mae’r Pecyn Cymorth Bwyd Cynaliadwy, a grëwyd mewn cydweithrediad â’r eco-gogydd Tom Hunt, yn llawn awgrymiadau i gael mwy allan o’ch bwyd a’ch cyllideb – gan gynnwys syniadau ryseitiau ‘dim gwastraff’.
Gweithio gyda ffermwyr
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda ffermwyr i’w cefnogi i reoli eu tir mewn ffordd fwy cynaliadwy, mabwysiadu technolegau carbon isel, lleihau allyriadau a hyrwyddo bioamrywiaeth yn ein cymunedau gwledig.
Bwyd môr cynaliadwy
Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn nodi sut y byddwn yn cadw ein moroedd yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.
Mae Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd 2022 yn gynllun ar gyfer sut y bydd pawb yn y diwydiant pysgota yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pysgota’n gynaliadwy ac yn helpu i gadw’r amgylchedd morol yn iach, fel na fydd yn cael ei effeithio’n ormodol gan newid hinsawdd.
Mae’r llywodraeth hefyd yn rhoi cynlluniau ar waith i gasglu ac ailgylchu hen offer pysgota yng Nghymru, er mwyn atal hyn rhag cael ei daflu i’r môr.Gwella ailgylchu deunydd pacio
Fe gyflwynodd Strategaeth Mwy nag Ailgylchu gynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo costau diwedd oes llawn eu deunydd pacio ac yn cyrraedd targedau ailgylchu deunydd pacio a bennwyd i Gymru. Bydd hyn yn cynnwys labelu i’w gwneud yn haws i bobl ddeall beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu.
Lleihau nwyon tŷ gwydr
Gall lleihau gwastraff bwyd bwytadwy a chynyddu ailgylchu bwyd anfwytadwy leihau effaith bwyd ar nwyon tŷ gwydr.
Rhagor o wybodaeth
Cliciwch ar un o’r dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am fwyd iach, bwyta’n gynaliadwy a lleihau deunydd pacio.
Mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn eich helpu i gael cydbwysedd o fwyd iachach a chynaliadwy drwy ddangos faint o’r hyn a fwytewch ddylai ddod o bob grŵp bwyd.
Canllaw’r Cyngor Stiwardiaeth Forol ar brynu a bwyta bwyd môr cynaliadwy.
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer defnydd cynaliadwy o’n moroedd.
10 cam gweithredu gan y Cenhedloedd Unedig i helpu i gyfyngu ar newid hinsawdd, gan gynnwys bwyta mwy o lysiau.
Canllaw’r GIG ar fwyta deiet cytbwys.
Sut i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach ac arferion bwyd syml ar gyfer eich trefn wythnosol gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff.
Mae Ymrwymiad ar Blastigion y DU yn gweld arweinwyr busnes yn gweithio tuag at dargedau i gael gwared ar blastigau problemus ac ailddefnyddio ac ailgylchu.
Mae canllaw Bwyd a Diod Cymru ar fwyta’n gynaliadwy, gan gynnwys lleihau gwastraff bwyd, deunydd pacio ac ynni yn y gegin.
Gwybodaeth am y gwaith a wneir ar leihau gwastraff bwyd gan WRAP.
Cyllideb Carbon Cymru Sero Net 2 Llywodraeth Cymru yw ymrwymiad Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Canllaw Bydd Wych, Ailgylcha ar sut i ailgylchu gwastraff bwyd.
Effeithiau cynhyrchu bwyd ar yr amgylchedd – Gweler y mewnwelediadau allweddol ar effeithiau cynhyrchu bwyd ar yr amgylchedd.
Sut i ddechrau compostio gartref – Astudiwch ganllaw cam wrth gam ar sut i ddechrau compostio.
Arferion bwyd da – awgrymiadau a chanllawiau ar sut i wneud y gorau o’ch bwyd gartref
Mae 'Da i'r galon, da i'r ddaear' yn ganllaw ar sut gallwch chi feithrin arferion bwyta sy'n iach ac yn haneru eich allyriadau.
Get portion wise – Archwiliwch ganllaw ar faint dognau i oedolion.
Food for children – Cynllunio dognau i blant.
Canllaw Mind ar fwyd ac iechyd meddwl.
Ryseitiau addas i’r teulu cyfan gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff.
Adroddiad WRAP ar yrwyr a rhwystrau ar gyfer gwastraff bwyd gan ddefnyddwyr a bwyta'n iach yn gynaliadwy, a sut y gellid mynd i'r afael â hyn.
Gallwch gael cymorth a chyngor i’ch helpu chi gyda’r costau byw cynyddol.