Ein Dull o Ymdrin â Chywirdeb Cynnwys
Yn Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, rydym yn gweithredu er mwyn hwyluso newidiadau bach a mawr a fydd yn helpu i greu Cymru gryfach, wyrddach a thecach. Un ffordd o wneud hyn yw trwy gyfrwng y wefan hon, sef Hwb Digidol Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
Beth am ddarganfod sut rydym yn ymdrin â’n cynnwys, sut rydym yn ei greu a sut rydym yn ei adolygu er mwyn sicrhau bod popeth ar y wefan hon yn gywir, yn ddibynadwy ac yn hygyrch, a bod modd gweithredu ar ei sail.
Beth yw diben ein cynnwys?
Nod y wefan hon yw cyflwyno gwybodaeth hygyrch yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi a galluogi gweithredu sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd, trwy ddarparu enghreifftiau o ddewisiadau gwyrdd y gall pob un ohonom eu gwneud yn ein bywydau beunyddiol.
Rydym yma ar gyfer pawb sy’n chwilfrydig ynglŷn â sut y gallant fod yn rhan o’r newid a fydd yn helpu i wneud ein bywydau ni, a bywydau cenedlaethau’r dyfodol, yn fwy cynaliadwy. Gall delio â newid hinsawdd deimlo braidd yn llethol, ond gobeithio y bydd ein cynnwys yn dangos sut y gallwn gymryd camau bach gyda’n gilydd yn awr er mwyn esgor ar y newidiadau mwy y mae angen inni eu gwneud fel cenedl.
Hefyd, anelwn at ddangos sut y mae llywodraeth a busnesau Cymru yn gweithredu i gefnogi ein hymrwymiad, yn y gyfraith, i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050.
Efallai na fydd pob awgrym ac eitem ar y wefan hon yn berthnasol i bob darllenydd, ond ein hamcan yw cynnig amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn galluogi pob un ohonom i helpu.
O ble y daw’r wybodaeth sy’n sail i’n cynnwys?
Caiff cynnwys y wefan hon ei ysgrifennu trwy ddefnyddio data, gwaith ymchwil a threiddgarwch sydd wedi deillio o Lywodraeth Cymru a ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, megis y BBC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Sut y caiff yr wybodaeth ar ein safle ei hadolygu?
Caiff y ffeithiau eu gwirio a chaiff y cynnwys ei adolygu a’i gymeradwyo gan griw o olygyddion amlddisgyblaethol a phrofiadol, yn ogystal â chan ein Panel Golygyddol ni, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r meysydd canlynol yn Llywodraeth Cymru:
Yr Is-adran Newid Hinsawdd
Is-adrannau polisi sectorau yn cynnwys:
Trafnidiaeth
Iechyd
Yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau:
Bwyd a Bwyd-amaeth
Y Môr
Ynni
Tai
Is-adrannau polisi perthynol yn cynnwys:
Yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Cynaliadwyedd Llywodraeth Leol
Arloesi
Sgiliau Sero Net
Busnes a Rhanbarthau
Diogelu’r Amgylchedd
Y Gymraeg
Partneriaid cyflawni allanol yn cynnwys:
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Pwy sy’n llunio ein cynnwys?
Caiff y wefan hon ei chynhyrchu gan Lywodraeth Cymru, gyda chymorth gan gontractwyr digidol allanol a than oruchwyliaeth ein Panel Golygyddol.
Beth yw ein polisi o ran dolenni allanol?
Anelwn at lunio canllawiau ac adnoddau’n uniongyrchol pan fo modd. Dim ond at wybodaeth ac adnoddau allanol a luniwyd gan bartneriaid cyflawni cenedlaethol a rhanbarthol dibynadwy y byddwn yn cyfeirio.
Ble allwch chi rannu adborth a rhoi gwybod am wallau?
Byddem wrth ein bodd pe baech yn cysylltu â ni ynglŷn ag unrhyw beth yn ymwneud â’r wefan hon, yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer pynciau y dylem eu trafod, neu sut y gellir gwella ein cynnwys. Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
Rhif ffôn: 0300 0604400 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm)
Rhif ffôn ymholiadau rhyngwladol: (+44) 1443 845500
Cyfeiriad e-bost: climatechange@llyw.cymru
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad: customerhelp@llyw.cymru
Cyfeiriad post:
Cymorth i Gwsmeriaid
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Os byddwch angen ymweld â ni wyneb yn wyneb ac os na allwch ddod o hyd i’n cyfeiriad, ffoniwch ni neu anfonwch e-bost atom i gael cyfarwyddiadau.