Gweithredu ar Newid Hinsawdd
Yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyhoeddi argyfwng hinsawdd.
Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth. Rydym hefyd yn profi argyfwng natur. Ac ni allwn ddatrys y naill heb ddatrys y llall.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ‘ddegawd o weithredu’, gan gynnwys ymrwymiad yn y gyfraith i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Mae hefyd wedi gosod nod i ddiogelu o leiaf 30% o dir a môr Cymru erbyn 2030.
Mae’r wefan hon gan Lywodraeth Cymru yn cynnig enghreifftiau o ddewisiadau gwyrdd y gallwn eu gwneud yn ein bywydau bob dydd, ac yn dangos hefyd sut mae llywodraeth a busnesau yn gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi Strategaeth Gweithredu Hinsawdd Cymru - Ymgysylltu â'r Cyhoedd. Mae hyn yn nodi sut y bydd y dewisiadau gwyrdd hyn yn dod yn haws ac yn fwy fforddiadwy dros amser, a sut y bydd cefnogaeth yn cael ei gyrru gan gydraddoldeb, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Gall pob un ohonom gymryd camau i helpu ein cymunedau, arbed arian, gwella lles a chreu Cymru lanach a gwyrddach.
Gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.