Adnoddau
Helpwch ni i ledaenu’r gair am newid hinsawdd a’r camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Ar y dudalen hon, rydym wedi casglu dolenni i fideos defnyddiol a deunydd ysgrifenedig i chi ei rannu gyda'ch rhwydweithiau, gan gefnogi'r alwad i bawb gymryd rhan. Yn ogystal, rydym wedi casglu cyfres o adroddiadau a chyhoeddiadau ar newid hinsawdd sydd i'w gweld ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru.
Os oes gennych unrhyw ddeunydd addas yr hoffech i ni ei gynnwys ar y dudalen hon (neu ar wefan Wythnos Hinsawdd Cymru) yna e-bostiwch fanylion at newidhinsawdd@llyw.cymru.
Hinsawdd a Natur
Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ac asedau ymgyrchoedd amgylcheddol (Llywodraeth Cymru)
Lawrlwythwch a rhannwch asedau ymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, ac asedau ymgyrchoedd amgylcheddol cysylltiedig eraill. Mae rhagor o wybodaeth yma a gallwch gofrestru i gael mynediad yma.
Ffilm Gweledigaeth Hinsawdd (Llywodraeth Cymru)
Mae’r ffilm fer hon yn cyfleu'r weledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach, decach.
Ffilmiau Lleisiau Cymunedol (Llywodraeth Cymru)
Cliciwch ar y ddolen hon i gael mynediad at gyfres o ffilmiau byr sy'n cyfleu barn pobl am newid hinsawdd, tegwch, busnes a gwaith, trafnidiaeth, pweru a gwresogi cartrefi, bwyta a rheoli gwastraff.
Newid hinsawdd a ffeithlun iechyd (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Archwiliwch y ffeithlun Iechyd Cyhoeddus Cymru hwn sy'n tynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar ein hiechyd a'n lles, a rôl natur wrth gefnogi ein hiechyd a'n lles.
Deall Newid Hinsawdd (Earthrise)
Mae’r Breakdown yn gyfres 5 rhan fer sy'n archwilio'r argyfwng hinsawdd drwy edrych ar sut y cyrhaeddom ni yma, i ba gyfeiriad rydym yn mynd, a beth allwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth i gyflwr yr amgylchedd.
Siarad â'ch plant am Newid Hinsawdd (Unicef)
Mae’n gallu bod yn anodd gwybod pa mor fanwl neu onest y dylech fod gyda phlant wrth drafod yr argyfwng hinsawdd. Yn ffodus, mae ffyrdd gobeithiol a phriodol yn ddatblygiadol o fynd i'r afael â'r drafodaeth, fel bod plant yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u grymuso. Mae UNICEF yn rhannu'r awgrymiadau defnyddiol hyn ar sut i drafod newid hinsawdd gyda phlant o bob oed.
Adnoddau Addysg i blant, rhieni ac athrawon (Maint Cymru)
Mae Maint Cymru yn darparu adnoddau addysgol rhad ac am ddim sy'n cefnogi gwersi ar newid hinsawdd a choedwigoedd trofannol.
Dewisiadau Ynni Gwyrdd ar gyfer y Cartref
Awgrymiadau am arbed ynni yn y cartref (Ymddiriedolaeth Arbed Ynni)
Dilynwch awgrymiadau’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni am ffyrdd cyflym a hawdd o arbed ynni, gostwng eich biliau a lleihau eich ôl troed carbon.
Dewisiadau Trafnidiaeth Gwyrdd
Ap teithio symudol (Trafnidiaeth Cymru)
Mae ap Trafnidiaeth Cymru yn eich helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac osgoi unrhyw oedi neu newidiadau.
Taflenni teithio llesol rhad ac am ddim (Sustrans)
Gallwch gael taflenni teithio llesol a mapiau rhad ac am ddim gan Sustrans.
Mapiau rhwydwaith teithio llesol (MapDataCymru)
Dod o hyd i lwybrau beicio a cherdded yng Nghymru gan ddefnyddio Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol.
Map o bwyntiau gwefru cerbydau trydan (Trafnidiaeth Cymru)
Gweler Trafnidiaeth Cymru ar gyfer map o bwyntiau gwefru cerbydau trydan yng Nghymru.
Dewisiadau Bwyd Gwyrdd
Canllaw ar fwyta deiet iach a chytbwys (Llywodraeth Cymru)
Lawrlwythwch y canllaw Bwyta'n Dda sy'n dangos y cyfrannau o wahanol fathau o fwydydd sydd eu hangen i gael diet cytbwys ac iach.
Pecyn cymorth cynaliadwyedd bwyd (Llywodraeth Cymru)
Mynnwch awgrymiadau gwych ar sut i leihau eich gwastraff bwyd, pecynnu a defnydd ynni yn y gegin gyda'r pecyn cymorth bwyta cynaliadwy hwn. Dewch i ddarganfod ryseitiau 'dim gwastraff', yn ogystal â phrydau tymhorol blasus eraill gan yr eco-gogydd Tom Hunt, a ffyrdd o fwyta'n gynaliadwy ar gyllideb. Darllenwch neu lawrlwythwch y pecyn cymorth yma.
Calendr tymhorol (Llywodraeth Cymru)
Edrychwch ar y Canllaw hawdd i'w defnyddio hwn i ddarganfod gwybodaeth am fwydydd tymhorol a phryd maen nhw ar gael. Mae bwyta'n dymhorol yn golygu eich bod chi'n cael cynnyrch ar ei orau, pan fydd yn blasu ar ei orau, am y pris gorau, heb amharu ar y blaned. Defnyddiwch yr allwedd i adnabod bwyd tymhorol a phryd mae ar gael.
Dewisiadau Dyddiol
Fideos ac asedau ar ailgylchu y gellir eu hargraffu (WRAP)
Lawrlwythwch gyfres o fideos ac asedau ymgyrchu ar ailgylchu y gellir eu hargraffu gan WRAP.
Podlediad arbed dŵr (Cyngor Defnyddwyr Dŵr)
Mae'r podlediad hwn, Waterfall, gan ddau o arbenigwyr blaenllaw y Cyngor Defnyddwyr Dŵr, Mike Keil a Karen Gibbs, yn trafod pam a sut y dylem ni arbed dŵr. Gwrandewch yma neu ar y mwyafrif o lwyfannau podledu, gan gynnwys iTunes, Spotify a Google.